Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant y’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya)
Rhan 6
Rhaglith Y darpariaethau a wneir yn Rhan 6, cyd-destun a diben, 4
ac egwyddorion gan gynnwys iechyd ac addysg
1 Cynlluniau Gofal a Chymorth 10
Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â chynlluniau gofal achymorth, gan gynnwys iechyd ac addysg
2 Lleoliadau 26
Sut mae plant sy’n derbyn gofal yn cael eu lletya a’u cynnal
3 Cadw mewn cysylltiad 59
Ymweliadau â phlant sy’n derbyn gofal a phlant dan gadwad, a rôl ymwelwyr annibynnol
4 Adolygu achosion 70
Rôl a swyddogaethau’r Swyddog Adolygu Annibynnol
5 Gadael gofal 76
Trefniadau ar gyfer gadael gofal, cynghorwyr personol, cynlluniau ac asesiadau llwybrau, llety addas a chymorth ar gyfer addysg uwch
6 Trefniadau byw ôl-18 123
Datblygu trefniadau ar gyfer y rhai 18 oed a hyn sy’n gadael gofal i carhau i fyw gyda’u cyn ofalwyr maeth
7 Llety Diogel 136
Plant sy’n cael eu lletya mewn cartrefi diogel i blant
8 Plant sy’n cael eu lletya mewn mathau o sefydliadau eraill 146
Plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac addysg, neu mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol
9 Marwolaeth plentyn sy’n derbyn gofal 148
Hysbysu am farwolaeth plentyn sy’n derbyn gofal, a threfniadau eraill mewn perthynas â marwolaeth plentyn sy’n derbyn gofal
1. Cyhoeddir y cod ymarfer hwn o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).
2. Derbyniodd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gydsyniad brenhinol ar 1 Mai 2014 i fod yn Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. At ddibenion Rhan 6 o’r Ddeddf a’r cod hwn, bydd y Ddeddf yn dod i rym ar 6 Ebrill 2016.
3. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, weithredu yn unol â gofynion y cod hwn. Nid yw adran 147 (Gwyro oddi wrth ofynion mewn codau) yn berthnasol i unrhyw ofynion yn y cod hwn. Yn ogystal, mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyflwynir yma.
4. Nodir swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn atodlen 2 i’r Ddeddf. Yn y cod hwn, mae gofyniad yn cael ei fynegi fel “rhaid” neu “ni chaniateir/rhaid...beidio”. Mae canllawiau yn cael eu mynegi fel “gall” neu “dylai/ ni ddylai”.
5. Mae’r cod ymarfer hwn yn cynnwys canllawiau ar y dyletswyddau yn Rhan 6 adrannau 74 - 125 o’r Ddeddf, a rheoliadau o dan adrannau 81, 83, 87, 97, 98, 99, 100, 101, 102, 104, 106, 107, 108, 109, 116, 117, 119 a 122 o’r Ddeddf.
6. Wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya, mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’w dyletswyddau hollgyffredinol i roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel y’i nodir yn adran 7 o’r Ddeddf.
7. Mae awdurdodau lleol yn gweithredu oddi mewn i’r fframwaith polisi cyffredinol a bennir gan Lywodraeth Cymru. Mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal, mae bwriadau polisi Gweinidogion Cymru yn cynnwys ceisio lleihau’r angen am ymyrraeth ffurfiol ym mywydau plant a phobl ifanc, a chryfhau gallu teuluoedd i ofalu am eu plant lle y bo’n ddiogel gwneud hynny. I’r plant hynny sy’n dod yn blant sy’n derbyn gofal, mae’r Rhaglen Lywodraethu a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn nodi pwysigrwydd gwella eu bywydau a’u llesiant. Mae cefnogi cyrhaeddiad addysgol plentyn yn hanfodol yn y cyswllt hwn, gan ei alluogi i wireddu ei botensial yn llawn. Cyn bo hir byddwn ni’n cyhoeddi ein strategaeth ar ‘Codi uchelgeisiau a chyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal’.
Eiriolaeth
8. Rhaid i unigolyn deimlo ei fod yn bartner cydradd yn ei berthynas â gweithwyr proffesiynol. Mae'n agored i unrhyw unigolyn wahodd rhywun o'i ddewis i'w helpu i gyfranogi'n llawn a mynegi ei farn, ei ddymuniadau a'i deimladau. Gall y cymorth hwn gael ei ddarparu gan ffrindiau rhywun, ei deulu neu rwydwaith cymorth ehangach.
9. Mae'r cod ymarfer penodol ar eiriolaeth o dan Ran 10 o'r Ddeddf yn nodi'r swyddogaethau pan fydd yn rhaid i awdurdod lleol, mewn partneriaeth â'r unigolyn, lunio barn ynglŷn â sut y gallai eiriolaeth gefnogi'r broses o ddyfarnu a
sicrhau canlyniadau personol unigolyn; ynghyd â'r amgylchiadau pan fydd yn rhaid i awdurdod lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol. Rhaid i weithwyr proffesiynol ac unigolion sicrhau bod barn ynglŷn â'r angen am eiriolaeth yn rhan annatod o'r dyletswyddau perthnasol o dan y cod hwn.
Y darpariaethau a wneir yn Rhan 6
10. Mae Rhan 6 o’r Ddeddf (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya):
(a) yn darparu ar gyfer dehongli’r cyfeiriadau at blentyn neu berson ifanc sy’n
derbyn gofal gan awdurdod lleol (adran 74);
(b) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol
· sicrhau digon o lety yn eu hardaloedd i’r plant y maent yn gofalu
amdanynt (adran 75), a
· lletya plant heb rieni neu sydd ar goll neu wedi eu gadael neu sydd dan
amddiffyniad yr heddlu neu wedi eu cadw’n gaeth neu ar remand (adrannau
76 a 77);
(c) yn darparu ar gyfer swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant y maent yn gofalu amdanynt (adrannau 75 i 103, 124 a 125);
(d) yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle y caiff, neu lle y mae’n rhaid i
awdurdodau lleol ddarparu cymorth i bobl ifanc
· sy’n gadael, neu sydd wedi gadael, gofal awdurdod lleol
· a oedd gynt yn cael eu lletya mewn sefydliadau penodol
· a oedd gynt yn cael eu maethu;
· y mae neu yr oedd gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig mewn grym
· mewn cysylltiad â hwy (adrannau 104 i 118)
(e) yn darparu ar gyfer lleoli plant mewn llety diogel (adran 119)
(f) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd neu awdurdodau addysg neu mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol a darparu ymweliadau a gwasanaethau i’r plant hynny (adrannau 120 i 123)
(g) yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfraniadau tuag at
gynnal plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.
11. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio cynorthwyo’r gwaith o weithredu’r Ddeddf drwy broses sy’n ymgysylltu’n llawn â’n rhanddeiliaid. Elfen ganolog o’r dull gweithredu hwn yw’r broses o sefydlu grwpiau technegol sy’n cynnwys cynrychiolwyr â’r arbenigedd perthnasol, y wybodaeth dechnegol a’r profiad ymarferol i weithio gyda swyddogion ar y polisi manwl sydd ei angen i ddatblygu’r rheoliadau a chod ymarfer a fydd yn eu tro yn gwireddu’r dyheadau polisi sy’n sylfaen i’r Ddeddf. Mae’r cod hwn yn un o ganlyniadau’r ymarferiad cyd-gynhyrchu.
Amcan a chwmpas
12. Amcan y cod hwn yw cyflwyno cyfrifoldebau awdurdodau lleol o dan y Ddeddf ar gyfer:
· cynlluniau gofal a chymorth mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, gan gynnwys addysg ac iechyd
· sut y dylid lletya a chynnal plant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys lleoliadau plant sy’n derbyn gofal
· cyswllt ac ymweliadau â phlant sy’n derbyn gofal a phlant a arferai dderbyn gofal, gan gynnwys ymwelwyr annibynnol
· trefniadau ar gyfer gadael gofal, cynghorwyr personol, cynlluniau ac asesiadau llwybrau, llety addas a chymorth ar gyfer addysg uwch
· llety diogel
· plant sy’n cael eu lletya mewn mathau eraill o sefydliadau (gan awdurdodau iechyd ac addysg, neu mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol).
13. Mae’r cod ymarfer hwn yn disodli canllawiau statudol blaenorol ar y materion hyn.
14. Dylid darllen y cod hwn ar y cyd â’r cod ymarfer ar Ran 11, sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc mewn llety cadw ieuenctid, mewn carchar neu mewn llety mechnïaeth. Mae rhai o ddarpariaethau’r Ddeddf yn ymwneud â sut y dylid cynnal a/neu letya plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal yn cael eu datgymhwyso os caiff y plentyn neu’r person ifanc ei gollfarnu o drosedd a’i gadw yn y sefydliad diogel. Mae’r darpariaethau hyn yn cael eu cymhwyso eto pan gaiff y plentyn neu’r person ifanc ei ryddhau.
Cyd-destun a diben y cod ymarfer hwn
15. Mae’r Ddeddf yn darparu fframwaith statudol i gyflawni rhwymedigaeth Llywodraeth Cymru i integreiddio gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cynorthwyo pobl o bob oed, a chynorthwyo pobl fel rhan o deuluoedd a chymunedau. Bydd yn gweddnewid sut mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu, yn bennaf drwy hyrwyddo annibyniaeth pobl i roi llais a rheolaeth gryfach iddynt. Bydd integreiddio a symleiddio’r gyfraith hefyd yn rhoi mwy o gysondeb ac eglurdeb i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol, eu gofalwyr, staff awdurdodau lleol a’u sefydliadau partner, y llysoedd a’r farnwriaeth. Mae’r Ddeddf yn hyrwyddo cydraddoldeb, gwelliannau mewn ansawdd gwasanaethau ac wrth ddarparu gwybodaeth i bobl, a ffocws cyffredin ar atal ac ymyrraeth gynnar.
16. Yn gyffredinol, mae Rhan 2 a Rhan 6 o’r Ddeddf, ac Atodlen 1 i’r Ddeddf, yn disodli Rhan 3 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 2 iddi. Nid yw adran 17 o’r Ddeddf Plant (plant mewn angen) yn cael ei hailadrodd yn Rhan 6, gan fod asesu plant mewn angen a’u teuluoedd, a darparu unrhyw wasanaethau i ddiwallu’r anghenion hynny, yn cael eu cynnwys o dan y darpariaethau ar asesu a diwallu anghenion unigolion o dan Ran 3 a 4 o’r Ddeddf.
17. Bydd angen i’r broses o roi’r cod hwn ar waith fod yn gyson â’r cod ymarfer mewn perthynas â Rhan 2 o’r Ddeddf, sy’n nodi’r Fframwaith Canlyniadau ar gyfer gofal a chymorth. Hefyd, bydd angen sicrhau cysondeb â’r dyletswyddau o dan Ran 11 mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sydd mewn llety cadw ieuenctid neu’r carchar, er mwyn sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn y lleoliadau hyn a
oedd yn derbyn gofal cyn cael eu dedfrydu yn parhau i gael eu hasesu a’u bodloni yn y sefydliad diogel. Bydd plant sy’n cael eu remandio yn y ddalfa yn yr ystad ddiogeledd yn dod yn blant sy’n derbyn gofal (a bydd Rhan 6 yn berthnasol iddynt) nes eu bod yn cael eu rhyddhau neu’n cael eu dedfrydu i gaethiwed yn y sefydliad diogel.
Egwyddorion
18. Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswyddau clir ar unigolion ac awdurdodau lleol wrth gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal a phlant a phobl ifanc sy’n cael eu lletya.
19. Mae’n rhaid i berson sy’n cyflawni unrhyw swyddogaethau o dan Ran 6 roi sylw i’r dyletswyddau hollgyffredinol a nodir yn adran 6 o’r Ddeddf. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw un sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal neu blentyn neu berson ifanc sy’n cael ei letya, neu mewn perthynas â’r rhai sy’n gadael gofal neu sydd wedi gadael gofal (yn unol â’r categorïau yn adran 104):
· ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn neu’r person ifanc, a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol
· rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas y plentyn neu’r
person ifanc
· rhoi sylw i nodweddion, diwylliant a chredoau’r plentyn neu’r person
ifanc(gan gynnwys, er enghraifft, iaith)
· rhoi sylw i bwysigrwydd darparu cymorth priodol er mwyn galluogi’r
plentyn neu’r person ifanc i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arno (i’r graddau sy’n briodol o dan yr amgylchiadau, yn enwedig pan fo gallu’r plentyn neu’r person ifanc i gyfathrebu wedi’i gyfyngu am unrhyw reswm) adran 6(2)
20. Hefyd, mae’n rhaid i unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan unrhyw ran o’r Ddeddf mewn perthynas â phlentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth, neu y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth, neu mewn perthynas â phlentyn y mae swyddogaethau yn arferadwy mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 6:
· roi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo magwraeth y plentyn gan deulu’r
plentyn, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â hyrwyddo llesiant y
plentyn
· pan fo’r plentyn o dan 16 oed, ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â llesiant y plentyn, ac yn rhesymol ymarferol -adran 6(4)
21. Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd benodol (adran 7(2)) ar bobl sy’n arfer swyddogaethau o dan unrhyw ran o’r Ddeddf i roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
22. Mae’r cod ymarfer mewn perthynas â Rhan 2 o’r Ddeddf yn rhoi rhagor o ganllawiau ar y Confensiwn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer ymarferwyr ar gael yn: www.childrensrightswales.org.uk.
Mae gwybodaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ar gael yn: http://www.hawliauplant.cymru/
23. Yn ogystal â chonfensiynau ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig a nodir yn y Ddeddf, mae’r cod ymarfer mewn perthynas â Rhan 2 hefyd yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl wrth gyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â phobl anabl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr anabl sydd angen cymorth. Mae Erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn nodi hawliau pobl anabl, ac maent ar gael ar: http://www.un.org/disabilities/convention/conventionfull.shtml
24. Mae prif ddyletswydd awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal wedi’i nodi a’i disgrifio yn adran 78 o’r Ddeddf. Y brif ddyletswydd yw bod yn rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn:
· ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn
· defnyddio gwasanaethau sydd ar gael i blant, y mae eu rhieni eu
hunain yn gofalu amdanynt, mewn modd sy’n ymddangos yn rhesymol i’r
awdurdod yn achos y plentyn.
25. Mae diogelu a hyrwyddo llesiant plentyn sy’n derbyn gofal yn cynnwys, er enghraifft:
· dyletswydd i hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol y plentyn
· dyletswydd i asesu, o bryd i’w gilydd, a oes gan y plentyn anghenionam
ofal a chymorth, a sicrhau bod anghenion cymwys yn cael eu diwallu
26. Yn ogystal, o dan adran 78, cyn gwneud unrhyw benderfyniad mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal (neu blentyn y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu gofalu amdano), mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i:
· barn, dymuniadau a theimladau unrhyw berson y mae ei farn, ei
ddymuniadau a’i deimladau yn berthnasol ym marn yr awdurdod
· argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac
ieithyddol y plentyn.
27. Dan rai amgylchiadau eithriadol, mae’n bosibl y bydd angen i awdurdod lleol arfer ei bwerau mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal mewn ffordd sy’n anghyson â’r dyletswyddau hyn. Caiff awdurdod lleol wneud hynny, ond dim ond er mwyn amddiffyn aelodau’r cyhoedd rhag niwed difrifol - Adran 78(4)
28. Mae’r darpariaethau manwl yn y cod hwn wedi’u hysgrifennu i adlewyrchu’r dyletswyddau hollgyffredinol hyn ar awdurdodau lleol ac ar unigolion mewn awdurdodau lleol a chyrff eraill sy’n arfer unrhyw un o’r swyddogaethau yn Rhan 6.
Canlyniadau llesiant
29. Diben cyffredinol Rhan 6 yw diogelu a hyrwyddo llesiant plant sy’n derbyn gofal, plant sy’n cael eu lletya a’r rhai sy’n gadael gofal, a galluogi pob plentyn neu berson ifanc i adfer a gwella o niwed y gorffennol. Mae hefyd yn ceisio hyrwyddo
cryfder a chyflawni canlyniadau llesiant personol. Caiff llesiant ei ddiffinio yn adran 2 o’r Ddeddf ac yn y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ar gyfer pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt. Bydd canlyniadau llesiant personol plentyn neu berson ifanc yn gysylltiedig â’r
canlyniadau llesiant cenedlaethol ac yn adlewyrchu amgylchiadau, anghenion a dyheadau penodol y plentyn neu’r person ifanc unigol. Bydd barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn neu’r person ifanc, a (lle bo hynny’n briodol) barn, dymuniadau a theimladau ei rieni, yn hollbwysig wrth benderfynu beth yw’r canlyniadau personol a sut y gellir eu sicrhau. Bydd y graddau y gall plentyn neu berson ifanc gyfrannu at y broses o ddiffinio a chyflawni’r canlyniadau yn dibynnu ar ei oedran a’i ddealltwriaeth, a dylai’r unigolyn gael cymorth yn y cyswllt hwn gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a phobl eraill gysylltiedig, gan gynnwys (fel sy’n briodol) ei rieni, ei deulu a’i ffrindiau, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion adolygu annibynnol, eiriolwyr ac ymwelwyr annibynnol.
30. Yn gyffredinol, nodir canlyniadau llesiant personol plentyn neu berson ifanc o dan y penawdau canlynol:
· amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod
· hyrwyddo iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol
· hyrwyddo datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac
ymddygiadol
· cynnal neu ddatblygu cysylltiadau teuluol neu gysylltiadau personol
arwyddocaol eraill
· cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden
· datblygu a chynnal cysylltiadau cymdeithasol a chymryd rhan yn y
gymuned leol
· llesiant cymdeithasol ac economaidd (gan gynnwys peidio â byw mewn
tlodi)
· byw mewn llety addas.
Eiriolaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac eraill a nodir o dan Ran 10 o’r Ddeddf
31. Mae adran 178 o’r Ddeddf yn cadw dyletswyddau statudol presennol awdurdodau lleol i wneud trefniadau i ddarparu cymorth (eiriolaeth) ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, plant a oedd yn derbyn gofal gynt ac eraill sy’n cael eu nodi sy’n bwriadu cyflwyno sylwadau o dan adrannau 174,176 a 177.
32. Mae’r cod ymarfer dynodedig ar eiriolaeth yn darparu canllawiau penodol ar gyfrifoldebau awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth i blant:-
· sy’n derbyn gofal neu sy’n cael eu lletya gan awdurdod lleolsydd wedi cadw hawliau fel plant a fu’n derbyn gofal gynt
· y mae’r awdurdod lleol yn arfer swyddogaeth ar eu cyfer o dan y
rhannau canlynol o’r Ddeddf: Rhan 3 (asesu anghenion); Rhan 4 (diwallu
anghenion); Rhan 5 (codi tâl ac asesiad ariannol); Rhan 6 (plant sy’n derbyn
gofal a phlant sy’n cael eu lletya); a Rhan 7 (diogelu); neu y mae’n arfer
swyddogaeth ar eu cyfer o dan Ran 4 (gofal a goruchwylio) a Rhan 5
(amddiffyn plant) o Ddeddf Plant 1989,
· sy’n gwneud, neu’n bwriadu gwneud, sylwadau o dan adrannau 174 i176 o’r Ddeddf.
33. Os yw plant neu bobl ifanc yn credu nad yw pryder neu broblem yn cael ei datrys a’u bod yn bwriadu neu’n ystyried gwneud sylwadau, mae’n rhaid i’r awdurdodau lleol sicrhau bod y plant yn gwybod bod gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ar gael, a chynorthwyo plant penodol i ddefnyddio’r gwasanaethau.
Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â chynlluniau gofal a chymorth Rhan 6, gan gynnwys iechyd ac addysg
Diben
34. Mae cynlluniau ac adolygiadau o achosion gofal a chymorth yn dwyn ynghyd plant sy’n derbyn gofal, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol er mwyn cynllunio gofal a chymorth y plentyn ac adolygu’r cynllun yn rheolaidd. Mae asesu anghenion plant a phenderfynu sut i ddiwallu’r anghenion hynny yn rhan allweddol o waith cymdeithasol yn ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal, ac mae’r pwnc hwn yn cael ei drafod yn fanylach yn y rheoliadau a’r cod ymarfer yn ymwneud â Rhan 3 a Rhan 4 o’r Ddeddf. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, mae angen deall pwysigrwydd cynllunio a’r fframwaith cysyniadol ac ymarferol ar gyfer cynllunio. Diben y cyfryw fframwaith yw:
· sicrhau bod plant, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn cael eu trin mewn
ffordd agored a gonest a’u bod yn deall y penderfyniadau sy’n cael eu
gwneud
· darparu eglurdeb ynglŷn â dyrannu cyfrifoldebau a thasgau, yng nghyd
destun rhianta ar y cyd gan rieni’r plentyn, gofalwyr a’r awdurdod lleol yn
rhinwedd ei swydd fel rhiant corfforaethol, a sicrhau bod gweithredoedd yn
gwella canlyniadau
· amlygu atebolrwydd o ran sut mae awdurdodau lleol yn arfer eu
swyddogaethau o dan y Ddeddf.
35. Mae rheoliadau yn pennu’r trefniadau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol eu gwneud er mwyn gofalu am blentyn. Mae’r broses o greu cynllun gofal a chymorth yn elfen ganolog o’r gofynion hyn. Bydd y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal yn adeiladu ar unrhyw gynllun blaenorol a wnaed o dan Ran 4 o’r Ddeddf. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am sut y caiff anghenion llesiant a datblygiadol y plentyn eu diwallu, yn ogystal â’r trefniadau ar gyfer gofal presennol a gofal mwy hirdymor y plentyn. Mae’n sicrhau bod cynllun hirdymor ar waith ar gyfer magwraeth y plentyn (‘y cynllun ar gyfer sefydlogrwydd’) a bod pawb yn gweithio tuag ato, gan gynnwys y tîm o amgylch y plentyn, y plentyn, a (lle bo hynny’n briodol) teulu’r plentyn. Dylai’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 nodi’r canlyniadau llesiant dymunol ar gyfer y plentyn a chyfraniad pob asiantaeth at sicrhau’r canlyniadau. Bydd yr eglurdeb hwn yn cefnogi adolygiadau effeithiol o achos y plentyn er mwyn monitro’r cynnydd a wnaed tuag at fodloni’r amcanion tymor byr a hirdymor ar gyfer y plentyn, teulu’r plentyn a’r gofalwyr.
Cysylltiad â chynlluniau eraill
36. Y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yw’r cynllun hollgyffredinol ar gyfer y plentyn sy’n derbyn gofal, ac mae’n crynhoi’r holl wybodaeth allweddol sy’n deillio o asesiad o anghenion datblygiadol y plentyn ac unrhyw asesiadau eraill o’r plentyn a’i deulu. Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau CPPCR”) hefyd yn nodi bod angen paratoi cynllun iechyd, cynllun addysg personol a chynllun lleoli ar gyfer y plentyn, ond dylai’r rhain fod yn rhan annatod o gynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol y plentyn.
37. Pan fydd person ifanc yn troi’n 16 oed, bydd y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn cael ei gynnwys yn ei gynllun llwybr, a fydd yn nodi’r camau sydd eu hangen i helpu’r person ifanc i bontio’n llwyddiannus i fyd oedolion a rhagor o annibyniaeth.
Sefydlogrwydd
38. Bydd sicrhau ‘sefydlogrwydd’ yn ystyriaeth allweddol unwaith y bydd plentyn yn dechrau derbyn gofal, a dylai’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 nodi sut i wneud hyn o’r dechrau. Mae sefydlogrwydd yn cynnwys sefydlogrwydd emosiynol (ymlyniad) a sefydlogrwydd cyfreithiol (pwy sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn). Mae’r ddwy elfen yn rhoi teimlad o ddiogelwch, parhad, ymrwymiad a hunaniaeth i’r plentyn. Mae sefydlogrwydd yn darparu fframwaith sylfaenol ar gyfer gwaith cymdeithasol o bob math yn ymwneud â phlant a theuluoedd, o gymorth i deuluoedd i fabwysiadu. Mae cynllunio ar gyfer sefydlogrwydd yn sicrhau bod gan blant deulu diogel, sefydlog a chariadus i’w cefnogi yn ystod plentyndod ac ar ôl hynny, ac un o swyddogaethau allweddol y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yw sicrhau bod gan bob person ifanc gynllun sefydlogrwydd erbyn yr ail adolygiad.
39. Mae dewisiadau amrywiol ar gael ar gyfer sefydlogrwydd, a gall pob un ohonynt sicrhau canlyniadau da ar gyfer plentyn.
40. Mae modd sicrhau sefydlogrwydd i rai plant drwy eu dychwelyd yn llwyddiannus at eu teulu biolegol ar ôl mynd i’r afael â’r ffactorau yn eu bywyd teuluol a arweiniodd atynt yn cael eu rhoi mewn gofal. Dylid gwneud hyn drwy asesu’r canlynol mewn ffordd fanwl a chyson:
· Anghenion y plentyn (gan gynnwys ei oedran a pha mor agored i niwed ydyw);
· Ffactorau risg ac amddiffynnol;
· Gallu’r rhieni i ddiwallu anghenion y plentyn, y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud hynny a sut bydd yn cael ei ddarparu;
· Gallu’r rhieni i newid.
41. Bydd y swyddog adolygu annibynnol yn gyfrifol am sicrhau bod yr asesiad uchod wedi’i gwblhau, bod cymorth ar gael, ac am adolygu anghenion y plentyn a’r rhieni yn rheolaidd.
42. Mewn achosion lle mae’r plentyn yn dychwelyd adref, ac nad yw’n derbyn gofal bellach, mae’n rhaid i’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 gynnwys gwybodaeth am y cyngor a’r cymorth y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu eu darparu ar gyfer plentyn a’i deulu pan na fydd y plentyn bellach yn derbyn gofal ganddo. Dylid ceisio osgoi cyfnodau gofal rheolaidd sy’n gallu niweidio plant yn yr hirdymor.
43. Bydd gan y rhan fwyaf o blant berthynas o ryw fath â’u teulu biolegol, hyd yn oed os nad ydynt yn dychwelyd adref. Mae’n rhaid rheoli’r berthynas hon, felly mae cofnodi profiadau bywyd a gwaith cyswllt yn hanfodol wrth helpu plant a phobl ifanc i ddeall eu hunaniaeth.
44. I blant eraill, gall llwybrau tuag at sefydlogrwydd gynnwys gofal sy’n cael ei ddarparu gan aelodau’r teulu a ffrindiau, yn enwedig pan fydd yn bosibl defnyddio gorchymyn cyfreithiol fel gorchymyn trefniadau plant, gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig, neu mewn achosion prin, mabwysiadu, i gefnogi’r gofal.
45. Llwybr pwysig arall i sefydlogrwydd yw gofal maeth hirdymor lle mae ymlyniadau wedi datblygu a lle y cytunir (drwy’r broses cynllunio ac adolygu gofal) y bydd y plentyn yn aros yn y lleoliad hwn nes troi’n oedolyn.
46. Ar gyfer plant sy’n methu dychwelyd at eu teulu biolegol neu eu teulu ehangach, mae mabwysiadu yn cynnig teulu newydd gydol oes sy’n sefydlog yn gyfreithiol.
47. Gall cynllunio dau drywydd, cynllunio cyfatebol neu drefniadau ‘maethu i fabwysiadu’ ddarparu modd o sicrhau sefydlogrwydd yn gynnar yn y broses ar gyfer rhai plant sy’n derbyn gofal. Mae rhagor o wybodaeth am drefniadau ‘maethu i fabwysiadu’ ar gael ym mhennod 2 o’r Cod hwn.
48. Bydd y broses gynllunio yn nodi pa opsiwn sydd fwyaf tebygol o ddiwallu anghenion y plentyn unigol ar ôl ystyried cyfraniadau’r holl asiantaethau sydd wedi ymwneud â’r plentyn a dymuniadau a theimladau’r plentyn ei hun. Bydd manylion y broses, a’r trefniadau ar gyfer ei gweithredu, yn cael eu nodi yn y cynllun gofal a chymorth Rhan 6.
49. Bydd angen rhoi ystyriaeth arbennig i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer plant hŷn. Mae’n bosibl na fydd y bobl ifanc hyn yn gallu byw gyda’u rhieni biolegol am amryw o resymau, ac efallai y bydd yn well ganddynt fyw mewn cartref plant yn hytrach na bod mewn cartref maeth neu gael eu mabwysiadu. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r broses cynllunio gofal a chymorth nodi oedolion, fel aelodau o’r teulu ehangach, ffrindiau neu unigolion perthnasol eraill, sy’n gallu darparu cymorth emosiynol a pherthynas o ymddiriedaeth hirdymor a fydd yn sicrhau cymorth cyson, yn enwedig yn ystod cyfnodau pontio. Gall gwaith o ansawdd da gyda theuluoedd helpu pobl ifanc i godi pontydd yn ôl at eu rhieni, neu at aelodau eraill o’r teulu sy’n gallu darparu cymorth posibl hyd yn oed os nad oes modd i’r person ifanc fyw gartref.
Hyrwyddo cyswllt rhwng plentyn a theulu
50. Un o egwyddorion allweddol y Ddeddf yw’r angen am gyswllt rheolaidd rhwng y plentyn a’i deulu tra bod y plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol. Dylai awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â’r teulu a’r plentyn neu’r person ifanc, fel bod modd iddo gael ei aduno â’r teulu lle bo hynny’n bosibl, cyn belled â bod hyn yn gyson â llesiant y plentyn unigol. Dylai trefniadau cyswllt ganolbwyntio ar anghenion y plentyn. Llesiant y plentyn yw’r ystyriaeth bwysicaf bob amser, a dylid ystyried ac asesu yn rheolaidd safbwyntiau, dymuniadau ac anghenion cyswllt pob plentyn. Mae perthynas llawer o blant ag aelodau’r teulu, gofalwyr blaenorol, ffrindiau ac eraill yn bwysig iddynt. I rai plant, gall rhyw fath o gyswllt fod yn gymorth cadarnhaol i leoliad llwyddiannus. Gall cyswllt fod yn bwysig iawn ar gyfer helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu eu hunaniaeth a deall eu bywydau a’u teimladau.
51. Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i geisio hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a’i rieni, unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn, ac unrhyw berthynas, ffrind neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn, oni bai nad yw’n rhesymol ymarferol neu’n gyson â llesiant y plentyn [Adran 95]. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi camau rhesymol ar waith i hysbysu rhieni’r plentyn ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn am le mae’r plentyn yn byw. Fodd bynnag, nid oes angen darparu’r wybodaeth pe bai hynny’n niweidio llesiant y plentyn. Yn yr un modd, mae’n rhaid i riant neu berson
arall sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol hysbysu’r awdurdod lleol am ei gyfeiriad.
Lleoliadau
52. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol lunio ‘cynllun lleoli’ ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal. Bydd y cynllun hwn yn rhan o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol, a bydd yn nodi’n fanwl sut bydd y lleoliad yn helpu i ddiwallu anghenion y plentyn fel y’u nodir yn y cynllun hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys sut bydd y lleoliad yn helpu i sicrhau sefydlogwyd (er enghraifft, drwy hyrwyddo cyswllt cadarnhaol i gynorthwyo’r plentyn i ddychwelyd adref, neu drwy helpu’r plentyn i symud i deulu sy’n mabwysiadu), a sut bydd anghenion bob dydd y plentyn yn cael eu diwallu. Mae’n rhaid i’r cynllun lleoli gael ei ddatblygu mewn partneriaeth â’r plentyn (lle bo hynny’n briodol), gofalwr y plentyn, y rhiant a’r gweithiwr cymdeithasol; ac mae’n rhaid iddo gofnodi’n glir gyfraniad pawb at lwyddiant y lleoliad. Mae canllawiau manwl ar leoliadau a chynllunio lleoliadau ar gael ym mhennod 2 o’r cod hwn.
Cynlluniau llwybr
53. Pan fydd plentyn sy’n derbyn gofal ar fin troi’n 16 oed, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol baratoi cynllun llwybr i gynorthwyo’r person ifanc i bontio i fyd oedolion a gadael gofal. Bydd y cynllun llwybr yn adeiladu ar gynllun gofal a chymorth Rhan 6 presennol y plentyn, a fydd yn cael ei gynnwys yn y cynllun llwybr.
54. Bydd y cynllun llwybr yn cynnwys y camau gweithredu sydd eu hangen gan yr awdurdod lleol, gofalwr y person ifanc, y person ifanc, y rhiant a phartïon eraill a nodir i helpu’r person ifanc i bontio’n llwyddiannus o’r sector gofal. Bydd y cynllun llwybr yn parhau ar ôl i’r person ifanc droi’n 18 oed. Hefyd, dylai proses asesu a chynllunio’r llwybr benderfynu a chofnodi’r wybodaeth, y cyngor a’r cymorth sydd angen eu darparu i’r person ifanc wrth iddo baratoi i adael gofal, ac ar ôl iddo adael gofal.
55. Mae canllawiau manwl ar gynllunio llwybrau ar gael ym mhennod 5 o’r cod hwn.
Cynlluniau amddiffyn plant
56. Pan fydd plentyn sy’n destun cynllun amddiffyn plant (yn dilyn ymchwiliad adran 47 o Ddeddf Plant 1989) yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal, fel arfer ni fydd angen parhau â chynllun amddiffyn y plentyn. Fodd bynnag, bydd materion diogelu yn parhau i fod yn berthnasol mewn nifer fach o achosion, a bydd angen i’r plentyn sy’n derbyn gofal fod â chynllun amddiffyn plant hefyd.
57. Dylai’r awdurdod lleol werthuso’r systemau a’r prosesau ar gyfer adolygu cynlluniau amddiffyn plant a chynlluniau gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, gan ystyried sut i sicrhau bod elfennau amddiffyn plant y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn cael eu hadolygu fel rhan o’r broses adolygu gyffredinol sy’n arwain at ddatblygu un cynllun. O ystyried mai proses yw adolygiad yn hytrach nag un cyfarfod, dylai’r ddwy system adolygu gael eu cysoni mewn ffordd anfiwrocrataidd fel bod modd ystyried holl anghenion y plentyn yn y broses cynllunio ac adolygu gofal a chymorth.
58. Dylid nodi bod gofynion gwahanol ar gyfer annibyniaeth swyddogaeth y swyddog adolygu annibynnol o gymharu â chadeirydd y gynhadledd amddiffyn plant. Mae’n
bwysig nodi hefyd fod angen i’r gynhadledd amddiffyn plant fod yn fforwm amlasiantaethol, tra bod plant a phobl ifanc eisiau cyn lleied o bobl allanol â phosibl yn y cyfarfodydd adolygu a fynychant. Fodd bynnag, ni fydd modd i
swyddogion adolygu annibynnol gyflawni eu swyddogaeth statudol heb ystyried diogelwch y plentyn yng nghyd-destun y broses cynllunio gofal a chymorth. Dylid ystyried trefnu bod y swyddog adolygu annibynnol yn cadeirio’r gynhadledd amddiffyn plant mewn achosion lle mae plentyn sy’n derbyn gofal yn parhau i fod yn destun cynllun amddiffyn plant. Os nad oes modd gwneud hyn, dylai’r swyddog adolygu annibynnol fynychu’r gynhadledd adolygu amddiffyn plant.
59. Mae hyn yn golygu y dylai amseriad yr adolygiad o elfennau amddiffyn plant y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 fod yr un fath â’r adolygiad o dan y Rheoliadau CPPCR, er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf am lesiant a diogelwch y plentyn yn cael ei hystyried yn y cyfarfod adolygu a’i bod yn llywio’r broses cynllunio gofal a chymorth gyffredinol. Wrth adolygu elfennau amddiffyn plant y cynllun, dylai’r adolygiad o’r plentyn sy’n derbyn gofal hefyd ystyried a yw’r meini prawf ar gyfer y plentyn yn aros yn destun cynllun amddiffyn plant yn cael eu bodloni o hyd. Dim ond yn ystod yr adolygiad o’r plentyn sy’n derbyn gofal y dylid gwneud newidiadau sylweddol i’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6.
Proses gynllunio gofal
60. O safbwynt plant sydd eisoes yn hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol wrth iddynt ddechrau derbyn gofal, gall asesiad cyfoes a chynllun ar gyfer darparu gwasanaethau o dan adran 54 o Ran 4 o’r Ddeddf fod ar waith yn barod. Oni bai bod rhesymau ar sail tystiolaeth da yn bodoli ar gyfer newid cyfeiriad, dylai’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ategu a datblygu’r cynllun Rhan 4 sydd eisoes yn bodoli ar gyfer y plentyn. Os nad yw plentyn wedi’i asesu cyn dechrau derbyn gofal, bydd angen gwneud asesiad i lywio’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6.
61. Bydd unigolion a’u teuluoedd y mae angen gofal a chymorth arnynt yn gallu cyfrannu’n llawn at yr asesiad a’r broses cynllunio gofal a chymorth, a dylent dderbyn yr holl wybodaeth berthnasol mewn fformat hygyrch, gan gynnwys drwy eu dewis iaith a chyfathrebu. Dylai gwybodaeth fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, gan adlewyrchu strategaeth Llywodraeth Cymru “Mwy na Geiriau....”. Mae’n rhaid i’r broses o nodi anghenion gofal a chymorth, a pharatoi cynllun gofal a chymorth Rhan 6, sicrhau bod pobl yn cael eu grymuso i fynegi eu hanghenion a’u bod yn gallu cyfranogi’n llawn fel partneriaid cyfartal. I sicrhau bod hyn yn digwydd, dylai’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 adeiladu ar ofynion y cynllun gofal a chymorth o dan Ran 4 o’r Ddeddf, a:
· disgrifio anghenion datblygiadol a ganfyddir y plentyn a’r gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny, gan gynnwysgwasanaethau ar gyfer aelodau’r teulu
· disgrifio pam y mae math arbennig o leoliad wedi’i ddewis
· cynnwys canlyniadau penodol a chyraeddadwy sy’n canolbwyntio ar y plentyn, gyda’r nod o ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn a nodi sut bydd cynnydd yn cael ei fesur
· cynnwys strategaethau realistig a chamau gweithredu penodol i wneud y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau canlyniadau arfaethedig
· nodi a chyflwyno’n glir rolau a chyfrifoldebau aelodau’r teulu, gofalwyr y plentyn ac ymarferwyr (gan gynnwys, er enghraifft, meddyg teulu, nyrs a pherson dynodedig mewn ysgolion), ac amlder cyswllt yr ymarferwyr hynny â’r plentyn, y gofalwyr a/neu aelodau’r teulu
· disgrifio’r trefniadau adolygu os nad yw’r cynllun gofal a chymorth arfaethedig ar gyfer y plentyn yn gyraeddadwy, er mwyn lleihau oedi.
62. Amlinellir y gofynion penodol ar gyfer cynllunio i ddiwallu anghenion iechyd ac addysg yn fanylach yn ddiweddarach yn y bennod hon.
63. Wrth gynllunio lleoliad, mae’n hollbwysig ymgynghori â phawb sy’n ymwneud â’r plentyn. Dylid egluro’r angen i ymgynghori i’r rhieni ac i’r plentyn. Dylai’r awdurdod lleol gydgysylltu cyfraniad pob asiantaeth berthnasol a’r holl unigolion sy’n bwysig ym mywyd y plentyn. Cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â phlentyn sy’n derbyn gofal ganddo (neu’n cynnig y bydd yn derbyn gofal ganddo), mae’n rhaid i awdurdod lleol (yn ogystal â’r materion a nodir yn adran 6(2) a (4) a 7(2) (dyletswyddau hollgyffredinol eraill) o’r Ddeddf), ystyried:
· barn, dymuniadau a theimladau unrhyw berson y mae ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau yn berthnasol ym marn yr awdurdod
· argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.
64. Y cwestiwn pwysicaf i ymarferwyr a’u rheolwyr yw pa ymyriadau a fydd yn fwyaf effeithiol ar gyfer plentyn penodol, a theulu neu ofalwyr y plentyn, er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl o dan yr amgylchiadau. Bydd natur yr ymyriad yn dibynnu ar yr opsiwn sefydlogrwydd a nodwyd ar gyfer y plentyn yng nghyd-destun asesu ei anghenion datblygiadol. Dylid rhoi sylw i’r cwestiynau canlynol wrth ystyried yr ymyriad mwyaf priodol:
· pa ymyriadau sydd ar gael a all helpu i gefnogi cryfderau a/neu ddiwallu anghenion a nodwyd?
· pa adnoddau sydd ar gael?
· pa asiantaeth neu ddull gweithredu proffesiynol sy’n debygol o ennyn ymateb y plentyn, y teulu a/neu’r gofalwr?
· pa ymyriad sy’n debygol o arwain at fanteision yn syth a pha ymyriad a fydd yn cymryd rhagor o amser o bosibl?
· sut a pham y dylid trefnu dilyniant yr ymyriadau?
· wrth ystyried trefnu bod y plentyn yn dychwelyd adref, beth yw’r tebygolrwydd o sicrhau newid digonol o fewn ffrâm amser y plentyn?
Trefniadau ar gyfer gofalu am blentyn
65. Mae’r gofyniad i ddatblygu cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer plentyn a fydd yn derbyn gofal neu blentyn sy’n derbyn gofal yn berthnasol i blentyn sy’n cael ei letya a phlentyn y mae gofynion adran 31A o Ddeddf Plant 1989 yn berthnasol iddo (er y bydd y llys yn pennu’r amserlen ar gyfer plentyn o’r fath).
Y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer plentyn sy’n cael ei letya
66. Mae’r rhan fwyaf o blant sy’n dechrau derbyn gofal wedi bod yn hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol ers cryn amser. O ganlyniad, pan benderfynir lletya plentyn, dylai bod modd cychwyn y broses cynllunio gofal a chymorth cyn y cyfnod gofal. Os nad oes modd gwneud hyn, mae’n rhaid i’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 gael ei baratoi o fewn deg diwrnod gwaith i ddechrau’r lleoliad cyntaf. Mae’n rhaid i’r asesiad o anghenion y plentyn ystyried a yw’r llety sy’n cael ei ddarparu ar ei gyfer yn bodloni’r gofynion a nodir yn adran 81 o Ran 6 o’r Ddeddf ac yn Rheoliadau CPPCR 2015. Bydd y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn
adlewyrchu’r cyfraniad amlasiantaethol sydd ei angen i sicrhau bod y cynllun yn ystyried holl anghenion llesiant a datblygiadol y plentyn er mwyn sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
67. Mewn achos lle mae’r plentyn sy’n cael ei letya yn berson ifanc dros 16 oed sy’n cytuno o’i wirfodd i gael ei letya, dylai’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 gael ei gytuno â’r person ifanc[1].
Y cynllun gofal a chymorth ar gyfer plentyn y mae adran 31A o Ddeddf Plant 1989 (y cynllun gofal Llys) yn berthnasol iddo
68. Dylid darllen yr adran hon o’r cod ochr yn ochr â Chyfrol 1 o Ganllawiau a Rheoliadau (Gorchmynion Llys) Deddf Plant 1989 a’r Amlinelliad o’r Gyfraith Gyhoeddus (PLO).
69. Yn ôl adran 31A o Ddeddf Plant 1989, os cyflwynir cais a all fod yn destun gorchymyn gofal mewn perthynas â phlentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol baratoi cynllun gofal yn unol â’r amserlen a bennwyd gan y Llys. Nid oes modd gwneud unrhyw orchymyn nes bod y Llys wedi ystyried y cynllun. Os oes dyletswyddau sy’n gorgyffwrdd i baratoi cynlluniau a bennir yn gyfreithiol, ac os oes cynllun sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer cynllun gofal a chymorth o dan Ran 6 o’r Ddeddf, gellir ystyried y broses o baratoi, gweithredu ac adolygu’r cynllun hwnnw fel modd i’r awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau i baratoi, gweithredu ac adolygu cynllun gofal ‘llys’. Felly, mae’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn hollbwysig, a bydd ganddo ddylanwad mawr ar benderfyniad y Llys.
70. Er nad oes angen cytundeb ffurfiol rhiant i gynllun gofal y llys, bydd yr awdurdod lleol yn ymwybodol o’r egwyddorion sy’n sylfaen i erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ymwneud â’r hawl i barch ar gyfer bywyd teuluol. O ganlyniad, dylai’r awdurdod lleol sicrhau ei fod yn ymgynghori’n briodol â rhieni, gan gofnodi’r rhesymau am weithredu neu beidio â gweithredu ar eu safbwyntiau.
71. Rhan allweddol o gynllun gofal y llys yw’r cynllun hirdymor ar gyfer y plentyn, sef elfen ‘sefydlogrwydd’ y cynllun gofal a chymorth ar gyfer y plentyn. Bydd ansawdd a chadernid yr opsiwn hwn yn hollbwysig wrth i’r Llys ystyried ai gorchymyn gofal yw’r ffordd fwyaf priodol o ddiogelu a hyrwyddo lles y plentyn. Ar gyfer gwrandawiadau interim o dan adran 38 o Ddeddf Plant 1989, mae’n bosibl na fydd y cynllun wedi’i gadarnhau eto.
Cynlluniau gofal ‘Llys’ a mabwysiadu
72. Mewn lleiafrif o geisiadau am orchymyn gofal, daw’n amlwg yn ystod yr achos mai mabwysiadu yw’r opsiwn sefydlogrwydd dewisol ar gyfer y plentyn. Os yw’r awdurdod lleol wedi nodi mai mabwysiadu yw’r opsiwn sefydlogrwydd arfaethedig (naill ai ar ddechrau’r achos gofal neu yn ystod yr achos), dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod y cais am orchymyn lleoli yn cael ei wneud fel rhan o’r achos gofal.
Rhianta corfforaethol a chynlluniau gofal y Llys
73. Mae’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer y person ifanc yn cynnwys y cynllun ar gyfer sefydlogrwydd, camau gweithredu’r awdurdod lleol a phartneriaid amlasiantaethol i sicrhau sefydlogrwydd, a manylion anghenion rhianta bob dydd y plentyn ar hyn o bryd a sut y cânt eu diwallu. Bydd angen gwybodaeth ar y Llys i’w galluogi i ystyried a yw’r meini prawf trothwy yn adran 31(2) o Ddeddf Plant 1989 –
niwed arwyddocaol – yn cael eu bodloni ac a fydd gwneud unrhyw orchymyn yn well i’r plentyn na pheidio â gwneud gorchymyn o gwbl.
74. O ganlyniad, mae’n bosibl na fydd angen cyflwyno i’r llys holl fanylion y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 a ddatblygwyd gan yr awdurdod lleol i gyflawni ei swyddogaethau rhianta corfforaethol.
Cynnwys y cynllun gofal a chymorth Rhan 6
75. Ceir gofynion penodol yn ymwneud â pharatoi cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal, ac ar gyfer cynnwys y cynllun, sy’n ychwanegu at y gofynion cyffredin a nodir yn y cod ar Ran 4 o’r Ddeddf. Mae’n bwysig bod y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn cofnodi gwybodaeth a all helpu’r plentyn, rhiant y plentyn a’r gofalwr i ddeall pam y mae penderfyniadau wedi’u gwneud neu’n cael eu gwneud.
76. Mae’r cod ar Ran 4 yn nodi bod yn rhaid i gynllun gofal a chymorth gynnwys:
· Y canlyniadau sydd wedi’u nodi mewn perthynas â’r person y mae’r
cynllun yn berthnasol iddo
· Y camau y mae angen i’r awdurdod lleol a phersonau eraill eu rhoi ar
waith i helpu’r person i gyflawni’r canlyniadau
· Yr anghenion a fydd yn cael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth
· Sut y bydd cynnydd tuag at gyflawni’r canlyniadau yn cael ei fonitro a’i
fesur
· Dyddiad adolygiad nesaf y cynllun gofal
Dylai cynlluniau Gofal a Chymorth priodol hefyd nodi:
· Rolau a chyfrifoldebau’r unigolyn, gofalwyr ac aelodau’r teulu, ac
ymarferwyr.
· Yr adnoddau (gan gynnwys adnoddau ariannol) sydd eu hangen gan
bawb
77. Yn ogystal, mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi bod rhaid i’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 gynnwys:
· gwybodaeth am y cynllun hirdymor ar gyfer y plentyn, gan gynnwys amserlenni (yr opsiwn sefydlogrwydd[2],[3])
· y trefniadau ar gyfer diwallu anghenion llesiant a datblygiadol y plentyn
· trefniadau ar gyfer cyswllt gyda brawd neu chwaer neu lysfrawd neu lyschwaer sy’n derbyn gofal hefyd ond nad yw wedi’i leoli/ei leoli gyda’r plentyn
· manylion unrhyw orchmynion llys a wnaed o dan adran 8 neu adran 34 Ddeddf Plant 1989
· trefniadau ar gyfer hyrwyddo a chadw cyswllt â rhiant ac unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant
· manylion y lleoliad a pham y dewiswyd y lleoliad, oni bai bod y plentyn mewn gofal ac nad yw’n cael ei letya gan yr awdurdod lleol
· enw Swyddog Adolygu Annibynnol y plentyn
· manylion y cynllun iechyd a’r cynllun addysg personol (CAP)
· dymuniadau a theimladau pobl berthnasol ynglŷn â’r trefniadau ar gyfer y plentyn
· dymuniadau a theimladau’r unigolion hynny ynglŷn ag unrhyw newidiadau arfaethedig i’r cynllun gofal a chymorth.
78. Os nad yw cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn diwallu anghenion y person y mae’n berthnasol iddo, mae’n rhaid ei adolygu. Mae rhagor o wybodaeth am adolygiadau ar gael ym mhennod 4.
79. Yn unol â rheoliad 6(3) o’r Rheoliadau CPPCR, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 i’r canlynol:
· y plentyn, oni bai na fyddai’n briodol gwneud hynny ym marn yr awdurdod lleol oherwydd oedran neu ddealltwriaeth y plentyn
· rhieni’r plentyn, neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn
· y Swyddog Adolygu Annibynnol
· darparwr y gwasanaeth maethu os yw’r plentyn wedi’i leoli gyda gofalwr maeth
· rheolwr cofrestredig y cartref plant lle mae plentyn yn cael ei leoli
· y person sy’n gyfrifol am blentyn sydd wedi’i leoli yn unol â threfniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o’r Ddeddf [4]
Gall awdurdod lleol benderfynu peidio â rhoi copi o’r cynllun gofal a chymorth i rieni’r plentyn neu i berson sydd â chyfrifoldeb rhiant os yw’n credu y byddai gwneud hynny’n rhoi’r plentyn mewn perygl o niwed.
Cynllunio gofal a chymorth mewn perthynas ag iechyd
80. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol, mewn partneriaeth â byrddau iechyd lleol, sicrhau bod y plentyn yn derbyn gofal iechyd da, a bod trefniadau ar waith i fonitro gofal iechyd y plentyn yn unol â chynllun iechyd y plentyn. Mae gofal iechyd yn cynnwys:
· gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol
· cyngor ac arweiniad ar iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd
· iechyd meddwl
· iechyd emosiynol a chryfder.
Asesiadau iechyd
81. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol wneud trefniadau i ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig gynnal asesiad cychwynnol o gyflwr iechyd y plentyn, a darparu adroddiad ysgrifenedig o’r asesiad. Mae’n rhaid cyfeirio’n benodol at iechyd meddwl y plentyn. Nod yr asesiad yw darparu proffil iechyd cynhwysfawr o’r plentyn, nodi’r materion sydd wedi’u hanwybyddu yn y gorffennol ac sydd angen eu datrys o bosibl er mwyn gwella iechyd a llesiant corfforol a meddwl cyffredinol y plentyn, a darparu sylfaen ar gyfer monitro eu datblygiad tra bod y plentyn mewn gofal.
82. Mae’n rhaid i’r asesiad a’r adroddiad ganolbwyntio ar y materion a nodir yn y Rheoliadau CPPCR. Mae hyn yn berthnasol i’r asesiad a’r adroddiad cyntaf, a’r rhai dilynol. Mae’n rhaid rhoi copi o bob adroddiad i’r awdurdod lleol (fel rhiant corfforaethol y plentyn), y plentyn (yn amodol ar ei oedran a lefel ei ddealltwriaeth), y rhieni (oni bai bod hyn yn amhriodol ar sail amgylchiadau a nodir
yng nghynllun gofal a chymorth y plentyn), gofalwyr y plentyn, a Swyddog Adolygu Annibynnol y person ifanc.
83. Mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am sicrhau bod asesiadau iechyd yn cael eu cynnal. Mae gan fyrddau iechyd lleol ddyletswydd i gydymffurfio â cheisiadau gan awdurdodau lleol am gymorth i sicrhau bod yr asesiad yn cael ei gwblhau. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r bwrdd iechyd lleol (neu Fwrdd Comisiynu’r GIG ac unrhyw grŵp comisiynu clinigol perthnasol os yw plentyn yn cael ei leoli yn Lloegr), yn ogystal â’r ymarferydd meddygol cyffredinol, pan fydd plentyn yn dechrau derbyn gofal neu pan fydd ei leoliad yn newid. Os yw’r plentyn yn cael ei leoli y tu allan i’r ardal, mae’n rhaid i awdurdodau lleol hysbysu bwrdd iechyd lleol yr ardal lle mae’r plentyn yn byw ar hyn o bryd, yn ogystal â’r bwrdd iechyd lleol a’r awdurdod lleol (neu’r awdurdod lleol yn Lloegr) ar gyfer yr ardal lle bydd y plentyn yn cael ei leoli.
84. Rhaid ymarferydd meddygol cofrestredig, nyrs gofrestredig, neu fydwraig gofrestredig, sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth ymarferydd meddygol cofrestredig, adolygu iechyd plentyn a darparu adroddiad ysgrifenedig. Unwaith eto, mae’n rhaid ystyried cyflwr iechyd meddwl y plentyn yn benodol.
85. Er mwyn llywio camau gweithredu’r cynllun iechyd, dylai’r asesiad iechyd gynnwys:
· asesiad o gyflwr iechyd y plentyn, gan gynnwys ei iechyd corfforol ac
emosiynol a’i iechyd meddwl
· hanes iechyd y plentyn, gan gynnwys (i’r graddau y mae’n ymarferol
bosibl) hanes iechyd y teulu
· effaith iechyd a hanes iechyd ar ddatblygiad y plentyn
· y trefniadau presennol ar gyfer gofal meddygol a deintyddol, yn unol ag
anghenion y plentyn, gan gynnwys:
· archwiliadau rheolaidd o gyflwr iechyd cyffredinol y plentyn, gan
gynnwys iechyd deintyddol
· triniaeth a monitro ar gyfer anghenion iechyd (gan gynnwys iechyd
corfforol, iechyd emosiynol ac iechyd meddwl) neu anghenion gofal
deintyddol a nodir
· mesurau ataliol fel brechu
· sgrinio ar gyfer nam ar y golwg neu nam ar y clyw
· cyngor ac arweiniad ar hybu iechyd a gofal personol effeithiol
· newidiadau arfaethedig i’r trefniadau presennol.
Amlder asesiadau iechyd
86. Rhaid cwblhau’r asesiad cyntaf a’r adroddiad ysgrifenedig cyn i’r plentyn gael ei leoli gan yr awdurdod lleol. Os nad yw hyn yn ymarferol, dylai’r asesiad a’r adroddiad ysgrifenedig gael eu cwblhau cyn yr adolygiad cyntaf o’r achos.
87. Rhaid cynnal asesiadau iechyd:
· o leiaf unwaith bob chwe mis ar gyfer plant o dan bump oed
· o leiaf unwaith bob 12 mis ar gyfer plant pump oed a hŷn[5].
88. Mae pum mlynedd gyntaf bywyd plentyn yn hollbwysig. Dylai awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd lleol a chomisiynwyr a darparwyr gwasanaethau practisau i sicrhau bod gan blant sy’n derbyn gofal fynediad i’r
rhaglen gyffredinol o adolygiadau iechyd a datblygiad, a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i sicrhau’r iechyd a’r lles gorau posibl.
89. Os oes asesiad iechyd wedi’i gwblhau o fewn tri mis i ddechrau’r lleoliad, a bod yr awdurdod iechyd wedi derbyn adroddiad ysgrifenedig sy’n bodloni’r gofynion statudol, nid oes angen cwblhau asesiad cyn y lleoliad neu erbyn yr adolygiad cyntaf os yw’r awdurdod lleol yn fodlon na fu unrhyw newidiadau arwyddocaol yn y cyfnod ers cwblhau’r asesiad. Mae’n rhaid i’r cylch ar gyfer asesiadau iechyd y dyfodol gychwyn o ddyddiad yr adolygiad cyntaf.
90. Mae llawer o blant sy’n derbyn gofal yn dychwelyd at eu rhieni biolegol ar ôl iddynt beidio â derbyn gofal, felly mae cynnwys rhieni mewn asesiadau iechyd yn ymarfer da. Mae’n gyfle i gael hanes iechyd y plentyn a’r teulu yn uniongyrchol, ac yn gyfle i sicrhau cydsyniad i gasglu rhagor o ddata angenrheidiol gan feddygon teulu, ymgynghorwyr ac ysbytai. Bydd meddu ar hanes iechyd personol a theuluol cyflawn yn cynyddu gwerth asesiadau iechyd cyfredol a rhai’r dyfodol yn sylweddol, ac yn hwyluso gwell ymwybyddiaeth o anghenion iechyd pan fydd plentyn yn dychwelyd adref neu, os nad yw hynny’n bosibl, ar gyfer trefniadau sefydlogrwydd eraill neu leoliadau yn y dyfodol. Os yw plentyn yn cael ei letya gan yr awdurdod lleol, dylid rhoi cyfle i’r rhieni gyfrannu at asesiad iechyd y plentyn, oni bai y byddai gwneud hynny yn mynd yn groes i fudd pennaf llesiant y plentyn.
91. Os yw plentyn yn gwrthod cydsynio i asesiad iechyd, ac y bernir bod ei ddealltwriaeth yn ddigonol ar gyfer hynny, nid oes unrhyw ofyniad i gwblhau asesiad yn unol â’r Rheoliadau CPPCR neu ddarparu adroddiad asesiad iechyd ysgrifenedig. Fodd bynnag, yn yr achosion hyn, dylid parhau i roi ystyriaeth i iechyd y plentyn fel rhan o’r broses gynllunio ac adolygu gofal a chymorth Rhan 6. Mae arferion gorau awdurdodau lleol wedi dangos bod plant yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn asesiadau iechyd os cânt eu hannog a’u cynorthwyo i fynychu, pan fydd yr asesiad yn ceisio mynd i’r afael â materion sy’n peri pryder iddynt, a phan fydd yr asesiad yn digwydd mewn amgylchedd addas a hygyrch.
Cynlluniau iechyd
92. Caiff y cynllun iechyd ei ddatblygu o’r asesiad o anghenion iechyd y plentyn, ac mae’n llunio elfen iechyd y cynllun gofal a chymorth Rhan 6. Mae’n rhaid cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth yn y cynllun iechyd[6], gan gynnwys:
· hanes iechyd
· y trefniadau presennol ar gyfer gofal iechyd
· archwiliadau a sgrinio iechyd rheolaidd
· mesurau ataliol
· hybu iechyd.
93. Dylai’r cynllun nodi’r camau gweithredu a’r gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r anghenion iechyd a nodwyd yn yr asesiad, yr unigolyn neu’r asiantaeth sy’n gyfrifol am bob cam gweithredu neu wasanaeth, yr amserlenni tebygol, a’r canlyniadau arfaethedig.
94. Wrth lunio cynllun iechyd, mae’n ofynnol i’r awdurdodau cyfrifol sicrhau bod y plentyn yn derbyn gofal iechyd, gan gynnwys unrhyw frechiadau angenrheidiol sy’n cael eu hargymell yn benodol ac unrhyw ofal meddygol a deintyddol gofynnol. Bydd hyn yn cynnwys cofrestru’r plentyn gydag ymarferydd meddygol cyffredinol cofrestredig, a threfnu archwiliadau rheolaidd gyda deintydd. Os oes gan berson
ifanc anabledd neu anghenion arbennig eraill, mae’n rhaid rhoi ystyriaeth i barhau â gofal arbenigol. Dylai’r defnydd o ddarpariaeth y GIG a gwasanaethau iechyd ysgolion fod yr un fath ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant eraill, ond bydd
angen gweithredu mewn ffordd sensitif ac ar sail gwybodaeth wrth asesu a diwallu anghenion iechyd plant sy’n derbyn gofal gan y byddant wedi dioddef anfantais yn gynnar yn eu bywydau yn aml, a gall eu hiechyd fod mewn perygl oherwydd nad ydynt wedi derbyn gofal parhaus[7].
Adolygu cynlluniau iechyd
95. Dylai’r awdurdod lleol ystyried materion sy’n codi yn yr adolygiad iechyd fel rhan o’r broses gynllunio ac adolygu gofal a chymorth Rhan 6, a dylai unrhyw gamau gweithredu gofynnol gael eu cynnwys wrth adolygu cynllun y plentyn.
Cynllunio gofal a chymorth mewn perthynas ag addysg
96. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo llwyddiant addysgol fel rhan annatod o’u dyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plant y maent yn gofalu amdanynt. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt roi ystyriaeth benodol i oblygiadau addysgol unrhyw benderfyniad yn ymwneud â llesiant cyffredinol y plentyn. Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i bob plentyn sy’n derbyn gofal yr awdurdod lleol, ble bynnag y mae wedi’i leoli. Mae’n cynnwys sicrhau bod addysg feithrin ar gael i blant ifanc iawn a chynorthwyo pobl ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal, a’r rhai o dan 18 oed sy’n gadael gofal, i wireddu eu potensial ym maes addysg.
97. Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, dylai awdurdodau lleol sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal o bob oedran yn cael y cyfle i sicrhau canlyniadau addysgol sy’n debyg i ganlyniadau eu cyfoedion. Dylent fynd ati i weithio gyda gofalwyr ac athrawon y plentyn i’w annog i fod â’r disgwyliadau uchaf o ran yr hyn y mae’n gallu ei gyflawni.
98. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt ddiwylliant o ymrwymiad rhagweithiol i sicrhau’r canlyniadau addysgol gorau ar gyfer yr holl blant y maent yn gofalu amdanynt, ynghyd â gweithdrefnau cadarn ar gyfer monitro eu cynnydd addysgol. Yn benodol, dylent allu dangos drwy’r hyfforddiant, y datblygiad a’r cymorth a roddant i ofalwyr, ysgolion a staff awdurdodau lleol eu bod yn deall anghenion plant sy’n derbyn gofal. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod camau atebolrwydd clir ar waith ar gyfer cyflawni eu dyletswyddau, a’u bod yn cael eu monitro’n fanwl gan un o uwch reolwyr yr awdurdod lleol.
99. Dylid darllen y cod hwn ochr yn ochr â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal.
Pwysigrwydd sefydlogrwydd ym maes addysg
100. Wrth benderfynu ble i leoli plentyn sy’n derbyn gofal, dylai awdurdod lleol wneud popeth posibl i leihau unrhyw amharu ar addysg y plentyn. Mae hyn yn golygu gwneud pob ymdrech i drefnu lleoliad gofal sy’n golygu bod modd parhau â’r ddarpariaeth addysgol bresennol, lle bo hynny er budd pennaf y plentyn. Mae’n bwysig canfod, ac ystyried, barn y plentyn ar ei addysg (yn amodol ar ei oedran a lefel ei ddealltwriaeth) wrth benderfynu ble i leoli’r plentyn. Dylid gwneud popeth posibl i sicrhau bod plentyn yng Nghyfnod Allweddol 4 (blynyddoedd 10 ac 11) yn aros yn ei ysgol bresennol, a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid ei
symud. Mae rhagor o arweiniad ar y mater hwn ar gael ym mhennod 2 o’r cod hwn.
Y cynllun addysg personol
101. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod cynllun addysg personol (CAP) effeithiol o ansawdd uchel ar gael ar gyfer pob plentyn y maent yn gofalu amdano, a fydd yn rhan annatod o gynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol y plentyn. Mae’r CAP yn gofnod o addysg a hyfforddiant y plentyn. Dylai ddisgrifio’r hyn sydd angen ei wneud i helpu’r plentyn i wireddu ei botensial, ac adlewyrchu (ond nid dyblygu) unrhyw gynlluniau addysg sydd eisoes yn bodoli, fel datganiad o anghenion addysgol arbennig. Dylai’r awdurdod lleol weithio mewn partneriaeth â’r plentyn, yr ysgol (yn enwedig y person dynodedig), gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn datblygu ac adolygu’r CAP, fel ei fod yn adlewyrchu anghenion y plentyn yn llawn, yn aros yn gyfoes ac yn cael ei weithredu.
102. Ac eithrio mewn achosion lle mae plentyn yn mynd i ofal mewn argyfwng, rhaid dechrau’r CAP fel rhan o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyn i’r person ifanc ddechrau derbyn gofal. Mewn lleoliad argyfwng, rhaid dechrau’r CAP o fewn deg diwrnod gwaith. Dylai’r CAP gyfrannu at asesiad o anghenion addysgol y plentyn, a rhaid i fersiwn ohono fod wedi’i baratoi ar gyfer y cyfarfod adolygu statudol cyntaf o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 (20 diwrnod ar ôl i’r plentyn ddechrau derbyn gofal neu gael ei letya).
Cynnwys y CAP
103. Ni ddylid ystyried y CAP yn elfen ar wahân i rannau eraill y cynllun gofal a chymorth Rhan 6. Dylai ategu elfennau eraill y cynllun, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag iechyd, datblygiad emosiynol ac ymddygiadol, hunaniaeth a chysylltiadau teuluol a chymdeithasol. O ystyried bod plentyn sy’n derbyn gofal yn fwy tebygol o newid lleoliad addysgol yn amlach na phobl ifanc eraill, y CAP yw’r ddogfen graidd sy’n galluogi plant a’u gweithwyr cymdeithasol, eu gofalwyr a’u hathrawon i ddod i ddealltwriaeth gyffredin ynglŷn â’r hyn sydd angen ei wneud, sut, a gan bwy (gan gynnwys gwasanaethau a phobl a enwir) i weithredu’r cynllun. Mae gan yr ysgol (neu leoliad addysgol arall) rôl allweddol yn datblygu, adolygu a diweddaru’r CAP rhwng adolygu’r cynllun gofal a chymorth cyffredinol, felly mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod gan yr ysgol y cynllun diweddaraf.
104. Mae’n rhaid cynnwys y wybodaeth ganlynol yn y CAP[8]:
· cronoleg o hanes addysgol y plentyn a chofnod o brofiad a chynnydd addysgol y plentyn o safbwynt lefelau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol, gan gynnwys:
Ø gwybodaeth am ysgolion a cholegau a fynychwyd, a’r rhesymau dros adael
Ø i ba raddau yr amharwyd ar addysg y plentyn cyn iddo ddechrau
derbyn gofal neu gael ei letya
Ø gwybodaeth am gofnod presenoldeb ac ymddygiad ym mhob ysgol a fynychwyd
Ø gwybodaeth am gynnydd academaidd, cyflawniadau ac unrhyw wybodaeth am anghenion addysgol arbennig gan gynnwys manylion
unrhyw ddatganiad
· y trefniadau presennol ar gyfer addysg a hyfforddiant y plentyn, gan gynnwys manylion unrhyw ddarpariaeth addysg arbennig neu gymorth arbenigol i hyrwyddo cyflawniad addysgol y plentyn
· manylion diddordebau hamdden y plentyn
· gwybodaeth am y trefniadau sydd ar waith i leihau amharu ar addysg a hyfforddiant y plentyn lle nad oes modd osgoi newid ei drefniadau addysgol
· disgrifiad o rôl y gofalwyr o ran cynorthwyo cyflawniadau addysgol y plentyn, gan gynnwys sut maent yn cynorthwyo’r plentyn i fwynhau diddordebau hamdden.
105. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod y wybodaeth uchod yn troi’n gamau gweithredu ymarferol yn y CAP.
106. Gall person dynodedig neu swyddog awdurdod lleol (fel cydgysylltydd addysg y plentyn sy’n derbyn gofal) ddisgwyl gweld manylion tebyg i’r canlynol mewn CAP (lle y bo’n berthnasol):
· amcanion a thargedau (sy’n eiddo i’r plentyn a gofalwyr y plentyn) yn
ymwneud â dyheadau addysgol (academaidd a heb fod yn academaidd) a
diddordebau hamdden sy’n helpu’r plentyn i fwynhau dysgu a chyflawni ei
ganlyniadau dysgu
· llwybr clir ar gyfer sicrhau darpariaeth addysg o ansawdd uchel mewn
achosion lle nad yw plentyn yn mynychu ysgol neu leoliad addysg arall, gan
ddangos y cymorth a roddir i’r plentyn a gofalwyr y plentyn i ail-gymathu’r
plentyn mewn lleoliad addysgol priodol yn ddi-oed
· gwybodaeth am y cymorth sydd ei angen ar y plentyn a’r cymorth ybydd yn
ei dderbyn ar gyfer (er enghraifft) hyfforddiant un i un, a
chymorth pontio a chymathu pan fydd person ifanc yn newid ysgol neu’n
symud i leoliad addysg arall
· llinell atebolrwydd glir sy’n dangos dealltwriaeth a chyfrifoldeb cyffredin
ar gyfer cynorthwyo addysg plentyn, gan nodi pwy sy’n gyfrifol am
gynorthwyo’r plentyn wrth roi pob elfen o’r CAP ar waith.
Adolygu’r CAP
107. Dylid trin y CAP fel ‘dogfen fyw’ sy’n helpu i greu dealltwriaeth gyffredin o sut mae pawb yn gallu cyfrannu at helpu’r plentyn i lwyddo. Rhaid adolygu’r CAP mewn partneriaeth â’r ysgol, y plentyn a gofalwyr y plentyn fel rhan o’r adolygiad statudol o’r cynllun gofal a chymorth ehangach, ac unrhyw wybodaeth gyfoes a ychwanegwyd fel sy’n briodol[9]. Rhaid i faterion sy’n dod i’r amlwg yn yr adolygiad o’r CAP gael eu hystyried fel rhan o’r broses adolygu gyffredinol a’u cynnwys yn y cynllun gofal a chymorth diwygiedig.
Cyfraniad y rhiant corfforaethol at addysg
108. Dylai rhannau gwahanol o’r awdurdod lleol ddeall sut maent yn cyfrannu at ddyletswydd statudol yr awdurdod i hyrwyddo addysg plant sy’n derbyn gofal a’u helpu i lwyddo. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr, y rhai sy’n gyfrifol am dderbyn plant i ysgolion, gwahardd plant o ysgolion a rhaglenni cymorth ymddygiad, anghenion addysgol arbennig a gwella ysgolion, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
· dylai gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr ddeall y trefniadau ar gyfer rhoi blaenoriaeth i blentyn sy’n derbyn gofal yn y trefniadau ar gyfer derbyn
plant i ysgolion, fel y’u nodir yn y Cod Derbyniadau i Ysgolion a Rheoliadau Addysg (Derbyn Plant sy’n Derbyn Gofal) (Cymru) 2009
· dylai swyddogion sy’n gweinyddu’r trefniadau derbyn gydweithredu’n
llawn â gweithwyr cymdeithasol er mwyn cydymffurfio â’r Cod Derbyniadau i Ysgolion a’r Rheoliadau uchod
· dylai staff mewn lleoliadau addysg ddeall mai’r dewis olaf yw gwahardd
disgybl yn barhaol, a bod rhaid sicrhau bod darpariaeth addysg amgen ar gael o’r chweched diwrnod ymlaen (neu, yn ddelfrydol, o ddiwrnod cyntaf y gwaharddiad, o ystyried effaith bosibl gwahardd plentyn o’r ysgol ar ei leoliad gofal)
· dylai gweithwyr cymdeithasol, swyddogion adolygu annibynnol, yr athro
arweiniol dynodedig ac eraill wneud popeth posibl i leihau amharu ar leoliad addysg wrth i blentyn ddechrau derbyn gofal, gadael gofal neu newid lleoliad gofal.
109. Dylai’r CAP nodi pa gymorth ychwanegol y mae awdurdodau lleol yn ei ddarparu i helpu plentyn sy’n derbyn gofal i aros yn yr un ysgol os oes rhaid iddo symud i gyfeiriad arall. Rhaid gwneud ymdrech arbennig i osgoi amharu ar addysg plant blynyddoedd 10 ac 11 (Cyfnod Allweddol 4) sy’n derbyn gofal drwy newid lleoliad, o ystyried pwysigrwydd sefydlogrwydd wrth astudio ar gyfer TGAU neu gymwysterau cyfwerth. Dylid ystyried pob opsiwn posibl i gadw’r plentyn yn yr un lleoliad addysg, a dylai’r CAP gynnwys tystiolaeth bod hyn wedi digwydd. Cyn gwneud penderfyniad i amharu ar y lleoliad addysg, mae’n rhaid i’r swyddog fodloni ei hun y bydd y ddarpariaeth addysg newydd yn hyrwyddo cyflawniad addysgol drwy ddiwallu anghenion asesedig y plentyn, a’i bod yn gyson â’r CAP.
Plant sydd ar remánd neu o dan gadwad
110. Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau CPPCR yn addasu’r trefniadau cynllunio gofal a chymorth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal sydd wedi’u remandio i lety awdurdod lleol neu lety cadw ieuenctid, neu sy'n cael eu cadw ar ôl eu collfarnu o drosedd.
111. Yr addasiadau yw:
(a) pan fo’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd i lety awdurdod lleol
O dan amgylchiadau o’r fath, mae’n rhaid paratoi’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 o fewn pum diwrnod gwaith i roi’r plentyn ar remánd. Hefyd, nid yw rheoliad 5(1)(a) - y gofyniad i’r cynllun gofal a chymorth gynnwys y cynllun hirdymor ar gyfer magwraeth y plentyn (‘y cynllun ar gyfer sefydlogrwydd’) - yn berthnasol.
(b) pan fo’r plentyn ar remánd i lety cadw ieuenctid ac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal yn union cyn ei roi ar remánd, neu pan fo’r plentyn dan gadwad
O dan amgylchiadau o’r fath, nid yw rheoliad 5(1)(c) – y gofyniad i’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 gynnwys manylion y trefniadau sydd wedi’u gwneud a’r llety sydd wedi’i ddarparu ar gyfer y plentyn (‘y cynllun lleoli’) – yn berthnasol. Yn hytrach, mae’n rhaid i’r cynllun gynnwys cynllun lleoli dan gadwad.
Mae’r materion sydd angen eu cynnwys yn y cynllun lleoli dan gadwad wedi’u nodi yn Atodlen 10 i’r Rheoliadau CPPCR.
Mae’n rhaid i’r awdurdod roi copi o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 i gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig y carchar neu’r llety cadw ieuenctid, yn ogystal â’r bobl a nodir yn rheoliad 6(3) (gweler paragraff 79 uchod).
Yn wahanol i’r gofyniad ar gyfer plant eraill sy’n derbyn gofal, nid oes angen i’r awdurdod lleol drefnu asesiad iechyd ar gyfer y plentyn (h.y. nid yw Rheoliad 7(1) i (4) yn berthnasol).
(c) pan fo’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remand i lety cadw ieuenctid
O dan amgylchiadau o’r fath, nid yw rheoliad 5 o’r Rheoliadau CPPCR – gofynion ynglŷn â pharatoi a chynnwys y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 – yn berthnasol. Yn hytrach, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol baratoi cynllun lleoli dan gadwad. Mae’r materion sydd i’w cynnwys yn y cynllun lleoli dan gadwad wedi’u nodi yn Atodlen 10 i’r Rheoliadau CPPCR.
Wrth baratoi’r cynllun lleoli dan gadwad, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys gwybodaeth am safbwyntiau, dymuniadau a theimladau:
· y plentyn
· os yw’r plentyn o dan 16 oed, y person(au) sydd â chyfrifoldeb rhiant ar
gyfer y plentyn, i’r graddau y bo hynny’n gydnaws â hyrwyddo llesiant y plentyn ac yn rhesymol ymarferol
· unrhyw berson y mae ei safbwyntiau, ei ddymuniadau a’i deimladau
mewn perthynas â’r cynllun yn berthnasol ym marn yr awdurdod, ac unrhyw
newidiadau i’r cynllun sy’n cael eu gwneud neu eu cynnig.
Wrth geisio canfod y safbwyntiau, y dymuniadau a’r teimladau hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol:
· roi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas y plentyn
· rhoi sylw i nodweddion y plentyn, ac argyhoeddiad crefyddol, tarddiad
hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn
· rhoi sylw i bwysigrwydd darparu cymorth priodol i alluogi’r plentyn
gyfrannu at benderfyniadau sy’n effeithio arno (i’r graddau y bo hynny’n
briodol o dan yr amgylchiadau)
· rhoi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r
Plentyn.
Hefyd, nid yw rheoliad 7(1) i (4) o’r Rheoliadau CPPCR – y gofyniad i drefnu asesiad iechyd – yn berthnasol. Mae’r gofyniad i roi pob cam rhesymol ar waith i sicrhau bod y plentyn yn derbyn gwasanaethau gofal iechyd priodol yn berthnasol, gan gynnwys yr addasiad y bydd y ddarpariaeth berthnasol yn cael ei chynnwys yn y cynllun lleoli dan gadwad yn hytrach na mewn cynllun gofal a chymorth Rhan 6.
112.
Sut mae plant sy’n derbyn gofal yn cael eu lletya a’u cynnal
112. Mae’r bennod hon yn ymdrin â lleoliadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Mae adran 74 o’r Ddeddf yn diffinio’r term ‘derbyn gofal’ i gyfeirio at blentyn sydd yng ngofal yr awdurdod lleol – h.y. sy’n destun gorchymyn gofal neu orchymyn gofal interim o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989 – neu sy’n cael ei letya gan yr awdurdod lleol am gyfnod di-dor o dros 24 awr wrth gyflawni unrhyw un o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r amgylchiadau pan fydd rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety ar gyfer plentyn wedi’u nodi yn adran 76 o’r Ddeddf. Mae’n bwysig nodi bod y term ‘plentyn sy’n derbyn gofal’ yn cynnwys plant sydd ‘mewn gofal’ a phlant nad ydynt mewn gofal ond sy’n cael eu lletya gan yr awdurdod lleol gyda chytundeb y rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn. Bydd plentyn sy’n cael ei letya fel hyn yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal pan fydd yr awdurdod lleol o’r farn nad oes angen llety ar y plentyn bellach. Fodd bynnag, bydd plentyn sydd mewn gofal yn parhau i dderbyn gofal nes bod y gorchymyn gofal wedi’i gyflawni. Mae’r bennod hon yn nodi’r dewisiadau lleoli ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, p’un ai a ydynt mewn gofal ai peidio. Y rheoliadau perthnasol yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion 2015 (Rheoliadau CPPCR).
Gofal gan deulu a ffrindiau
113. Defnyddir y term ‘lleoli’ i ddisgrifio trefniant lle mae awdurdod lleol yn lleoli plentyn sy’n derbyn gofal mewn amgylchedd cartref addas, er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn. Mae’r lleoliadau hyn gyda gofalwr maeth neu mewn cartref plant fel arfer.
114. Fodd bynnag, dim ond lleiafrif o blant na allant fyw gyda’u rhieni, am ba reswm bynnag, sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol. Mae llawer mwy yn cael eu magu gan aelodau o’u teuluoedd estynedig, gan ffrindiau neu gan bobl eraill sy’n gysylltiedig â nhw. Cyfeirir at y trefniadau hyn fel arfer fel gofal y teulu a ffrindiau (neu fel ‘gofal gan berthynas’ weithiau). Gall trefniadau anffurfiol gyda’r teulu a ffrindiau atal plentyn rhag dod yn blentyn sy’n derbyn gofal yn aml.
115. Mae gofal teulu a ffrindiau yn cynnwys nifer o wahanol fathau o drefniant sydd â statws cyfreithiol amrywiol. Gall plant fod yn byw gydag aelodau’r teulu neu ffrindiau yn unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol:
· trefniadau anffurfiol gyda pherthynas
· trefniadau anffurfiol gyda ffrindiau neu aelodau eraill o’r teulu sy’n para am lai na 28 diwrnod
· fel trefniant maethu preifat (lle mae’r trefniant yn para mwy na 28 diwrnod)
· dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig neu orchymyn trefniant plentyn (gorchymyn preswyliad cynt)
· fel plentyn sy’n derbyn gofal sydd wedi’i leoli gan yr awdurdod lleol gyda pherthynas neu ffrind (neu berson cysylltiedig arall) sydd wedi’i gymeradwyo fel gofalwr maeth y plentyn
· fel plentyn sy’n derbyn gofal sydd wedi’i leoli gan yr awdurdod lleol gyda pherthynas, ffrind neu berson cysylltiedig arall mewn trefniadau a all arwain at orchymyn mabwysiadu
116. Dylai plant sy’n byw o dan unrhyw un o’r trefniadau hyn dderbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw a’u gofalwyr i ddiogelu a hyrwyddo eu llesiant, p’un ai a ydynt yn blant sy’n derbyn gofal ai peidio. Dylai’r cymorth fod yn seiliedig ar anghenion y plentyn yn hytrach na’i statws cyfreithiol. Dylai awdurdodau lleol gofio bod nodweddion ac anghenion plant sy’n byw gydag aelodau’r teulu a ffrindiau sy’n gofalu amdanynt o dan drefniadau anffurfiol neu drefniadau eraill yn debyg i, neu’r un fath â, nodweddion ac anghenion plant sydd wedi dechrau derbyn gofal yn aml. Ni ddylai unrhyw blentyn orfod dod yn blentyn sy’n derbyn gofal, naill ai drwy gytundeb â’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant neu drwy orchymyn llys, dim ond i sicrhau bod modd darparu cymorth ariannol, cymorth ymarferol neu gymorth arall i ofalwr y plentyn.
117. Mae’r fframwaith ar gyfer asesu a diwallu anghenion gofal a chymorth plant, ac anghenion cymorth eu gofalwyr, wedi’i nodi yn Rhan 3 a Rhan 4 o’r Ddeddf. Dylai awdurdodau lleol wneud defnydd llawn o’r trefniadau hyn i gynorthwyo teuluoedd sydd ag anghenion gofal a chymorth cyn i’r sefyllfa droi’n argyfwng, gan weithio mewn ffordd ragweithiol gyda theuluoedd i’w helpu i ddod o hyd i’w hatebion eu hunain. Hefyd, dylid darparu cymorth ar gyfer plant nad ydynt yn derbyn gofal gan yr awdurdod, ond sy’n byw gydag aelodau’r teulu a ffrindiau, o dan Rhan 3 a Rhan 4. (Byddai’r plant hyn wedi’u hystyried yn ‘blant mewn angen’ o dan adran 17 o Ddeddf Plant 1989, ond nid yw hyn yn berthnasol i Gymru bellach.) Gall y cymorth hwn gynnwys gwasanaethau cymorth y teulu a rhianta, a chymorth ariannol. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod gofalwyr sy’n aelodau’r teulu ac yn ffrindiau yn ymwybodol o wasanaethau cymorth perthnasol, a bod y gwasanaethau ar gael yn hwylus i’r rhai sy’n gofalu am blant, p’un ai a ydynt yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ai peidio. Bydd awdurdod lleol sy’n cyflawni ei ddyletswydd yn effeithiol o dan Ran 3 a 4 o’r Ddeddf yn helpu i sicrhau na fydd plant yn dod yn blant sy’n derbyn gofal oni bai mai hwn yw’r dull mwyaf priodol o ddiogelu a hyrwyddo eu llesiant.
118. Nid oes gan awdurdodau lleol ddyletswydd i asesu trefniadau anffurfiol teuluoedd a ffrindiau, oni bai ei bod yn ymddangos i’r awdurdod y gall fod angen am ofal a chymorth sy’n golygu bod rhaid gwneud asesiad o dan Ran 3 o’r Ddeddf. Mae llawer o drefniadau anffurfiol teuluoedd a ffrindiau yn aros yn gwbl breifat ac ni fydd angen cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae darpariaethau cyfreithiol yn berthnasol i faethu preifat, gorchmynion trefniadau plant a gwarcheidiaeth arbennig, a bydd angen i awdurdodau lleol gydymffurfio â hwy. [Gweler y rheoliadau a’r canllawiau perthnasol?]
119. Bydd angen i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylai plentyn sy’n derbyn gofal gan ei deulu neu ei ffrindiau ddod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Bydd angen gwneud hyn ar sail achosion unigol ar ôl asesu anghenion ac amgylchiadau’r plentyn. Un o’r cwestiynau allweddol fydd a yw’r awdurdod lleol yn credu bod angen llety ar y plentyn oherwydd un o’r rhesymau o dan adran 76(1) o’r Ddeddf. Os penderfynir bod angen i’r plentyn dderbyn gofal, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ddod o hyd i leoliad priodol ar gyfer y plentyn o dan Ran 6 o’r Ddeddf, a all fod yn lleoliad maethu gyda gofalwr sy’n aelod o’r teulu neu’n ffrind, os yw hynny’n briodol.
Dyletswydd i ddarparu llety
120. Mae’r Ddeddf yn nodi amgylchiadau amrywiol lle mae’n rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety ar gyfer plentyn.
(a) Mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu llety ar gyfer plant mewn gofal. Adran 79
(b) Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal yr ymddengys i’r awdurdod bod angen llety arno oherwydd:
· nad oes unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn
· bod y plentyn ar goll neu wedi cael ei adael
· bod y person sydd wedi bod yn gofalu am y plentyn wedi’i atal (am ba
reswm bynnag, naill ai dros dro neu’n barhaol) rhag darparu llety neu ofal
addas i’r plentyn.
Adran 76(1)
(c) Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety ar gyfer unrhyw berson ifanc 16 neu 17 oed yn ei ardal y byddai ei lesiant, ym marn yr awdurdod, yn debygol o gael ei andwyo’n ddifrifol os na fyddai’r awdurdod yn darparu llety iddo.
Adran 76(3)
Rhaid i awdurdod lleol beidio â darparu llety ar gyfer unrhyw blentyn o dan (b) neu (c) os yw unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gwrthwynebu, a’i fod yn gallu darparu neu drefnu llety ar gyfer y plentyn. Caiff person sydd â chyfrifoldeb rhiant symud y plentyn ar unrhyw adeg o lety’r awdurdod lleol. Adran 76 (4) a (5)
Fodd bynnag, ni all person sydd â chyfrifoldeb rhiant symud plentyn neu wneud trefniadau llety amgen os yw un o’r bobl ganlynol yn cytuno bod y plentyn yn derbyn gofal mewn llety a ddarperir gan yr awdurdod lleol: person y mae gorchymyn trefniadau plentyn o’i blaid wedi’i wneud, gwarcheidwad arbennig, neu berson sydd â gofal am y plentyn o ganlyniad i orchymyn llys. Pan fydd mwy nag un person o’r math, rhaid i bob un ohonynt fod yn gytûn. Adran 76(6) a (7)
Hefyd, ni all person sydd â chyfrifoldeb rhiant symud plentyn neu wneud trefniadau amgen os yw’r plentyn yn berson ifanc dros 16 oed sy’n cytuno i gael ei letya o dan adran 76.
Tra bod plentyn yn cael ei letya o dan adran 76, mae’n rhaid i awdurdod lleol wneud popeth posibl i gynorthwyo’r plentyn i dderbyn gofal gan ei rieni yn y dyfodol neu o fewn ei deulu ehangach a sicrhau bod asesiadau, gan gynnwys asesiadau arbenigol, yn cael eu comisiynu os oes angen er mwyn llywio cynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn a’r cynllun ar gyfer sefydlogrwydd.
(d) Rhaid i awdurdod lleol wneud darpariaeth i dderbyn a darparu llety ar
gyfer plant:
· sy’n cael eu symud o’u cartrefi neu sy’n cael eu cadw oddi yno o dan
Ran 5 o Ddeddf Plant 1989
· sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu (adran 46(3)(f) o Ddeddf Plant
1989)
· sy’n cael eu symud i lety awdurdod lleol o dan adran 38(6) o Ddeddf yr
Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984
· sydd wedi’u remandio i lety awdurdod lleol
· sy’n destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid sy’n gosod gofyniad
preswylio awdurdod lleol, neu yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid â
maethu. Adran 77
121. Mae gan awdurdod lleol ddyletswydd hefyd i gynnal plentyn sy’n derbyn gofal mewn agweddau eraill ar wahân i ddarparu llety ar ei gyfer. Adran 80
Sicrhau digon o lety i blant sy’n derbyn gofal
122. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyffredinol (adran 75) i gymryd camau i sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, eu bod yn gallu darparu llety ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant eraill sy’n cael eu lletya sydd o fewn ardal yr awdurdod lleol, a’u bod yn gallu diwallu anghenion y plant. Mae’r llety hwn yn cynnwys rhieni maeth awdurdod lleol a chartrefi plant.
123. Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i’r fantais o fod â nifer o ddarparwyr llety yn ei ardal sy’n ddigon iddo gyflawni ei ddyletswydd, a’r fantais o fod ag ystod o lety yn ei ardal sy’n gallu diwallu anghenion gwahanol. Y nod yw gwella ansawdd a dewis lleoliadau, a lleihau’r tebygolrwydd na fydd lleoliadau addas ar gael ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn yr ardal leol.
124. Lle y bo’n briodol, gall awdurdodau lleol ystyried gwneud trefniadau ar sail ranbarthol (er enghraifft, mewn perthynas â chartrefi plant).
Penderfynu ble i leoli plentyn sy’n derbyn gofal
125. Wrth benderfynu sut i letya a chynnal plentyn sy’n derbyn gofal, mae’n rhaid i awdurdod lleol weithredu bob amser ar sail ei brif ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn (adran 78). Mae’r opsiynau ar gyfer lleoli plentyn sy’n derbyn gofal wedi’u nodi yn adran 81 o’r Ddeddf.
126. Os oes modd – h.y. os yw’n gyson â llesiant y plentyn ac yn rhesymol ymarferol – dylai’r awdurdod lleol wneud trefniadau i blentyn sy’n derbyn gofal fyw gyda rhiant, person sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu (os yw’r plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol a bod gorchymyn preswylio / trefniant plentyn ar waith yn union cyn i’r gorchymyn gofal gael ei wneud) berson y gwnaed gorchymyn trefniant plentyn o’i blaid. Mae hyn yn cyd-fynd â’r ddyletswydd gyffredinol, a nodir yn Rhan 2 o’r Ddeddf, bod yn rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan Ran 6 ystyried pwysigrwydd y teulu yn magu’r plentyn, i’r graddau y mae hyn yn gyson â llesiant y plentyn.
127. Weithiau, ni fydd yn bosibl neu’n briodol lleoli plentyn gyda rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant. Mewn achos o’r fath, dylid rhoi blaenoriaeth uwch i leoli plentyn gyda pherthynas, ffrind neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn, fel bod y plentyn yn parhau i gael ei fagu oddi mewn i amgylchedd ei deulu neu ei gymuned. Os yw’r plentyn mewn gofal (h.y. yn destun gorchymyn gofal neu orchymyn gofal interim), bydd angen i’r person hwn fod wedi’i gofrestru’n ofalwr maeth awdurdod lleol. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn caniatáu i awdurdod lleol wneud lleoliad dros dro tra bod y person cysylltiedig yn ceisio cael ei gymeradwyo’n ofalwr maeth. Os yw’r plentyn wedi’i letya ar sail wirfoddol, ac yn cael ei ryddhau i ofal perthynas, ffrind neu berson cysylltiedig (gyda chydsyniad y rhiant, ac oherwydd bod yr asesiad a’r adolygiad o achos y plentyn wedi dod i’r casgliad mai hwn yw’r dewis gorau ar gyfer y plentyn), ni fydd y plentyn yn derbyn gofal mwyach.
128. Os nad oes modd lleoli plentyn sy’n derbyn gofal gyda rhiant neu berson cysylltiedig, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried pa un o’r canlynol sydd fwyaf priodol:
· lleoli’r plentyn gyda gofalwr maeth awdurdod lleol nad yw’n gysylltiedig
â’r plentyn (mae hyn yn cynnwys gofalwyr maeth sydd wedi’u cofrestru gydag Asiantaeth Faethu Annibynnol)
· lleoli’r plentyn gyda darpar fabwysiadwr (lle y nodwyd bod mabwysiadu
er budd pennaf y plentyn)
· lleoli’r plentyn mewn cartref plant
· lleoli’r plentyn yn unol â threfniadau eraill – er enghraifft, cynorthwyo
pobl ifanc 16 oed neu hŷn i fyw’n annibynnol mewn llety rhent neu lety hosteli â chymorth.
129. Bydd angen lleoli nifer fach iawn o blant sy’n derbyn gofal mewn cartref diogel i blant. Trafodir y lleoliadau hyn ym mhennod 7 o’r cod hwn.
130. Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau, hyd y bo’n rhesymol ymarferol, bod y lleoliad:
· yn galluogi’r plentyn i fyw ger ei gartref
· yn diwallu anghenion y plentyn a nodwyd yn y cynllun gofal a chymorth
Rhan 6, a’r canlyniadau a nodwyd yn y cynllun llwybr (ar gyfer pobl ifanc 16 oed a hŷn)
· yn osgoi amharu ar addysg neu hyfforddiant y plentyn (yn unol â
dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adran 78(2) i hyrwyddo cyflawniad addysgol y plentyn)
· yn galluogi’r plentyn i fyw gydag unrhyw frodyr a chwiorydd sy’n derbyn
gofal gan yr awdurdod lleol hefyd
· yn darparu llety sy’n addas i anghenion y plentyn os yw’r plentyn yn
anabl.
131. Mae dyletswydd i sicrhau bod plentyn yn cael ei leoli yn ardal yr awdurdod lleol ei hun (adran 81(9)), oni bai nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny neu fod rhesymau hanfodol ar gyfer lleoli plentyn y tu allan i’r ardal (gweler ‘Lleoliadau y tu allan i ardal yr awdurdod lleol’ isod).
132. Wrth wneud penderfyniadau yn ymwneud â lleoliadau, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y canlynol hefyd:
· barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn (yn unol ag oedran a
dealltwriaeth y plentyn)
· barn, dymuniadau a theimladau rhieni neu’r person arall sydd â
chyfrifoldeb rhiant (fel sy’n briodol)
· argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac
ieithyddol y plentyn
· rhywioldeb a hunaniaeth o ran rhywedd y plentyn
· unrhyw anabledd neu nam ar y synhwyrau, gan gynnwys unrhyw
anghenion emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl
· trefniadau cyswllt â’r teulu
· trefniadau i dreulio amser gyda ffrindiau a chymryd rhan mewn
digwyddiadau chwaraeon, cymdeithasol a hamdden.
133. Ni fydd yn bosibl bob amser i awdurdodau lleol wneud lleoliadau sy’n bodloni’r holl feini prawf a nodwyd yn y paragraffau uchod, a bydd angen gwneud dewisiadau a phenderfyniadau anodd. Y cwestiwn pwysig y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei ofyn yw i ba raddau y bydd unrhyw leoliad arfaethedig yn diwallu anghenion y plentyn unigol ac yn cyfrannu at ei ganlyniadau llesiant, o ystyried ei hanes a’i amgylchiadau presennol. Mae’n rhaid i benderfyniadau lleoli fod yn seiliedig bob amser ar asesiad cyfredol o anghenion y plentyn a’i amgylchiadau teuluol, ac mae’r Ddeddf (adran 82) yn nodi bod yn rhaid i achos plentyn gael ei adolygu cyn lleoli plentyn neu cyn ei symud i lety newydd (oni bai bod angen gwneud trefniadau amgen ar frys i ddiogelu llesiant y plentyn). Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y lefel a’r mathau o gymorth a gwasanaethau y bydd angen eu darparu i gynyddu gallu’r darparwr ofalwr i ddiwallu anghenion y plentyn. Mae hyn yn cynnwys cymorth o dan Ran 3 a 4 o’r Ddeddf ar gyfer rhieni, aelodau’r teulu neu ‘bersonau cysylltiedig’ eraill y mae plant yn cael eu rhyddhau i’w gofal ar ôl cael eu lletya gan yr awdurdod lleol.
134. Mae gan awdurdodau lleol y pŵer (adran 81(13)) i benderfynu telerau unrhyw drefniadau y maent yn eu gwneud i leoli plentyn sy’n derbyn gofal gyda rhiant, gofalwr maeth neu ddarpar fabwysiadwr, gan gynnwys telerau unrhyw daliadau (yn amodol ar unrhyw orchymyn a wnaed o dan adran 49 o Ddeddf Plant 2004).
135. Wrth ailsefydlu person ifanc sydd wedi’i ryddhau o gyfnod mewn llety cadw ieuenctid[10], dylai awdurdod lleol y plentyn (h.y. yr awdurdod lleol lle’r oedd y plentyn yn byw fel arfer cyn cael ei ddedfrydu) ystyried pa leoliad sydd fwyaf addas i anghenion gofal a chymorth yr unigolyn. Hefyd, bydd angen i awdurdodau lleol gyfeirio at y cod ymarfer mewn perthynas â Rhan 11 o’r Ddeddf wrth ystyried anghenion plant a phobl ifanc sy’n cael eu cadw mewn sefydliad diogel.
Lleoli plentyn mewn gofal gyda rhiant, person sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu berson y gwnaed gorchymyn trefniant plentyn o’i blaid
136. Mae’r adran hon yn ymwneud â lleoli plentyn mewn gofal gyda rhiant, person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn, neu berson y gwnaed gorchymyn trefniant plentyn o’i blaid cyn i’r plentyn ddechrau derbyn gofal. Cyfeirir at bob un o’r rhain fel ‘rhiant’ yn y darn sy’n dilyn.
137. Ni fydd gorchymyn gofal yn cael ei wneud oni bai bod y llys yn fodlon bod y plentyn yn dioddef (neu’n debygol o ddioddef) niwed sylweddol oherwydd nad yw’n derbyn (neu’n debygol o dderbyn) y gofal y gellir disgwyl yn rhesymol i riant ei roi, neu oherwydd bod y plentyn y tu hwnt i reolaeth y rhiant. Mae’n hanfodol bwysig, felly, bod y ffactorau a nodwyd fel sail i’r gorchymyn gofal (yn enwedig unrhyw faterion yn ymwneud â cham-drin neu esgeuluso) wedi’u datrys cyn penderfynu a oes modd lleoli plentyn gyda rhiant eto. Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a darparu’r cymorth a’r gwasanaethau priodol sydd eu hangen i gynyddu gallu’r rhiant i ddiwallu anghenion y plentyn a sicrhau bod y lleoliad yn llwyddiannus.
138. Mewn llawer o achosion, bydd penderfyniad i leoli plentyn gyda rhiant yn rhan o gynnydd arfaethedig tuag at ryddhau’r gorchymyn gofal. Dylai’r gwaith o reoli’r lleoliad geisio cynyddu rôl y rhiant a cefnogi’r berthynas rhwng aelodau’r teulu.
Hyd yn oed mewn achosion lle nad yw rhyddhau’r gorchymyn gofal yn opsiwn rhagweladwy, dylid adolygu’r posibilrwydd hwnnw yn gyson.
139. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi na ddylid lleoli plentyn gyda rhiant oni bai bod y lleoliad yn diogelu ac yn hyrwyddo llesiant y plentyn, a’i fod yn diwallu ei anghenion yn unol â’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6. Bydd angen i awdurdodau lleol fod â systemau asesu a rheoli risgiau effeithiol sy’n briodol i oedran ac amgylchiadau’r plentyn (er enghraifft, os yw plentyn hŷn yn penderfynu aros gyda’i deulu neu ddychwelyd ato). Ni chaniateir lleoli plentyn gyda rhiant os yw gwneud hynny’n anghydnaws ag unrhyw orchymyn a wnaed gan y llys.
140. Cyn gwneud unrhyw benderfyniad i leoli’r plentyn gyda rhiant, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol:
· asesu addasrwydd y rhiant i ofalu am y plentyn, yr holl bersonau eraill
18 oed a throsodd sy’n aelodau o’r aelwyd, ac addasrwydd y llety
· canfod a rhoi ystyriaeth briodol i ddymuniadau a theimladau’r plentyn
· ymgynghori â’r swyddog adolygu annibynnol ac unrhyw berson arall
sydd â safbwyntiau perthnasol ym marn yr awdurdod lleol, ac ystyried
safbwyntiau pob un ohonynt
· adolygu achos y plentyn.
141. Mae Atodlen 4 i’r Rheoliadau CPPCR yn nodi’r ffactorau sydd i’w hystyried wrth benderfynu lleoli plentyn mewn gofal gyda rhiant. Mae hyn yn cynnwys i ba raddau y gall y rhiant ddarparu amgylchedd teuluol sefydlog, diogel a chefnogol ar gyfer y plentyn, darparu ar gyfer anghenion corfforol ac emosiynol y plentyn, a hyrwyddo addysg a datblygiad y plentyn. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried pa adnoddau sydd ar gael yn y gymuned leol i gefnogi’r rhiant a’r plentyn, a pha gymorth a gwasanaethau y bydd angen eu darparu i oresgyn unrhyw anawsterau posibl.
142. Mae’n arbennig o bwysig bod yr awdurdod lleol yn ystyried effaith debyg ffactorau fel trais domestig, rhieni yn camddefnyddio alcohol neu sylweddau, a phroblemau iechyd meddwl, sy’n gallu cael effaith niweidiol ar allu’r rhiant i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn, yn enwedig os oeddent yn rhan o sail y gorchymyn gofal. Bydd angen i’r awdurdod lleol fodloni ei hun bod y rhiant wedi cael amser a chymorth digonol i fynd i’r afael â’r ffactorau hyn cyn caniatáu i’r plentyn ddychwelyd neu aros gartref, a bod y ffactorau hyn yn cael sylw priodol yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn a’u hadolygu’n rheolaidd tra bod y plentyn mewn gofal. Os yw’r rhiant wedi cael plant eraill sy’n destun gorchmynion gofal neu fabwysiadu, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol fodloni ei hun bod yr holl faterion blaenorol yn ymwneud â gallu’r rhiant i fagu plant wedi’u datrys. Dylid ystyried y berthynas rhwng aelodau’r teulu, gan gynnwys perthynas y plentyn ag unrhyw bartner newydd y rhiant neu unrhyw lysblant, yn ogystal â’r berthynas rhwng y rhiant ac unrhyw oedolion eraill sydd â rhan arwyddocaol ym mywyd y plentyn. Dylid cwblhau asesiad o addasrwydd ffurfiol ar gyfer pob aelod o’r cartref sy’n 18 oed a throsodd, a dylai’r asesiad hefyd ystyried hanes a ffordd o fyw bresennol unrhyw bobl ifanc eraill yn y cartref o dan 18 oed.
143. Ar ôl asesu addasrwydd lleoli plentyn gyda rhiant, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol nodi’r gwasanaethau a’r mathau eraill o gymorth a gaiff eu darparu i’r rhiant a’r plentyn i ddiwallu unrhyw anghenion a nodwyd, a’u cynnwys yng nghynllun gofal a chymorth y plentyn. Mae’n rhaid i’r adolygiad o achos y plentyn ystyried effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn a’r cymorth hwn wrth ddiwallu anghenion y plentyn, a’u heffaith ar allu’r rhiant i ofalu.
144. Mae’n rhaid i’r penderfyniad i leoli plentyn gyda rhiant gael ei gymeradwyo gan swyddog enwebedig o’r awdurdod lleol, a rhaid iddo fod yn fodlon bod y trefniadau ar gyfer y lleoliad wedi’u cynnwys yn briodol yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn, a bod yr holl ofynion statudol gofynnol wedi’u bodloni.
145. Mewn rhai achosion, gall awdurdod lleol benderfynu y bydd dychwelyd at ei rieni cyn bod modd cwblhau asesiad er budd pennaf y plentyn. Mae’r rheoliadau CPPCR yn caniatáu hyn os yw’n angenrheidiol ac os yw’n cyd-fynd â llesiant y plentyn. Mewn achos o’r fath, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol:
· drefnu i gyfweld â’r rhiant, gan ystyried y ffactorau yn Atodlen 4
· cwblhau’r asesiad a’r adolygiad ffurfiol o achos y plentyn o fewn 10
diwrnod gwaith i leoli’r plentyn gyda’r rhiant
· gwneud penderfyniad ffurfiol i gadarnhau’r lleoliad o fewn 10 diwrnod
gwaith i gwblhau’r asesiad (h.y. 20 diwrnod gwaith o’r dyddiad y mae’r
plentyn yn mynd i fyw gyda’r rhiant)
· adolygu a diwygio cynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn os yw’r
lleoliad wedi’i gadarnhau, neu derfynu’r lleoliad os nad yw wedi’i gadarnhau.
Lleoli plentyn mewn gofal gyda pherthynas, ffrind neu berson cysylltiedig
146. Mae yna sawl mantais amlwg i leoli plentyn mewn gofal gyda pherthynas, ffrind neu berson arall sydd â chysylltiad blaenorol â’r plentyn (fel gwarchodwr plant, gweithiwr ieuenctid neu athro). Gall lleoliadau o’r fath sicrhau cysondeb a helpu’r plentyn i deimlo ei fod yn perthyn i rwydwaith teuluol neu gymuned ehangach. Gall ymlyniad agos fodoli eisoes neu gall fod yn debygol o ddatblygu gyda’r anogaeth a’r cymorth priodol.
147. Fodd bynnag, ni fydd pob perthynas yn gallu diogelu a hyrwyddo llesiant plentyn. Mae’n bosibl y bydd tensiynau neu anawsterau gwirioneddol neu bosibl oddi mewn i’r teulu, sydd efallai wedi cyfrannu at y ffaith fod y plentyn wedi dechrau derbyn gofal yn y lle cyntaf. Hefyd, gall rhai perthnasau fyw cannoedd o filltiroedd o gartref y plentyn, ac ni fydd y plentyn eisiau symud, neu ni fydd symud er budd pennaf y plentyn. Bydd angen ystyried manteision ac anfanteision lleoli plentyn gydag aelodau eraill o’r teulu yn ofalus, gan roi sylw i ddymuniadau a theimladau’r plentyn ei hun.
148. Mae’r broses ar gyfer asesu addasrwydd lleoliad gyda pherthynas, ffrind neu berson cysylltiedig yn debyg i’r broses ar gyfer asesu lleoliad gyda rhiant. Fodd bynnag, gan fod y rhain yn lleoliadau plant mewn gofal ffurfiol, mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i berthynas, ffrind neu berson cysylltiedig sy’n gofalu am blentyn sy’n derbyn gofal gael cymeradwyaeth fel gofalwr maeth awdurdod lleol. Felly, maent yn wahanol i’r trefniadau gofal gan berthynas y gall teuluoedd eu rhoi ar waith, gyda neu heb gymorth awdurdod lleol, cyn bod plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal yn ffurfiol. Maent hefyd yn wahanol i drefniadau posibl ar gyfer plentyn sy’n cael ei letya sy’n cael ei ryddhau i ofal aelod o’r teulu neu berson cysylltiedig arall.
149. Cyn gwneud penderfyniad i leoli plentyn mewn gofal gyda pherthynas, ffrind neu berson cysylltiedig, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol:
· asesu addasrwydd y person i ofalu am y plentyn, addasrwydd
personau 18 oed a throsodd sy’n aelodau o’r aelwyd (gan drefnu gwiriadau’r
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os oes angen), ac addasrwydd y llety
· canfod a rhoi sylw dyladwy i ddymuniadau a theimladau’r plentyn
· ymgynghori ag, ac ystyried safbwyntiau’r swyddog adolygu annibynnol
ac unrhyw berson arall y mae ei safbwyntiau’n berthnasol ym marn yr
awdurdod lleol
· adolygu achos y plentyn
· cymeradwyo’r gofalwr fel gofalwr maeth awdurdod lleol, neu geisio
sicrhau cymeradwyaeth dros dro.
150. Mae Atodlen 5 i’r Rheoliadau CPPCR yn nodi’r ffactorau sydd i’w hystyried wrth benderfynu lleoli plentyn mewn gofal gyda pherthynas, ffrind neu berson cysylltiedig. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys y graddau y gall y person ddarparu amgylchedd teuluol sefydlog, diogel a gofalgar ar gyfer y plentyn, darparu ar gyfer anghenion corfforol ac emosiynol y plentyn, a hyrwyddo dysgu a datblygiad y plentyn. Yn benodol, mae’n rhaid i’r asesiad asesu ansawdd y berthynas sy’n bodoli rhwng y plentyn a’r gofalwr arfaethedig, gan mai hon yw’r sylfaen ar gyfer chwilio am leoliad o’r fath.
151. Mae’n rhaid canfod dymuniadau a theimladau’r plentyn ynglŷn â’r lleoliad arfaethedig (yn amodol ar lefel dealltwriaeth y plentyn), eu cofnodi a rhoi sylw dyladwy iddynt. Lle bynnag y bo modd, mae’n rhaid rhoi cyfle i’r plentyn ymweld â chartref y person cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud. Hefyd, mae’n rhaid canfod a nodi safbwyntiau rhieni’r plentyn ac eraill â chyfrifoldeb rhiant cyn gwneud penderfyniad.
152. Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried pa adnoddau sydd ar gael yn y gymuned leol i gefnogi’r gofalwr a’r plentyn, a pha gymorth a gwasanaethau y bydd angen eu rhoi ar waith i oresgyn unrhyw anawsterau posibl.
153. Mae’n rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol ymweld â’r cartref fel rhan o’r broses asesu. Bydd yr ymweliad hwn yn sicrhau bod y cartref a’r gofod sydd ar gael yn addas i’r plentyn penodol, ac yn nodi unrhyw adnoddau ychwanegol posibl sydd eu hangen i ddiwallu anghenion y plentyn (er enghraifft, cyfarpar ar gyfer baban neu blentyn ifanc iawn, neu gyfarpar arbenigol ar gyfer plentyn anabl). Bydd yr ymweliad â’r cartref hefyd yn gyfle i nodi cyfansoddiad yr aelwyd yn gliriach, ynghyd â natur ac ansawdd y berthynas rhwng y trigolion a’u safbwyntiau ar y trefniadau arfaethedig. Os oes plant eraill yn byw ar yr aelwyd, bydd angen i’r gweithiwr cymdeithasol ganfod eu barn ar y lleoliad arfaethedig a’i effaith bosibl arnynt, gan ystyried a fydd unrhyw agwedd ar eu hanes a’u ffordd o fyw bresennol yn debygol o gael effaith ar y lleoliad.
154. Ar ôl i leoliad gael ei gytuno, mae’n rhaid i’r berthynas, y ffrind neu’r person cysylltiedig lofnodi cytundeb gofal maeth, lle mae’r gofalwr yn cytuno i wneud y canlynol:
· gofalu am y plentyn fel pe bai’r plentyn yn aelod o deulu’r person
· caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan yr awdurdod lleol ymweld
ar unrhyw adeg
· gadael i’r plentyn gael ei symud gan yr awdurdod lleol ar unrhyw adeg
· sicrhau bod yr holl wybodaeth gyfrinachol yn ymwneud â’r plentyn, neu
deulu neu amgylchiadau’r plentyn, yn aros yn gyfrinachol
· cefnogi trefniadau cysylltu yn unol ag unrhyw orchymyn llys neu
drefniadau eraill a wnaed gan yr awdurdod lleol.
155. Fel gofalwr maeth cymeradwy, bydd gan y berthynas, y ffrind neu’r person cysylltiedig hawl i’r un cymorth a gwasanaethau, gan gynnwys unrhyw ffioedd a lwfansau, â’r hyn a ddarperir gan yr awdurdod lleol ar gyfer gofalwyr maeth nad oes ganddynt gysylltiad â’r plentyn.
Cymeradwyaeth dros dro
156. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol eisiau lleoli plentyn gyda pherthynas, ffrind neu berson cysylltiedig cyn i’r broses o gymeradwyo gofalwr fel gofalwr maeth gael ei chwblhau, ac mae’r Rheoliadau CPPCR yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyaeth dros dro o dan yr amgylchiadau hyn.
157. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol fod yn fodlon â’r canlynol:
· dyma’r ffordd fwyaf priodol o ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn
· mae angen lleoli’r plentyn gyda’r berthynas, y ffrind neu’r person
cysylltiedig cyn bod addasrwydd y person i fod yn rhiant maeth wedi’i
asesu’n llawn.
158. Cyn rhoi cymeradwyaeth dros dro, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol asesu addasrwydd y person i ofalu am y plentyn, archwilio’r llety a chael gwybodaeth am bersonau eraill sy’n byw ar yr aelwyd, gan ystyried y materion a restrwyd yn Atodlen 5.
159. Mae modd rhoi cymeradwyaeth dros dro am gyfnod na fydd yn hwy nag 16 wythnos. Dylai’r cyfnod hwn ganiatáu digon o amser i’r awdurdod lleol gwblhau’r broses cymeradwyo gofalwyr maeth, gan gynnwys unrhyw wiriadau cofnodion troseddol gofynnol.
160. Gall y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro gael ei ymestyn o dan y canlyniadau eithriadol canlynol yn unig:
· mae’r broses gymeradwyo wedi cymryd mwy o amser nag a ragwelwyd (mewn achosion o’r fath, gellir ymestyn y gymeradwyaeth dros dro am 8 wythnos arall)
· nid yw’r person cysylltiedig wedi’i gymeradwyo ac mae’n gwneud cais am adolygiad o’r penderfyniad drwy’r mecanwaith ar gyfer Adolygiad Annibynnol o Benderfyniadau (mewn achos o’r fath bydd y ymeradwyaeth dros dro yn parhau nes bod canlyniad yr adolygiad yn hysbys)
161. Pan ddaw’r cyfnodau hyn i ben, ac os nad yw’r person cysylltiedig wedi’i gymeradwyo fel gofalwr maeth awdurdod lleol, dylid ystyried lleoliad gwahanol. Cyn ymestyn y lleoliad, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a yw’r lleoliad yn parhau i fod yr un mwyaf addas sydd ar gael (gan ystyried barn y panel maethu os yw’r achos yn cael ei adolygu), a hysbysu’r swyddog adolygu annibynnol.
162. Mae’n rhaid i benderfyniad i wneud lleoliad o’r fath, neu ei ymestyn, gael ei wneud gan swyddog enwebedig, a rhaid iddo fod yn fodlon bod y lleoliad er budd pennaf y plentyn.
163. Wrth reswm, mae peryglon ynghlwm wrth gymeradwyaeth dros dro, gan gynnwys y perygl na fydd y berthynas, y ffrind neu’r person cysylltiedig yn cael ei gymeradwyo fel gofalwr maeth awdurdod lleol ar ddiwedd y broses, gan amharu ymhellach ar fywyd y plentyn. Os oes modd, mae’n llawer gwell cwblhau’r broses
asesu a chymeradwyo lawn cyn gwneud lleoliad. O dan rai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd yn well defnyddio lleoliad tymor byr gyda gofalwr maeth, ond sicrhau cyswllt priodol rhwng y plentyn a’r darpar ofalwr ‘cysylltiedig’, nes bod y broses lawn o gymeradwyo gofalwyr maeth wedi’i chwblhau.
164. Pan fydd cymeradwyaeth dros dro yn cael ei gwneud, mae’n rhaid i’r gofalwr lofnodi cytundeb gofal maethu, a bydd gan y gofalwr hawl i’r un cymorth a gwasanaethau (gan gynnwys unrhyw ffioedd a lwfansau) â gofalwyr maeth eraill awdurdodau lleol.
165. Bydd trefniadau ymweld â phlentyn sy’n derbyn gofal ac sydd wedi’i leoli gyda pherthynas, ffrind neu berson cysylltiedig yn amodol ar gymeradwyaeth dros dro yn digwydd yn amlach na mewn achosion lle mae’r broses gymeradwyo wedi’i chwblhau. Bydd yr ymweliadau hyn yn galluogi’r gweithiwr cymdeithasol i asesu ansawdd profiad y plentyn yn y lleoliad, a sut mae’r berthynas â’r gofalwr ac aelodau eraill yr aelwyd yn datblygu. Bydd y gweithiwr cymdeithasol hefyd yn gallu nodi unrhyw gymorth neu wasanaethau ychwanegol posibl i sicrhau bod y lleoliad yn parhau i ddiwallu anghenion y plentyn. Os oes pryderon nad yw’r lleoliad yn addas i ddiwallu anghenion y plentyn bellach, er gwaethaf darparu cymorth priodol, mae’n bosibl y bydd angen i’r awdurdod lleol derfynu’r lleoliad cyn cwblhau’r broses gymeradwyo.
Lleoli plentyn gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol nad oes ganddynt gysylltiad â’r plentyn
166. Os nad yw’n bosibl lleoli plentyn sy’n derbyn gofal gyda rhiant, perthynas, ffrind neu berson cysylltiedig arall, gall yr awdurdod lleol benderfynu lleoli’r plentyn gyda gofalwr maeth nad oes ganddo gysylltiad â’r plentyn. Gall hyn gynnwys rhiant maeth sydd wedi’i gofrestru gydag asiantaeth faethu annibynnol y mae gan yr awdurdod lleol gytundeb â hi.
167. Fel sy’n wir am leoliadau eraill, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun:
· bod y lleoliad yn diogelu ac yn hyrwyddo llesiant y plentyn, a’i fod yn
diwallu ei anghenion yn unol â’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6
· ar ôl ystyried yr holl amgylchiadau, y lleoliad gyda gofalwr maeth
penodol yw’r lleoliad mwyaf priodol.
168. Ni fydd modd dod o hyd i leoliad delfrydol ar gyfer plentyn bob tro, a gall cyfyngiadau ymarferol ar ddewis ei gwneud yn anodd sicrhau bod holl anghenion asesedig y plentyn yn cael eu diwallu. Gall cynllunio cynnar helpu i leihau’r peryglon hyn, ac mae’n rhaid i awdurdodau lleol ganiatáu amser digonol i asesu anghenion plentyn yn ofalus a datblygu cynllun, cyn gwneud lleoliad.
169. Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gall awdurdod lleol leoli plentyn sy’n derbyn gofal gyda gofalwr maeth penodol:
· os yw’r gofalwr maeth wedi’i gymeradwyo gan yr awdurdod lleol neu
gan ddarparwr maethu arall (y mae’n rhaid iddo gydsynio â’r lleoliad)
· mae unrhyw awdurdod lleol arall sydd â phlentyn wedi’i leoli gyda’r
rheolwr maeth ar hyn o bryd yn cydsynio â’r lleoliad
· mae telerau cymeradwyo’r gofalwr maeth yn cyd-fynd â’r lleoliad
arfaethedig
· mae’r gofalwr maeth wedi ymrwymo i drefniant gofal maeth gyda’r
awdurdod lleol neu gyda darparwr gwasanaeth maethu arall.
170. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi, lle bo hynny’n bosibl, bod yn rhaid i riant maeth awdurdod lleol lle bydd plentyn yn cael ei leoli naill ai rannu argyhoeddiad crefyddol y plentyn neu ymrwymo i fagu’r plentyn yn y ffydd honno. Mae’n rhaid ystyried dymuniadau a theimladau’r plentyn mewn perthynas â’i argyhoeddiad crefyddol hefyd, gan ystyried oedran a lefel dealltwriaeth y plentyn.
Lleoliadau mewn argyfwng
171. Dylid osgoi lleoliadau brys neu uniongyrchol. Fodd bynnag, bydd yn rhaid lleoli plentyn mewn argyfwng neu dros dro ar adegau. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn caniatáu i awdurdod lleol, mewn argyfwng, leoli plentyn gyda gofalwr maeth cymeradwy, am gyfnod nad yw’n hwy na 6 diwrnod gwaith, hyd yn oed os nad yw telerau’r gymeradwyaeth yn gyson â’r lleoliad. Ar ôl i’r 6 diwrnod gwaith ddod i ben, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol derfynu’r lleoliad oni bai bod telerau cymeradwyo’r gofalwr maeth wedi’u diwygio i fod yn gyson â’r lleoliad. Y bwriad yw defnyddio’r pwerau hyn mewn amgylchiadau eithriadol na ellir eu rhagweld, ac nid mewn sefyllfaoedd lle y gellid fod wedi gwneud cynlluniau wrth gefn priodol. Os yw’r awdurdod lleol wedi gwneud lleoliad mewn argyfwng, a’i fod yn dymuno diwygio’r telerau cymeradwyo fel bod y plentyn yn gallu aros gyda’r gofalwr maeth, mae’n rhaid i’r panel maethu sicrhau ei fod yn fodlon bod y gofalwr yn gallu diwallu anghenion y plentyn, gan ystyried anghenion a theimladau unrhyw blant eraill ar yr aelwyd.
Lleoli gydag asiantaeth faethu annibynnol
172. Gall awdurdod lleol leoli plentyn sy’n derbyn gofal gyda gofalwr maeth o asiantaeth faethu annibynnol y mae ganddo gytundeb ysgrifenedig â hi. Mae trefniant o’r fath ond yn cael ei wneud mewn perthynas â phlentyn penodol lle mae’r awdurdod lleol yn fodlon mai lleoli’r plentyn gyda rhiant maeth penodol yw’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer y plentyn. Wrth drefnu lleoliad o’r fath ar gyfer plentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig gyda’r asiantaeth faethu annibynnol sy’n nodi’r telerau a nodwyd yn Atodlen 6 i’r Rheoliadau CPPCR.
Lleoli gyda darpar fabwysiadydd (‘maethu i fabwysiadu’)
173. Mae Adran 81 (10) i (13) o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhai amgylchiadau penodol lle mae awdurdod lleol yn fodlon y dylai plentyn sy’n derbyn gofal gael ei fabwysiadu, a’i fod yn cynnig lleoli’r plentyn i gael ei fabwysiadu gan ddarpar fabwysiadydd. Mae’n nodi bod yn rhaid i’r awdurdod lleol osod y plentyn gyda’r darpar fabwysiadydd, oni bai ei fod yn credu y bydd yn fwy priodol lleoli’r plentyn yn rhywle arall nes bod y gorchymyn lleoli yn cael ei wneud. Cyfeirir at y trefniadau hyn fel ‘maethu i fabwysiadu’ weithiau.
174. Yng Nghymru, ni ellir gwneud y lleoliadau hyn nes bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu y dylid lleoli’r plentyn i’w fabwysiadu. Yn ymarferol, gall hyn ddigwydd ar ôl cyhoeddi achosion gofal, a bydd y plentyn mewn lleoliad dros dro nes bod y penderfyniad hwnnw’n cael ei wneud. Ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud, bydd y plentyn yn cael ei symud i ofalwyr maeth sydd hefyd yn ddarpar fabwysiadwyr y mae’r plentyn wedi’i baru â nhw, cyn bod y llys yn gwneud gorchymyn lleoli o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.
175. Mae’n bwysig nodi bod y darpariaethau ‘maethu i fabwysiadu’, fel y’u nodir yn y Ddeddf, yn wahanol i’r trefniadau cynllunio cydredol sydd ar waith yn Lloegr. Mae cynllunio cydredol (cyfeirir at hyn fel ‘maethu i fabwysiadu’ weithiau) yn digwydd pan fydd plentyn yn cael ei symud i leoliad maeth gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol sydd hefyd yn fabwysiadwyr cymeradwy cyn i benderfyniad gael ei wneud ynglŷn ag a ddylai’r plentyn gael ei fabwysiadu. Mae hyn yn golygu bod plentyn sy’n cael ei leoli gyda darpar fabwysiadydd o dan drefniadau cynllunio cydredol yn gallu cael ei adsefydlu gyda’i rieni biolegol os na phenderfynir gosod y plentyn i gael ei fabwysiadu wedi’r cwbl. Mae’r darpariaethau maethu i fabwysiadu yng Nghymru ond yn berthnasol lle mae’r posibilrwydd y bydd y plentyn yn cael ei integreiddio â’i deulu biolegol eisoes wedi’i ddiystyru.
176. Yn aml, bydd darpar fabwysiadwyr hefyd yn cael eu cymeradwyo fel gofalwyr maeth awdurdod lleol, ar ôl cwblhau’r broses asesu ar gyfer maethu a mabwysiadu. Fodd bynnag, ni fydd darpar fabwysiadwyr wedi’u cymeradwyo fel gofalwyr maeth mewn rhai achosion, a gall hyn arwain at oedi posibl wrth leoli plentyn mewn trefniant ‘maethu i fabwysiadu’. Felly, mae’r Rheoliadau CPPCR yn galluogi awdurdod lleol i gymeradwyo darpar fabwysiadydd fel rhiant maeth awdurdod lleol am gyfnod dros dro, ac mae’r gymeradwyaeth ond yn berthnasol i’r plentyn penodol hwnnw. Bydd y darpar fabwysiadydd ond yn cael cymeradwyaeth dros dro yn yr amgylchiadau canlynol:
· mae’r awdurdod lleol yn fodlon mai hwn yw’r lleoliad mwyaf priodol ar
gyfer y plentyn, a’i fod er budd pennaf y plentyn i’w leoli yno
· mae’r awdurdod lleol yn fodlon y bydd y trefniant arfaethedig yn diogelu
ac yn hyrwyddo llesiant y plentyn ac yn diwallu ei anghenion yn unol â’r
cynllun gofal a chymorth Rhan 6
· mae’r awdurdod lleol wedi asesu addasrwydd y darpar fabwysiadydd i
ofalu am y plentyn fel rhiant maeth.
177. Bydd un o’r canlynol yn dod â’r cyfnod cymeradwyo dros dro i ben:
· yr awdurdod lleol yn terfynu lleoliad y plentyn
· pan ddaw’r cyfnod cymeradwyo fel darpar fabwysiadydd i ben
· pan fydd y darpar fabwysiadydd yn cael ei gymeradwyo fel gofalwr
maeth
· os yw’r darpar fabwysiadydd yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r
awdurdod lleol nad yw’n dymuno cael ei gymeradwyo dros dro fel gofalwr maeth mewn perthynas â’r plentyn (o fewn 28 diwrnod i’r awdurdod lleol dderbyn yr hysbysiad hwn)
· pan leolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r darpar fabwysiadydd
yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002.
Lleoli mewn cartref plant
178. I rai plant sy’n derbyn gofal, lleoliad mewn cartref plant yw’r trefniant mwyaf addas. Dylid ystyried y dewis hwn yn un cadarnhaol bob amser, a rhaid iddo fod yn lleoliad sy’n diwallu anghenion penodol y plentyn ac yn gweddu i’w amgylchiadau. Mae’r lleoliadau hyn yn fwy tebygol o fod yn addas i blentyn hŷn, ac mae’n debyg y bydd dymuniadau a theimladau’r plentyn, ynghyd ag asesiad trylwyr o’i anghenion, yn penderfynu a yw’r dewis hwn yn addas iddo.
179. Gall y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan leoliadau preswyl amrywio’n fawr, felly mae’n bwysig sicrhau’r lleoliad cywir i ddiwallu anghenion y plentyn. Mae’n
rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod amrywiaeth o ddewisiadau preswyl ar gael fel bod lleoliadau yn diwallu anghenion unigol pob plentyn. Dylid ystyried pob dewis yn ofalus, ac os oes modd, dylid mynd â’r plentyn i ymweld â’r cartrefi fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau. O ystyried nifer y plant dan sylw, a’r angen i fod ag amrywiaeth o ddewisiadau gwahanol, mae’n bosibl y bydd angen i awdurdodau lleol ystyried comisiynu mathau penodol o lety preswyl ar sail ranbarthol.
Lleoli mewn ‘trefniadau eraill’
180. Fel arfer, bydd lleoli plant mewn mathau eraill o drefniant (darperir ar gyfer hyn yn adran 81(6)(d) o’r Ddeddf) ond yn briodol ar gyfer plant dros 16 oed sy’n derbyn gofal, a hon fydd y ffordd orau o ddiwallu’r anghenion asesedig a’r canlyniadau arfaethedig a nodir yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn, ac yn y cynllun llwybrau. Yn gyffredinol, bydd y canlyniadau hyn yn gysylltiedig â pharatoi’r person ifanc i adael gofal a helpu’r person ifanc i bontio i fywyd mwy annibynnol fel oedolyn.
181. Mae’r dewisiadau lleoli yn debygol o gynnwys:
· tŷ llety â chymorth
· llety byw â chymorth
· llety annibynnol gyda chymorth symudol gan weithwyr cymorth tai.
182. Gan fod y dewisiadau hyn wedi’u defnyddio ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal hefyd, mae pennod 5 o’r cod hwn yn ystyried y dewisiadau lleoli. Ni fydd y lleoliadau hyn yn cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac o ganlyniad ni fyddant yn cael eu harolygu gan Arolygiaeth Gwasanaethau Gofal a Chymdeithasol Cymru (AGGCC). O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol wneud popeth i sicrhau bod anghenion y plentyn sy’n derbyn gofal yn cael eu diwallu gan wasanaethau’r lleoliad, yn unol â’i brif ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn. Pan fydd plentyn sy’n derbyn gofal yn cael ei leoli mewn ‘trefniadau eraill’, mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi bod yn rhaid i’r awdurdod lleol ddiwygio’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6, ar y cyd â’r person ifanc a’r person sy’n ei gynorthwyo yn y llety, fel bod y cynllun yn adlewyrchu trefniadau ar gyfer y lleoliad yn ddigonol.
Lleoliadau y tu allan i ardal yr awdurdod lleol
183. Mae’n bwysig bod plant sy’n derbyn gofal yn aros yn eu hardal eu hunain lle bynnag y bo hynny’n bosibl ac yn briodol. Mae lleoli plentyn yn ei ardal ei hun yn sicrhau cysondeb o ran gofal iechyd ac addysg, gan ei gwneud yn haws i’r plentyn gadw mewn cysylltiad â’i rieni biolegol a phobl arwyddocaol eraill yn ei fywyd. Mae cadw mewn cysylltiad â’r teulu yn cyfrannu at sefydlogrwydd lleoliad, ac mae’n ffactor arwyddocaol o safbwynt cynllunio i ailuno plentyn â’i deulu biolegol neu pan ei fod yn gadael gofal. Fodd bynnag, mewn rhai achosion bydd lleoliad y tu allan i ardal yr awdurdod er budd pennaf y plentyn.
184. Yn ôl y Rheoliadau CPPCR, dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y dylid ystyried lleoliad o’r fath:
· nid oes lleoliad ar gael yn ardal yr awdurdod lleol sy’n gallu diwallu
anghenion y plentyn, neu
· credir y byddai lleoliad y tu allan i’r ardal yn fwy cyson â llesiant y
plentyn nag unrhyw leoliad sydd ar gael yn yr ardal.
185. Dylai penderfyniad i leoli plentyn y tu allan i’r ardal fod yn seiliedig ar asesiad a dadansoddiad trylwyr o anghenion y plentyn. Bydd lleoliad mewn ardal awdurdod lleol cyfagos yn well na lleoliad mewn ardal ymhellach i ffwrdd yn aml, gan ei bod yn bosibl y bydd y plentyn yn gallu mynychu’r un ysgol, aros gyda’r un meddyg teulu a chadw mewn cysylltiad â’i ffrindiau a’i deulu yn haws. Fodd bynnag, mae’n dibynnu’n gyfan gwbl ar anghenion ac amgylchiadau’r plentyn, ac ar y rhesymau pam y credir mai lleoliad y tu allan i’r ardal yw’r opsiwn gorau ar gyfer y plentyn. Weithiau bydd rhesymau da dros gredu y bydd lleoli plentyn ymhellach i ffwrdd er budd pennaf y plentyn - er enghraifft:
· i ddiogelu’r plentyn neu i’w symud o ddylanwadau niweidiol
· i sicrhau bod grŵp o frodyr a chwiorydd yn aros gyda’i gilydd, neu
· i leoli’r plentyn gyda pherthnasau neu ffrindiau y mae gan y plentyn
berthynas â hwy.
186. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sy’n ystyried lleoli plentyn y tu allan i’r ardal geisio lleoli’r plentyn yn unol â’r drefn blaenoriaeth ganlynol (cyn belled â bod hyn yn cyd-fynd â budd pennaf y plentyn ac yn diwallu anghenion asesedig y plentyn):
· mewn awdurdod lleol yng Nghymru sydd â’i ardal yn ffinio ag ardal yr
awdurdod cyfrifol
· mewn unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru
· mewn awdurdod lleol yn Lloegr, neu
· yn ddarostyngedig i ofynion adran 124 o’r Ddeddf, y tu allan i Gymru a
Lloegr.
187. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn caniatáu hyblygrwydd ar gyfer awdurdodau lleol sy’n ffinio ag awdurdod(au) lleol yn Lloegr – lle, er enghraifft, byddai lleoliad mewn awdurdod cyfagos yn Lloegr yn golygu bod modd i’r plentyn aros yn yr un ysgol neu barhau i dderbyn gofal iechyd neu gymorth arbenigol. Gall awdurdodau sydd ar y ffin ystyried lleoli plentyn mewn awdurdod lleol cyfagos yn Lloegr ar ôl iddynt ystyried ei leoli mewn awdurdod lleol cyfagos yng Nghymru, ond cyn ei leoli mewn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru.
188. Wrth ystyried lleoli plentyn y tu allan i’r ardal, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ganfod dymuniadau a theimladau’r plentyn, a rhaid rhoi sylw dyladwy iddynt wrth wneud y penderfyniad lleoli. Hefyd, mae’n rhaid ymgynghori â rhieni’r plentyn lle bo hynny’n briodol (yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau mewn unrhyw orchymyn gofal, neu os nad yw er budd pennaf y plentyn i wneud hynny). Os yw’n ymarferol gwneud hynny, dylai’r awdurdod lleol drefnu i’r gweithiwr cymdeithasol a rhieni’r plentyn (lle bo hynny’n briodol) gadw cwmni i’r plentyn yn ystod ymweliad cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud. Bydd hyn yn sicrhau bod dymuniadau a theimladau’r plentyn yn seiliedig ar wybodaeth fanwl am y lleoliad arfaethedig, y lleoliad daearyddol a’r pellter o’i gartref.
189. Mae’n rhaid ymgynghori â swyddog adolygu annibynnol y plentyn cyn gwneud unrhyw benderfyniad, er mwyn i’r swyddog drafod y trefniant arfaethedig â’r plentyn. Fel arfer, dylid gwneud y penderfyniad hwn ar ôl i’r plentyn ymweld â’r lleoliad arfaethedig.
190. Wrth wneud lleoliad o’r fath, mae’n bwysig iawn bod mesurau priodol ar waith i sicrhau y bydd anghenion gofal, iechyd ac addysg y plentyn yn parhau i gael eu diwallu yn briodol, ac i leihau unrhyw amharu ar fywyd y plentyn. Mae’n hanfodol cydweithio o’r cychwyn â’r holl wasanaethau ac asiantaethau perthnasol. Bydd angen gwneud yr holl drefniadau, gan gynnwys ariannu, mewn da bryd er mwyn sicrhau nad yw plant yn cael eu symud cyn bod gwasanaethau gofal, iechyd ac addysg digonol yn cael eu trefnu. Os oes angen gwasanaethau iechyd arbenigol ar y plentyn, fel gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS), mae’n rhaid ymgynghori â bwrdd iechyd lleol yr ardal lle bydd y plentyn yn byw.
191. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod gwasanaethau priodol ar waith i ddiwallu anghenion y plentyn yn unol â’r cynllun gofal a chymorth (gan gynnwys yr adrannau ar y cynllun iechyd a’r cynllun addysg personol) cyn gwneud y lleoliad, lle bo hynny’n bosibl. Os nad oes modd rhoi’r trefniadau hyn ar waith cyn gwneud y lleoliad, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted ag y bo modd ar ôl hynny (gweler ‘Lleoliadau mewn argyfwng y tu allan i’r ardal’ isod).
Atgyfeirio i banel
192. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol atgyfeirio achos y plentyn i banel cyn lleoli plentyn y tu allan i’r ardal. Mae hyn yn berthnasol i leoliad pob plentyn sy’n derbyn gofal, gan gynnwys lleoliadau remánd. Mae lleoliadau mewn argyfwng yn cael eu hystyried ym mharagraffau 171.
193. Bydd aelodau’r panel yn dibynnu ar amgylchiadau penodol pob achos. Yn ôl y Rheoliadau CPPCR, dylai’r panel gynnwys cynrychiolwyr o asiantaethau a fydd yn cynorthwyo’r awdurdod lleol i gynllunio lleoliad y plentyn, diwallu anghenion y plentyn a sicrhau canlyniadau llesiant yn ystod y lleoliad. Mae’n rhaid i hyn gynnwys cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol lle bydd y plentyn yn cael ei leoli, gan gynnwys unrhyw gynrychiolwyr perthnasol o’r meysydd iechyd ac addysg. Dylai aelodau’r panel gynnwys uwch swyddogion adrannau gwasanaethau plant ac addysg yr awdurdod lleol, ac uwch swyddogion y bwrdd iechyd lleol sy’n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau ac yn ddeiliaid cyllidebau. Bydd yr aelodau eraill yn cynnwys gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau sy’n cyfrannu at gynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn. Mewn rhai achosion, bydd yn ddefnyddiol sicrhau bod paediatregydd cymunedol a/neu seicolegydd addysg yn aelod o’r panel er mwyn darparu cyngor proffesiynol. Mae’n rhaid i fyrddau iechyd lleol gydweithredu â threfniadau’r panel, sicrhau eu bod yn darparu cynrychiolwyr priodol a chyngor proffesiynol i’r panel, a dylanwadu a chytuno ar benderfyniadau ariannu a dyrannu adnoddau.
194. Os yw’n anodd dod â’r holl bartïon at ei gilydd mewn un lle wrth alw cyfarfodydd panel, gall yr awdurdod lleol ystyried defnyddio cyfleusterau fideo-gynadledda neu delegynadledda, neu hyd yn oed sefydlu paneli ‘rhithwir’ (mewn amgylchiadau eithriadol). Dylai pob dull gweithredu fod yn gymesur ag anghenion yr achos unigol, ac ym mhob achos mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y panel yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol a bod yr holl bartïon perthnasol yn gwneud cyfraniad effeithiol at ystyried addasrwydd y lleoliad arfaethedig ac at wneud y trefniadau gofynnol ar gyfer y lleoliad. Mae’r awdurdod sy’n gosod y plentyn yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl bartïon yn cyfrannu’n llawn at broses y panel, ac am hwyluso hyn.
195. Diben y panel yw:
· penderfynu nad oes unrhyw leoliad yn yr ardal sy’n gallu diwallu
anghenion y plentyn, neu fod lleoli’r plentyn y tu allan i’r ardal yn fwy cyson â
llesiant y plentyn
· ei fodloni ei hun y bydd y lleoliad arfaethedig yn diwallu anghenion
iechyd ac addysg y plentyn
· cytuno ar drefniadau i ddiwallu anghenion iechyd ac addysg y plentyn,
gan nodi cyfrifoldebau pawb
· cytuno ar ariannu ar gyfer y lleoliad.
196. Mae’n rhaid i waith y panel gael ei lywio gan farn y plentyn a rhieni’r plentyn, yr holl gynlluniau sydd ar gael (gan gynnwys rhannau’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 sy’n ymwneud ag iechyd ac addysg), a’r holl asesiadau perthnasol.
197. Os nad yw’r panel yn gallu cytuno ar drefniadau i leoli plentyn y tu allan i’r ardal, dylid atgyfeirio’r achos i Brif Weithredwr yr awdurdod lleol sy’n lleoli’r plentyn a Phrif Weithredwr y bwrdd iechyd lleol.
198. Yn ôl y Rheoliadau CPPCR, mae’n rhaid i unrhyw benderfyniad i leoli plentyn y tu allan i’r ardal lle mae’r plentyn yn preswylio fel arfer gael ei gofnodi ar ffurf ysgrifenedig, gan gynnwys y rhesymau, a’i gymeradwyo gan swyddog enwebedig yr awdurdod lleol. Fel arfer, yr unigolyn hwn yw’r Pennaeth Gwasanaeth neu ddirprwy sy’n gweithredu ar ei ran.
199. Ni ellir rhoi penderfyniad i leoli plentyn y tu allan i’r ardal ar waith nes bod y swyddog enwebedig wedi’i gymeradwyo. Dylai gweithiwr cymdeithasol y plentyn gasglu’r wybodaeth am anghenion, dymuniadau a theimladau’r plentyn, dymuniadau a theimladau’r rhiant (lle bo hynny’n briodol) a manylion y lleoliad arfaethedig er mwyn nodi pam mai’r lleoliad hwn yw’r lleoliad mwyaf priodol i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn.
200. Mae’n rhaid hysbysu arweinydd gwasanaethau plant yr awdurdod sy’n lleoli’r plentyn am benderfyniad y panel. Mae’n rhaid i adroddiad y penderfyniad nodi manylion ac amgylchiadau’r lleoliad, gan gynnwys y rheswm am wneud y lleoliad.
201. Hefyd, mae’n rhaid i awdurdod yr ardal lle mae’r lleoliad am gael ei wneud gael ei hysbysu’n ffurfiol am y lleoliad.
Lleoliadau mewn argyfwng y tu allan i’r ardal
202. Os oes angen lleoli plentyn y tu allan i’r ardal ar unwaith oherwydd rhesymau llesiant, dylai’r awdurdod lleol atgyfeirio achos y plentyn i banel cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a dim hwyrach na 25 diwrnod gwaith ar ôl i’r lleoliad gychwyn.
203. Cyn lleoli plentyn mewn argyfwng, mae’n rhaid i’r swyddog enwebedig fod yn fodlon â’r canlynol cyn cymeradwyo penderfyniad:
· mae dymuniadau a theimladau’r plentyn wedi’u canfod a chael sylw dyladwy
· y lleoliad yw’r lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael yn unol â’r cynllun gofal a chymorth.
204. Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n lleoli’r plentyn roi gwybod i’r awdurdod lleol ym mhle mae’r plentyn wedi’i leoli o fewn 24 awr i gychwyn y lleoliad. Rhaid i’r hysbysiad hwn gynnwys:
· enw a dyddiad geni’r plentyn
· a yw’r plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol o’i wirfodd neu dan orchymyn gofal neu orchymyn gofal interim
· unrhyw orchmynion gofal eraill a wnaed ac sy’n dal mewn grym mewn perthynas â’r plentyn; unrhyw orchymyn dan Ddeddf Plant 1989, gorchymyn adsefydlu ieuenctid, gofyniad preswyl awdurdod lleol neu orchymyn adsefydlu ieuenctid gyda gofal maeth, neu orchymyn goruchwylio gorfodol neu orchymyn goruchwylio interim)
· manylion unrhyw ffactorau risg neu amddiffyn plant sylweddol eraill sy’n ymwneud â’r plentyn, gan gynnwys enghraifft o unrhyw berygl o gamfanteisio’n rhywiol ar blant, problemau iechyd meddwl neu gorfforol, hanes o ddianc a/neu gysylltiad â’r asiantaethau cyfiawnder ieuenctid.
205. Hefyd, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu’r manylion canlynol i’r awdurdod ardal o fewn pum diwrnod gwaith i’r lleoliad:
· asesiad o anghenion y plentyn a’r rhesymau pam mai’r lleoliad a ddewiswyd yw’r ffordd fwyaf addas o ddiwallu ei anghenion
· copi o gynllun gofal a chymorth y plentyn os nad yw wedi’i ddarparu’n barod.
206. Hefyd, rhaid cysylltu â swyddog adolygu annibynnol a rhieni’r plentyn (lle bo’n briodol) o fewn pum diwrnod gwaith.
207. Mae’n rhaid i baneli sicrhau eu bod yn craffu i’r un graddau ar achosion ôl-weithredol. Mae’n rhaid i’r rhesymau am beidio ag atgyfeirio achos y plentyn i’r panel cyn ei leoli gael eu cofnodi ar ffurf ysgrifenedig a’u cymeradwyo gan uwch swyddog, a rhaid rhoi copi yn ffeil achos y plentyn. Dylai penderfyniad y panel i gadarnhau’r lleoliad neu leoli’r plentyn yn rhywle arall, a’r rhesymau am y penderfyniad, gael eu cofnodi a’u cymeradwyo gan uwch-swyddog yr awdurdod sy’n lleoli’r plentyn. Dylid anfon copi at swyddog arweiniol gwasanaethau plant yr awdurdod sy’n lleoli hefyd.
Lleoli trawsffiniol
Lleoli yn Lloegr
208. Os yw awdurdod lleol yn gwneud trefniadau i leoli plentyn sy’n derbyn gofal mewn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, mae’r Rheoliadau CPPCR yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r gofynion yn ymwneud â lleoliadau y tu allan i’r ardal, i’r graddau sy’n rhesymol ymarferol. Nid oes angen cymeradwyaeth benodol y llysoedd i leoli plant sy’n derbyn gofal yn Lloegr, ond mae angen cymeradwyaeth o’r fath i leoli plant y tu allan i Gymru a Lloegr.
Lleoli y tu allan i Gymru a Lloegr
209. Dan rai amgylchiadau, bydd lleoli plentyn y tu allan i Gymru a Lloegr er budd pennaf y plentyn. Er enghraifft, gall lleoli’r plentyn gyda pherthynas neu berson cysylltiedig arall sy’n byw y tu allan i Gymru a Lloegr fod er budd y plentyn, neu gall gofalwr maeth symud i gyfeiriad newydd neu gael ei symud i weithio yn rhywle arall am gyfnod ac mae rhesymau o blaid parhau â’r lleoliad (yn enwedig os yw’n lleoliad hirdymor). Mae adran 124 o’r Ddeddf yn cynnwys pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol i drefnu, neu helpu i drefnu, bod plant sydd mewn gofal a phlant sy’n cael eu lletya yn byw y tu allan i Gymru a Lloegr.
210. Ni all awdurdodau lleol drefnu (neu helpu i drefnu) bod plant o dan eu gofal yn byw y tu allan i Gymru a Lloegr heb gymeradwyaeth y llys. Nid oes angen cymeradwyaeth y llys arnynt i drefnu neu helpu i drefnu symudiad o’r fath ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal ond nad yw mewn gofal, ond mae’n rhaid iddynt gael cymeradwyaeth pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.
211. Rhaid i’r llys beidio â chymeradwyo lleoli plentyn mewn gofal y tu allan i Gymru a Lloegr oni bai ei bod yn fodlon:
· y byddai fyw y tu allan i Gymru a Lloegr er budd pennaf y plentyn
· bod trefniadau addas wedi’u gwneud, neu’n mynd i gael eu gwneud, ar
gyfer derbyn y plentyn a’i lesiant yn y wlad lle bydd y plentyn yn byw
· bod y plentyn wedi cydsynio i fyw yn y wlad honno
· bod pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn wedi cydsynioi’r
plentyn yn byw yn y wlad honno.
212. Gall y llys hepgor cydsyniad y plentyn os yw’r plentyn yn mynd i fyw gyda rhiant, gwarcheidwad, gwarcheidwad arbennig neu berson addas arall, a’i bod yn fodlon
nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i roi neu atal cydsyniad. Er mwyn hepgor cydsyniad person sydd â chyfrifoldeb rhiant, mae’n rhaid i’r llys fod yn fodlon:
· nad oes modd dod o hyd i’r person neu nad oes ganddo’r gallu i roi
cydsyniad, neu
· fod angen hepgor cydsyniad oherwydd llesiant y plentyn.
213. Os yw’r plentyn yn symud i awdurdodaeth arall oddi mewn i Ynysoedd Prydain (Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw), gall effaith y gorchymyn llys gael ei throsglwyddo i awdurdod cyhoeddus perthnasol yr awdurdodaeth sy’n derbyn y plentyn[11].
214. Os yw’n amlwg bod lleoli plentyn yn rhywle arall ar Ynysoedd Prydain er budd pennaf y plentyn ac yn gyson â chynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn, a bod y gofalwr maeth wedi’i gymeradwyo o dan y Rheoliadau CPPCR, dylid gwneud trefniadau goruchwylio priodol gyda’r awdurdodau perthnasol.
215. Os yw gofalwr maeth yn bwriadu symud yn barhaol neu dros dro i rywle arall ar Ynysoedd Prydain, bydd angen i’r awdurdod lleol bwyso a mesur manteision ac anfanteision parhau â’r lleoliad, gan ystyried barn y rhieni, y cynlluniau ar gyfer y plentyn, amcanion y lleoliad a’r goblygiadau o safbwynt cyswllt â’r plentyn. Mae’n rhaid ystyried dymuniadau a theimladau’r plentyn yn llawn. Mae’n rhaid cael cydsyniad y rhieni (neu’r sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant) os nad yw’r plentyn mewn gofal, a dylai’r rhieni gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau.
216. Dim ond mewn achosion prin y caiff plentyn ei leoli y tu allan i Ynysoedd Prydain. Ni ddylid gwneud penderfyniad i adael i ofalwr maeth fynd â phlentyn dramor (ac eithrio ar gyfer gwyliau) oni bai bod rhesymau eithriadol dros wneud hynny a bod modd gwneud trefniadau digonol ac ymarferol i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn. Bydd y rhain yn cynnwys trefniadau i oruchwylio ac adolygu’r lleoliad, a pharhau ag unrhyw drefniadau cyswllt.
Osgoi amharu ar addysg
217. Mae cyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal yn parhau i fod yn is na chyrhaeddiad addysgol y boblogaeth yn gyffredinol. O ganlyniad, mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw arbennig i anghenion addysg a hyfforddiant plant sy’n derbyn gofal wrth leoli plant. Yn ôl y Rheoliadau CPPCR, mae’n rhaid sicrhau bod trefniadau priodol yn cael eu gwneud ar gyfer addysg neu hyfforddiant plentyn cyn ei leoli. Mae’n rhaid i’r trefniadau hyn ddiwallu anghenion y plentyn a bod yn gyson â’i gynllun addysg personol.
218. Mae cysondeb ym maes addysg yn bwysig hefyd ar gyfer llwyddiant academaidd plentyn a’i lesiant emosiynol a chymdeithasol. Wrth leoli plentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau nad yw’r lleoliad yn amharu ar addysg neu hyfforddiant y plentyn. Dylai’r awdurdod lleol geisio sicrhau bod y plentyn yn gallu parhau i aros yn yr un ysgol hyd yn oed os nad yw’n byw yn y gymdogaeth leol bellach, ar yr
amod bod hyn yn rhesymol ymarferol ac yn gyson â llesiant y plentyn. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol drafod y materion hyn â’r plentyn a bod yn ymwybodol o hanes a
phrofiadau addysgol y plentyn fel y’u nodir yn y cynllun addysg personol. Os na ellir osgoi amharu ar addysg y plentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol weithredu’n ofalus iawn i sicrhau bod y trefniadau ar gyfer addysg a hyfforddiant y plentyn yn parhau i ddiwallu anghenion y plentyn a’u bod yn gyson â’i gynllun addysg personol.
219. Os yw plentyn sy’n derbyn gofal yn newid ysgol o ganlyniad i leoliad, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r person dynodedig yn yr ysgol bresennol a’r ysgol newydd, a rhaid diwygio cynllun addysg personol y plentyn. Mae’n rhaid i’r cynllun gynnwys y trefniadau i leihau amharu ar addysg, yn enwedig unrhyw drefniadau ar gyfer parhau â chyrsiau sy’n arwain at gymwysterau allanol.
Gofynion penodol yng Nghyfnod Allweddol 4
220. Ar adegau allweddol penodol yn nhaith addysgol plentyn, bydd angen ymdrin â newidiadau arfaethedig i leoliad yn ofalus iawn – er enghraifft, pan fydd plentyn yn pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, pan ei fod yn dewis ei bynciau TGAU, neu pan ei fod yng nghanol cwrs TGAU. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn cynnwys gofynion penodol ar gyfer awdurdodau lleol sy’n lleoli plant sy’n derbyn gofal yng Nghyfnod Allweddol 4 (blynyddoedd ysgol 10 ac 11), gan gydnabod y ffaith y gall symud plant yng nghanol cwrs TGAU niweidio eu cyfle i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch, neu gael swydd. Ni ddylid amharu ar addysg plentyn yn y cyfnod hwn ac eithrio o ganlyniad i leoliad mewn argyfwng.
221. Cyn gwneud lleoliad a fyddai’n amharu ar addysg plentyn sy’n derbyn gofal yng Nghyfnod Allweddol 4, mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi bod angen i awdurdod lleol wneud y canlynol[12]:
· canfod dymuniadau a theimladau’r plentyn a rhoi ystyriaeth briodol iddynt
wrth wneud y penderfyniad am y lleoliad
· canfod dymuniadau a theimladau rhieni’r plentyn (os yw’r person ifanc yn
cael ei letya) a (lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol) os yw’r person ifanc yn destun gorchymyn gofal)
· sicrhau bod y ddarpariaeth addysgol sy’n cael ei gwneud ar gyfer y
plentyn o dan y lleoliad newydd yn hyrwyddo cyflawniad addysgol y plentyn a’i bod yn gyson â’i gynllun addysg personol
· ymgynghori â’r arweinydd dynodedig yn yr ysgol lle mae’r person ifanc
yn ddisgybl cofrestredig
· ymgynghori â’r swyddog adolygu annibynnol, er mwyn trafod hyn â’r
plentyn
· hysbysu asiantaethau ac ymarferwyr perthnasol eraill.
222. Mae’n rhaid i’r penderfyniad i newid lleoliad y plentyn gael ei gymeradwyo gan un o uwch swyddogion yr awdurdod lleol, a rhaid iddo fod yn fodlon bod yr holl ofynion wedi’u bodloni.
Cynllunio ar gyfer lleoliad
223. Pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried ac yn gwneud trefniadau i leoli plentyn sy’n derbyn gofal yn unrhyw un o’r lleoliadau uchod, mae’r Rheoliadau CPPCR yn
datgan bod yn rhaid i’r awdurdod lleol nodi’n fanwl mewn ‘cynllun lleoli’ sut bydd y lleoliad arfaethedig yn helpu i ddiwallu anghenion y plentyn. Dylai’r cynllun lleoli
fod yn rhan annatod o gynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol y plentyn, a bydd yn adran ar wahân o’r cynllun mewn gwirionedd.
224. Yn benodol, bydd angen i’r cynllun lleoli:
· ddarparu eglurder ynglŷn â sut y bydd tasgau rhianta o ddydd i ddydd yn
· cael eu rhannu rhwng y gofalwr a’r awdurdod lleol (fel y rhiant corfforaethol)
· egluro swyddogaethau a chyfrifoldebau, yn enwedig mewn perthynas â
· phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar ran y plentyn, gan leihau unrhyw
anghytuno posibl
· nodi’r trefniadau ariannol ar gyfer magwraeth y plentyn
· darparu gwybodaeth hanfodol i’r gofalwr am y plentyn, gan gynnwys ei
· anghenion iechyd, addysg, emosiynol ac ymddygiad, a strategaethau
priodol i’w diwallu
· sicrhau bod y gofalwr yn deall yr hyn y mae’r plentyn yn ei hoffi, yr hyn
· nad yw’n ei hoffi, a’i arferion
· sicrhau bod unrhyw anawsterau neu fathau o ymddygiad sydd wedi peri
· pryder mewn lleoliadau blaenorol yn cael eu datrys, a bod y plentyn a’r
gofalwr yn derbyn y cymorth a’r gefnogaeth briodol, a bod y plentyn
derbyn triniaeth briodol os oes angen.
225. Wrth neud y trefniadau hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ganfod a rhoi ystyriaeth briodol i ddymuniadau a theimladau’r plentyn, a llywio a chanfod barn y swyddog adolygu annibynnol. Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol drafod y wybodaeth am y lleoliad sydd wedi’i hychwanegu at y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 â’r plentyn.
226. Os nad oes modd ychwanegu’r wybodaeth hon at y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyn gwneud y lleoliad, mae’n rhaid ei hychwanegu o fewn pum diwrnod gwaith i ddechrau’r lleoliad. Ym mhob achos, mae’n rhaid sicrhau bod gwybodaeth hanfodol am ddarparu gofal diogel ar gyfer y plentyn ar gael i’r gofalwr ar ddechrau’r lleoliad.
Gwybodaeth sydd ei hangen ar y gofalwr er mwyn gofalu am y plentyn
227. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn y cynllun lleoli cyn lleoli plentyn. Mae hyn yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen ar y gofalwr er mwyn gofalu am y plentyn, gan gynnwys[13]:
· teulu a chefndir teuluol y plentyn
· hil, crefydd a diwylliant y plentyn
· iaith yr aelwyd
· unrhyw anableddau neu anghenion arbennig eraill
· rhywioldeb y plentyn ac unrhyw faterion yn ymwneud â hunaniaeth o ran
rhywedd
· yr amgylchiadau a arweiniodd at y plentyn yn dechrau derbyn gofal
· profiadau blaenorol y plentyn cyn ac yn ystod y cyfnod mewn gofal
· y drefn y mae’r plentyn wedi arfer â hi (fel amser gwely ac amseroedd
bwyta), a gwybodaeth arall a all helpu’r plentyn i ymgartrefu.
228. Dylai’r gofalwr dderbyn copi o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ar ôl iddo gael ei gwblhau, a rhaid iddo ddeall ei rôl wrth ei weithredu. Yn benodol, bydd angen i’r gofalwr wybod:
· beth yw’r cynllun hirdymor ar gyfer y plentyn, a’i amserlen
· amcanion y lleoliad a sut maent yn cyd-fynd â chynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn
· ei rôl wrth weithredu’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6
· amcangyfrif realistig o’r amser y mae’r lleoliad yn debygol o bara.
229. Mae angen i ofalwyr wybod hefyd:
· sut i gael gafael ar ragor o wybodaeth, cyngor a chymorth
· enwau a manylion cyswllt gweithiwr cymdeithasol y plentyn, gweithiwr
lleoli’r teulu, y swyddog adolygu annibynnol, yr ymwelydd annibynnol ac, os yn berthnasol, cynghorydd personol y plentyn
· pwy i gysylltu ag ef/hi y tu allan i oriau swyddfa a sut i wneud hynny
· y cymorth arbenigol y mae’r plentyn yn ei dderbyn (er enghraifft, cymorth
ychwanegol gyda gwaith ysgol) a sut i barhau â’r cymorth
· enwau, cyfeiriadau a manylion cyswllt allweddol eraill, gan gynnwys yr
ysgol, yr arweinydd dynodedig ar gyfer disgyblion sy’n derbyn gofal, meddyg teulu a deintydd y plentyn, ac unrhyw weithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â gofal y plentyn.
230. Mae angen gwneud trefniadau clir ynglŷn â thâl hefyd. Mae’n rhaid i ofalwyr wybod o’r cychwyn faint o gymorth ariannol y byddant yn ei dderbyn, a’r trefniadau talu. Mae’n rhaid i hyn gynnwys gwybodaeth glir am bwy fydd yn talu am eitemau eithriadol fel teithiau ysgol. Yn ogystal â thaliadau cynnal, dylai’r awdurdod a’r gofalwr maeth ystyried a oes unrhyw anghenion penodol yn deillio o’r lleoliad, fel dillad gwely, dodrefn ystafell wely, cyfarpar, neu ddillad, yn enwedig os yw grŵp o frodyr a chwiorydd wedi’i leoli ar aelwyd nad yw wedi arfer â nifer fawr o bobl.
231. Yn aml, mae angen treuliau ychwanegol a chyfarpar arbennig ar gyfer plant ag anghenion arbennig, a rhaid rhoi gwybod i ofalwyr plant ag anghenion arbennig pwy fydd yn talu am hyn a phwy fydd yn darparu ac yn cynnal a chadw unrhyw gyfarpar.
232. Dylai awdurdodau lleol fod yn realistig ac yn sensitif wrth ymateb yn llawn ac yn gyflym i angen am wariant ychwanegol, gan gofio bob amser mai’r awdurdod a’r rhieni sy’n gyfrifol am ddarparu ar gyfer y plentyn, ac nid y gofalwr maeth. Dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod gofalwyr yn gwybod sut i godi unrhyw bryderon ynglŷn â gwariant gofynnol gyda’r awdurdod.
Trefniadau o ddydd i ddydd
233. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys amrywiaeth o wybodaeth benodol yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn. Mae’r wybodaeth hon yn ymwneud ag iechyd ac addysg y plentyn, trefniadau cyswllt, ymweliadau gan yr awdurdod lleol ac unrhyw drefniadau ar gyfer ymweliadau gan ymwelydd annibynnol.
234. Mae angen i ofalwr y plentyn wybod ei rôl o ran diogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn.
235. Yn benodol, bydd angen iddo wybod am iechyd y plentyn a’i rôl wrth weithredu cynllun iechyd y plentyn. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth bwysig am alergeddau, meddyginiaeth bresennol a thriniaeth ar gyfer unrhyw gyflyrau iechyd, a manylion ymarferol fel dyddiadau apwyntiadau gydag arbenigwyr.
236. Bydd angen i’r gofalwr wybod am anghenion addysgol y plentyn a deall ei rôl wrth weithredu cynllun addysg personol y plentyn. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gymorth addysgol ychwanegol sy’n cael ei ddarparu drwy ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig, unrhyw drefniadau sydd ar waith ar gyfer gwasanaethau arbenigol fel cymorth seicotherapiwtig, neu hyfforddiant ychwanegol. Bydd angen i’r gofalwr fod yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau i sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau a’i gyfrifoldeb i helpu’r plentyn i ddilyn unrhyw raglenni y cytunwyd arnynt.
237. Dylai gofalwyr y plentyn fod yn ymwybodol o grefydd a diwylliant y plentyn a sut maent yn cael eu hadlewyrchu yn ei fywyd bob dydd, gan gynnwys unrhyw gymorth y bydd y plentyn ei angen i gynnal y cysylltiadau hyn. Dylai’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 gynnwys y trefniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer cynnal a chryfhau cysylltiadau’r plentyn ag arferion crefyddol a diwylliannol ei deulu biolegol, yn enwedig os bwriedir i’r plentyn ddychwelyd at ei rieni pan ddaw’r lleoliad i ben.
238. Mae’n rhaid i’r trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng plant, rhieni biolegol, brodyr a chwiorydd sy’n derbyn gofal, a pherthnasau a ffrindiau eraill gael eu hegluro a’u trafod gyda gofalwyr. Mae angen i ofalwyr y plentyn wybod am ddarpariaethau gorchmynion cyswllt a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf Plant 1989 ac unrhyw Orchymyn Trefniadau Plentyn, a sut y dylid rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i’r trefniadau hyn. Mae angen i’r gofalwr wybod hefyd am unrhyw berson nad yw cyswllt ag ef yn cael ei gymeradwyo, ynghyd â’r rheswm am hynny. Os yw’r plentyn yn destun gorchymyn gofal, dylai’r gofalwr dderbyn copi o unrhyw orchmynion a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf Plant 1989. Os yw’r plentyn wedi’i awdurdodi i gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu, mae adran 26 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yn berthnasol.
239. Er y disgwylir i ofalwyr y plentyn hwyluso cyswllt rhesymol â rhieni a pherthnasau eraill, mae angen i weithwyr cymdeithasol fod yn ymwybodol o’r anawsterau sy’n gallu codi pan fydd gan rieni biolegol a pherthnasau eraill gyswllt helaeth â phlant yng nghartref y gofalwr. Dylai trefniadau cyswllt fod yn sensitif i anghenion gofalwyr a’u teuluoedd yn ogystal ag anghenion rhieni.
Lleoli plentyn nôl gyda’i rieni
240. Mae’n rhaid darparu gwybodaeth ychwanegol pan fydd trefniadau’n cael eu gwneud i leoli’r plentyn gyda’i rieini. Mewn achosion o’r fath, mae’n rhaid i leoliad y plentyn gynnwys:
· manylion y cymorth a’r gwasanaethau a fydd yn cael eu darparu i’r rhiant
yn ystod y lleoliad
· dyletswydd y rhiant i hysbysu’r awdurdod lleol am unrhyw newid
perthnasol i’r amgylchiadau
· dyletswydd y rhiant i gadw’r wybodaeth a ddarparwyd am y plentyn, y
teulu neu bersonau eraill yn gyfrinachol
· yr amgylchiadau ar gyfer ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y plentyn i fyw
ar aelwyd nad yw’n eiddo i’r rhiant
· y trefniadau ar gyfer gofyn am newid i’r cytundeb
· yr amgylchiadau lle caiff y lleoliad ei derfynu.
Rhannu cyfrifoldebau a chydsyniadau
241. Mewn achos lle mae plentyn sy’n cael ei letya yn cael ei leoli gyda gofalwr maeth neu mewn cartref plant cofrestredig, mae’n rhaid i’r cynllun lleoli nodi sut y caiff cyfrifoldebau eu rhannu rhwng y rhieni a’r awdurdod lleol.
242. Mae’n rhaid i’r cynllun lleoli nodi cyfrifoldebau’r awdurdod lleol a rhieni’r plentyn, ynghyd ag unrhyw drefniadau i ddirprwyo cyfrifoldebau o rieni’r plentyn i’r awdurdod lleol. Mae’n bwysig trafod â rhieni pa feysydd cyfrifoldeb maent yn fodlon dirprwyo i’r awdurdod a pha feysydd cyfrifoldeb maent yn dymuno eu cadw yng nghyd-destun anghenion y plentyn.
243. Hyd yn oed os yw plentyn yn destun gorchymyn gofal, mae rhieni yn parhau i fod â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, er yr awdurdod lleol sydd â’r gair olaf ynglŷn â sut mae hyn yn cael ei weithredu. Bydd yn bwysig cynnwys rhieni yn y trafodaethau hyn, i’r graddau y bo hynny’n bosibl ac yn briodol, er mwyn eu galluogi i barhau i fod yn rhan o fywyd eu plentyn. Os yw plentyn mewn lleoliad y bwriedir iddo fod yn lleoliad parhaol, mae’n debyg y bydd cynllun lleoli yn adlewyrchu lefelau uwch o gyfrifoldeb wedi’i ddirprwyo i’r gofalwyr.
244. Dylid egluro meysydd sy’n debygol o achosi dryswch ymlaen llaw a chofnodi penderfyniadau. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, pwy ddylai fynychu nosweithiau rhieni ysgolion, a’r amgylchiadau lle gall y gofalwr gydsynio bod y plentyn yn cymryd rhan mewn teithiau ysgol neu arosiadau dros nos heb orfod cysylltu â’r awdurdod lleol. Gall fod yn ddefnyddiol nodi ar ddechrau’r lleoliad unrhyw bobl y mae’r plentyn yn cael aros gyda nhw heb orfod gofyn am ragor o ganiatâd.
245. Mewn achos plentyn sy’n cael ei letya, dylai’r cynllun lleoli nodi hyd disgwyliedig y lleoliad, a’r camau a gaiff eu rhoi ar waith i derfynu’r lleoliad, gan gynnwys trefniadau i’r plentyn ddychwelyd i fyw at riant, aelod arall o’r teulu neu berson cysylltiedig.
246. Os yw person ifanc dros 16 oed yn cytuno i gael ei letya gan yr awdurdod lleol, mae’n rhaid cofnodi hyn yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 y person ifanc a / neu’r cynllun llwybr.
Awdurdod dirprwyedig gofalwyr maeth
247. Cyn i leoliad ddechrau, mae’n bwysig iawn cytuno pwy sy’n gallu gwneud penderfyniadau am blentyn sy’n derbyn gofal. Mae angen cyfleu hyn yn glir i bawb sy’n gysylltiedig â’r lleoliad, gan gynnwys y plentyn, rhieni a gofalwyr maeth y plentyn, a’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r plentyn. Mae angen adolygu awdurdod dirprwyedig yn rheolaidd hefyd.
248. Dylid rhoi’r hyblygrwydd priodol mwyaf i ofalwyr maeth wneud penderfyniadau ynglŷn â phlant y maent yn gofalu amdanynt, yn unol â fframwaith y cynllun lleoli a’r gyfraith yn ymwneud â chyfrifoldeb rhiant. Dylai gofalwyr maeth gael awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau bob dydd yn ymwneud â materion fel iechyd, addysg a hamdden, oni bai na ddylai hyn ddigwydd oherwydd ffactorau penodol a nodwyd.
249. Os yw plentyn yn dechrau derbyn gofal gyda chytundeb gwirfoddol y rhieni, nid oes gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb rhiant, a bydd rhaid dod i gytundeb ynglŷn â
pha benderfyniadau y bydd y rhieni yn eu dirprwyo i’r awdurdod lleol. Dylai’r awdurdod lleol weithio gyda’r rhiant/rhieni hyd ag y bo modd i’w helpu i ddeall sut y bydd eu plentyn yn manteisio yn sgil dirprwyo priodol i’r awdurdod lleol a’r gofalwyr maeth.
250. Os yw plentyn yn destun gorchymyn gofal, gorchymyn gofal interim neu orchymyn amddiffyn mewn argyfwng, mae’r rhiant neu’r rhieni yn rhannu cyfrifoldeb rhiant gyda’r awdurdod lleol, a gall yr awdurdod lleol gyfyngu ar y graddau y gall y rhieni arfer eu cyfrifoldeb rhiant os oes angen gwneud hynny i ddiogelu neu hyrwyddo llesiant y plentyn. Fodd bynnag, hyd y bo modd, dylid ymgynghori â rhieni plentyn sy’n destun gorchymyn gofal, gorchymyn interim neu orchymyn amddiffyn mewn argyfwng ynglŷn â gofal y plentyn, ac ystyried eu safbwyntiau. Beth bynnag yw statws cyfreithiol lleoliad plentyn, dylid helpu rhieni i ddeall rôl gofalwyr maeth a pherthnasedd awdurdod dirprwyedig priodol, fel y gallant gynorthwyo’r gofalwyr maeth.
251. Mae’n bwysig bod gofalwyr maeth yn gwybod pa awdurdod sydd ganddynt i wneud penderfyniadau ynglŷn â materion bob dydd yn ymwneud â’r plentyn. Mae’n rhaid i drefniadau ar gyfer dirprwyo awdurdod o’r rhieni i’r awdurdod lleol, a/neu o’r awdurdod lleol i’r gofalwyr maeth, gael eu trafod a’u cytuno fel rhan o’r broses gynllunio gofal (mewn cyfarfodydd cynllunio lleoliadau yn benodol), a dylid cofnodi cytundebau yn y cynllun lleoli.
252. Yn ôl y Rheoliadau CPPCR, mae angen i’r cynllun lleoli nodi unrhyw amgylchiadau lle mae’n rhaid i’r gofalwr maeth sicrhau cymeradwyaeth yr awdurdod lleol neu riant cyn gwneud penderfyniadau yn ymwneud â’r plentyn neu ofal a chymorth y plentyn. Yn fwy cyffredinol, dylai’r cynllun lleoli egluro pa awdurdod y mae’r rhieni wedi’i ddirprwyo i’r awdurdod lleol, a sut caiff y tasgau rhianta bob dydd eu rhannu rhwng y gofalwr maeth a’r awdurdod lleol. Mae’n rhaid i’r rhai sydd â’r awdurdod i wneud penderfyniad penodol neu i roi cydsyniad penodol gael eu henwi’n glir yn y cynllun lleoli, a dylai unrhyw gamau cysylltiedig gael eu nodi’n glir (er enghraifft, gofyniad i’r gofalwr maeth hysbysu’r awdurdod lleol bod penderfyniad penodol wedi’i wneud).
253. Dylid craffu’n benodol ar drefniadau ar gyfer awdurdod dirprwyedig os yw plant mewn lleoliadau hirdymor neu barhaol, gan roi sylw i sut y caiff cyfrifoldebau eu rhannu er mwyn atgyfnerthu a chefnogi’r cysylltiadau a’r ymlyniadau hirdymor y disgwylir i ofalwyr maeth eu datblygu gyda’r plentyn. Ym mhob lleoliad, yn enwedig lleoliadau hirdymor neu barhaol, gall yr hyn sy’n briodol i’w ddirprwyo i’r gofalwr maeth, a’r hyn y mae’r rhieni yn barod i’w ddirprwyo i’r awdurdod lleol, newid. O ganlyniad, dylai cytundebau ynglŷn â dirprwyo awdurdod gael eu hadolygu’n rheolaidd drwy gyfarfodydd cynllunio ac adolygu gofal a chymorth, gan ystyried barn y rhieni biolegol, y plentyn, a’r gofalwr maeth, a statws cyfreithiol y lleoliad. Dylai unrhyw newidiadau gael eu cofnodi yn y cynllun lleoli.
254. Os yw plentyn yn cael ei leoli gyda gofalwyr maeth sydd wedi’u cymeradwyo gan asiantaeth faethu annibynnol neu awdurdod lleol arall, dylai’r awdurdod lleol sy’n lleoli’r plentyn ymgynghori â’r gwasanaeth maethu ynglŷn â pha awdurdod y dylid ei ddirprwyo i’r gofalwr maeth. Os yw’r awdurdod lleol yn gyfrifol am benderfyniad neu gydsyniad penodol, dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn amserol bob tro, p’un ai a yw wedi cymeradwyo’r gofalwr maeth ai peidio. Dylai’r awdurdod lleol hefyd ddarparu yn ddi-oed unrhyw wybodaeth sydd ei hangen o bosibl i alluogi gofalwr maeth i wneud penderfyniad ynglŷn â phlentyn.
255. Hyd ag y bo modd, dylai plant sy’n derbyn gofal gael yr un caniatâd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoedion arferol sy’n addas i’w hoedran (fel cysgu dros nos) ag a fyddai’n cael ei roi yn rhesymol gan rieni eu cyfoedion. Fel mater o arfer cyffredin, dylai’r awdurdod lleol gytuno â’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant i ddirprwyo i ofalwr maeth y plentyn y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â gadael i blentyn sy’n derbyn gofal aros dros nos gyda ffrindiau, gan nodi hyn yn y cynllun lleoli. Dylid disgwyl i ofalwyr maeth fynd ati i bwyso a mesur yn yr un ffordd â rhieni wrth benderfynu a oes peryglon yn deillio o aros ar aelwyd benodol neu ymweld â pherthnasau. Dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar asesiad rhesymol o beryglon. Ym mhob achos, dylid sicrhau ar frys bod gofalwyr maeth yn ymwybodol o unrhyw unigolion, cyfeiriadau neu ardaloedd a all roi plentyn mewn perygl, a dylid cynnwys hyn yn y cynllun lleoli hefyd.
256. Weithiau bydd rhesymau eithriadol am ei gwneud yn ofynnol i ofalwyr maeth ofyn am ganiatâd yr awdurdod lleol neu’r person sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu i roi cyfyngiadau penodol ar ganiatáu i blentyn aros dros nos gyda ffrindiau. Dylai’r cyfyngiad a’r rhesymau amdano gael eu nodi’n glir yn y cynllun lleoli. Lle bynnag y bo’n ymarferol, dylid trafod y mater â’r plentyn ac ystyried ei farn a’i deimladau cyn gwneud penderfyniad. Dylai’r cyfyngiad a’r rhesymau amdano gael eu hegluro’n llawn i’r plentyn dan sylw, oni bai na fyddai hyn yn gyson â llesiant y plentyn. Dylai unrhyw gyfyngiadau gael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn berthnasol o hyd.
257. Wrth wneud penderfyniad ynglŷn â chaniatáu neu beidio â chaniatáu i blentyn sy’n derbyn gofal aros dros nos gyda ffrind, mynd ar wyliau gyda ffrindiau neu berthnasau ei ofalwyr maeth, neu fynd ar daith ysgol, dylai gofalwyr maeth a’r awdurdod lleol ystyried y ffactorau canlynol:
· a yw cynllun lleoli’r plentyn yn cynnwys unrhyw gyfyngiadau perthnasol
· a oes unrhyw orchmynion llys sy’n rhwystro’r plentyn rhag aros dros nos
yn rhywle penodol, rhag ymweld â rhywun penodol neu rhag cael gwyliau penodol
· a oes unrhyw ffactorau o ran profiadau neu ymddygiad blaenorol y
plentyn a fyddai’n ei rwystro rhag aros dros nos, ymweld â rhywun neu fynd ar wyliau
· a oes unrhyw le i gredu y gallai’r plentyn fod mewn perygl sylweddol ar yr
aelwyd dan sylw neu oherwydd y gweithgareddau arfaethedig
· oedran a lefel dealltwriaeth y plentyn
· yr hyn sy’n hysbys am y rhesymau am aros dros nos, yr ymweliad neu’r
gwyliau
· hyd yr arhosiad.
258. Os yw’r gofalwyr maeth yn ansicr ynglŷn â phenderfyniad priodol, neu os oes lle i gredu y gall plentyn fod mewn perygl penodol os yw’n aros ar aelwyd benodol, dylai’r gofalwyr maeth ofyn i’r awdurdod lleol am gyngor. Dylai’r plentyn a’i ofalwyr fod yn ymwybodol o’r meini prawf a fydd yn cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau ynglŷn ag aros dros nos, ymweliadau a gwyliau.
259. Dylai gofalwyr maeth sicrhau bod ganddynt fanylion cyswllt yr aelwyd lle bydd y plentyn yn aros. Dylent gysylltu â’r aelwyd ymlaen llaw hefyd, fel y byddai unrhyw riant da yn ei wneud, i helpu i asesu’r cais, cadarnhau’r trefniadau a sicrhau bod gan berchennog y tŷ fanylion cyswllt y gofalwr maeth.
260. Nid oes unrhyw ddyletswydd statudol i gynnal gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) mewn perthynas ag oedolion ar aelwyd breifat lle y gall plentyn aros dros nos, ymweld â hi, neu fynd ar wyliau neu daith ysgol gyda thrigolion yr aelwyd. Ni ddylid gofyn am wiriadau DBS fel arfer fel rhagamod.
261. Os yw plentyn sy’n derbyn gofal yn ymweld â ffrindiau neu berthnasau’r gofalwr maeth, neu os yw’n mynd ar wyliau gyda nhw, nid oes rhaid i’r unigolyn gael ei gymeradwyo fel gofalwr maeth awdurdod lleol, gan y bydd y plentyn yn parhau i gael ei leoli’n ffurfiol gyda’i ofalwyr maeth arferol.
Hysbysu ynghylch lleoliadau
262. Ar ôl i benderfyniad gael ei wneud ynglŷn â’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer plentyn, mae’n rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig ynglŷn â’r penderfyniad i amrywiaeth o bobl ac asiantaethau penodedig. Mae hyn yn galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau i wneud unrhyw drefniadau gofynnol, ac i leisio eu barn, fel bod modd ystyried a datrys unrhyw bryderon neu anawsterau mor fuan â phosibl
263. Dylai’r cyrff penodedig dderbyn hysbysiad ysgrifenedig cyn i’r lleoliad ddechrau, neu os nad yw hyn yn bosibl, mor fuan ag sy’n rhesymol ymarferol wedi hynny. Ym mhob achos, mae’n rhaid cyflwyno’r hysbysiad o fewn 5 diwrnod gwaith i ddyddiad y lleoliad.
Pwy sy’n cael ei hysbysu?
264. Mae’n rhaid i’r bobl ganlynol gael hysbysiad ysgrifenedig o leoliad:
· y plentyn, gan ystyried oedran a dealltwriaeth y plentyn
· y swyddog adolygu annibynnol
ac, oni bai y byddai gwneud hynny’n achosi perygl o niwed i’r plentyn
· rhieni’r plentyn
· unrhyw berson sydd â chyswllt â’r plentyn o dan orchymyn gofal neu
orchymyn trefniadau plentyn
· unrhyw berson a oedd yn gofalu am y plentyn yn union cyn i’r trefniadau
gael eu gwneud.
265. Mae’n rhaid i’r asiantaethau canlynol dderbyn hysbysiad ysgrifenedig[14]:
· bwrdd iechyd lleol yr ardal lle mae’r plentyn yn byw, ac (os yn wahanol) yr ardal lle bydd y plentyn yn cael ei leoli (neu, os yw’r plentyn yn cael ei leoli yn Lloegr, Bwrdd Comisiynu’r GIG ac unrhyw grŵp comisiynu clinigol perthnasol)
· meddyg teulu cofrestredig y plentyn, a (lle bo hynny’n briodol) y meddyg teulu y bydd y plentyn yn cofrestru gydag ef yn ystod y lleoliad
· unrhyw sefydliad addysgol y mae’r plentyn yn ei fynychu (gan gynnwys darpariaeth y blynyddoedd cynnar, ysgol, coleg neu uned cyfeirio disgyblion) neu unrhyw berson sy’n darparu addysg ar gyfer y plentyn.
266. Yn ogystal, dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod y plentyn, rhieni’r plentyn a gofalwyr y plentyn yn cael eglurhad personol gan y gweithiwr cymdeithasol o’r penderfyniadau sydd wedi’u gwneud yn ymwneud â’r lleoliad a’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y cynllun lleoli. Dylai hyn ategu unrhyw esboniadau a roddwyd yn ystod y broses asesu a chynllunio. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu cyfleu i’r plentyn a’r rhieni neu’r gofalwyr mewn ffordd briodol, gan ystyried ffactorau fel oedran, dealltwriaeth, unrhyw anabledd neu ddewis iaith.
267. Dylai’r awdurdod lleol hefyd ystyried hysbysu unrhyw berson arall sydd â diddordeb digonol yn y plentyn – er enghraifft, person sy’n rhan o fywyd y plentyn ond nad yw wedi’i nodi yn y Rheoliadau CPPCR. Mewn rhai achosion, gall yr awdurdod benderfynu peidio â darparu gwybodaeth i bob person neu unrhyw un o’r personau a nodir yn y Rheoliadau CPPCR, pe bai hynny’n golygu bod y plentyn yn dioddef niwed neu’n debygol o ddioddef niwed.
268. Mae’n rhaid hysbysu unrhyw berson sydd â gorchymyn cyswllt â’r plentyn.
269. Wrth hysbysu’r awdurdod addysg lleol a meddyg teulu’r plentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno copi o unrhyw adroddiad neu asesiad perthnasol sydd ar gael adeg y lleoliad.
270. Wrth rannu gwybodaeth â thrydydd partïon, mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried yr egwyddorion a nodir yng Nghytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI), a sicrhau bod pob hysbysiad ond yn cynnwys y wybodaeth sydd angen ei datgelu.
271. Dylid cadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud i’r cynllun lleoli yn yr adolygiad cyntaf neu adolygiad dilynol, gan hysbysu’r rhai yr ymgynghorwyd â nhw neu a gyfrannodd at yr adolygiadau yn unol â gofynion y Rheoliadau CPPCR.
Cynnwys yr hysbysiad
272. Dylai’r hysbysiad ysgrifenedig gynnwys crynodeb o’r trefniadau arfaethedig a’r amcanion, gan gynnwys gwybodaeth berthnasol fel:
· manylion y lleoliad a’i hyd tebygol
· trefniadau cyswllt
· pwy sy’n gyfrifol am weithredu’r cynllun lleoli
· rôl rhiant y plentyn o ddydd i ddydd
· trefniadau ar gyfer galluogi’r plentyn i ddychwelyd i fyw gyda’i riant
· y trefniadau y cytunir arnynt ar gyfer terfynu’r lleoliad
· trefniadau wrth gefn os yw’r lleoliad yn aflwyddiannus.
273. Mewn amgylchiadau eithriadol, os yw plentyn mewn gofal neu’n destun gorchymyn amddiffyn mewn argyfwng, a bod gan yr awdurdod lleol achos rhesymol i gredu y byddai hysbysu person yn golygu bod y plentyn mewn perygl o gael niwed, gall enw a chyfeiriad y gofalwr gael eu hepgor o’r hysbysiad. Os oes angen gwneud hyn, dylid cofnodi’r amgylchiadau a’r rhesymau yng nghofnod yr achos a hysbysu’r rhiant ar ffurf ysgrifenedig.
274. Dylai’r llythyr hysbysu gynnwys gwybodaeth, mewn fformatau priodol, am weithdrefnau cwyno’r awdurdod lleol, fel bod y plentyn, y rhiant neu berson arall a hysbyswyd yn gwybod sut i wneud sylwadau am y lleoliad neu’r penderfyniadau sydd wedi’u gwneud.
275. Dylai awdurdodau lleol gadw rhestr o’r holl hysbysiadau o blant sy’n derbyn gofal sydd wedi’u lleoli yn yr ardal naill ai ganddyn nhw neu gan awdurdod lleol arall.
Terfynu lleoliadau
276. Cyn terfynu lleoliad ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol adolygu achos y plentyn a sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig â’r achos wedi mynegi barn, gan gynnwys y plentyn (yn amodol ar oedran a dealltwriaeth y plentyn), rhieni’r plentyn (lle bo hynny’n briodol) a’i ofalwyr, a phobl eraill a hysbyswyd adeg gwneud y lleoliad.
277. Bydd yr adolygiad yn gyfle i ystyried pa gymorth a gwasanaethau, os o gwbl, y gellid eu darparu i osgoi’r angen i derfynu’r lleoliad. Os nad oes modd gwneud hynny, bydd yr adolygiad yn darparu fforwm ar gyfer ystyried pa leoliad newydd fyddai’r mwyaf priodol i’r plentyn, gan ystyried unrhyw bryderon sydd wedi arwain at y penderfyniad i derfynu’r lleoliad presennol.
278. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol wneud trefniadau eraill ar gyfer llety’r plentyn cyn terfynu’r lleoliad presennol.
279. Os yw’r awdurdod lleol yn credu bod perygl y gallai niwed ddigwydd ar unwaith i’r plentyn, neu os oes angen diogelu eraill rhag niwed difrifol, mae’n rhaid symud y plentyn o’r lleoliad, ac nid yw’r gofyniad i gynnal adolygiad cyn symud y plentyn yn berthnasol. Mae’n rhaid dod o hyd i lety amgen cyn gynted ag y bo modd a hysbysu swyddog adolygu annibynnol y plentyn cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
280. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, o’r bwriad i derfynu lleoliad i’r holl bobl a hysbyswyd am y lleoliad yn wreiddiol, y person y mae’r plentyn wedi’i leoli gydag e, ac awdurdod lleol yr ardal lle mae’r plentyn wedi’i leoli (os yw wedi’i leoli y tu allan i’r ardal). Os nad yw’n rhesymol ymarferol hysbysu’r unigolion hyn cyn terfynu’r lleoliad, mae’n rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod i derfynu’r lleoliad.
Plant ar remánd neu blant sy’n cael eu cadw
281. Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau CPPCR yn addasu’r darpariaethau cynllunio lleoliad mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal sy’n cael eu remandio i lety awdurdod lleol neu lety cadw ieuenctid, neu sy’n cael eu cadw ar ôl eu collfarnu o drosedd.
282. Yr addasiadau yw:
(a) lle mae’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal dim ond oherwydd ei fod wedi’i remandio i lety cadw ieuenctid
283. Dan yr amgylchiadau hyn, nid yw’r rheoliadau canlynol yn berthnasol: rheoliadau 10 (cynlluniau lleoli), 11 (osgoi amharu ar addysg), 12 (lleoliadau y tu allan i’r ardal) a 15 (terfynu lleoliad).
284. Yn hytrach, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol baratoi cynllun lleoli o dan gadwad ar gyfer y cyfnod pan fydd y plentyn ar remánd o fewn 10 diwrnod gwaith i remandio’r plentyn i lety cadw ieuenctid. Mae’n rhaid i’r cynllun lleoli dan gadwad:
· nodi sut bydd y carchar, y llety cadw ieuenctid neu’r fangre y mae’n
ofynnol i’r plentyn breswylio ynddi yn diwallu anghenion y plentyn
· cynnwys enw a chyfeiriad y llety cadw ieuenctid
· cynnwys y materion a nodir yn Atodlen 10 i’r Rheoliadau CPPCR (gweler
pennod 1 o’r cod hwn).
(b) lle mae’r plentyn wedi’i remandio i lety cadw ieuenctid a’i fod yn blentyn sy’n derbyn gofal yn union cyn cael ei remandio neu le mae’r plentyn yn cael ei gadw
285. Dan yr amgylchiadau hyn, nid yw’r rheoliadau canlynol yn berthnasol: rheoliadau 10 (cynlluniau lleoli), 11 (osgoi amharu ar addysg), 12 (lleoliadau y tu allan i’r ardal) a 15 (terfynu lleoliad).
286. Yn hytrach, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol baratoi cynllun lleoli dan gadwad ar gyfer y cyfnod pan fydd y plentyn ar remánd neu o dan gadwad, a fydd yn cael ei gynnwys yng nghynllun gofal y plentyn. Mae’n rhaid i’r cynllun lleoli o dan gadwad gael ei baratoi o fewn 10 diwrnod gwaith i remandio’r plentyn i lety cadw ieuenctid neu ei roi o dan gadwad, ac mae’n rhaid i’r cynllun:
· nodi sut bydd y carchar, y llety cadw ieuenctid neu’r fangre y mae’n ofynnol
i’r plentyn breswylio ynddi yn diwallu anghenion y plentyn
· cynnwys, fel sy’n briodol, enw a chyfeiriad y carchar, y llety cadw ieuenctid
neu’r fangre y mae’n ofynnol i’r plentyn breswylio ynddi
· cynnwys y materion a nodir yn Atodlen 10 i’r Rheoliadau CPPCR (gweler
pennod 1 o’r cod hwn).
287. Mae’n rhaid hysbysu Swyddog Adolygu Annibynnol (SAA) y plentyn am
y penderfyniad i remandio’r plentyn neu ei roi o dan gadwad
288. Wrth baratoi’r cynllun lleoli dan gadwad ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn wedi’u canfod a’u hystyried yn briodol. Yn ogystal, mae’n rhaid i gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig y carchar, y llety cadw ieuenctid neu’r fangre y mae’n ofynnol i’r plentyn breswylio ynddi gytuno i’r cynllun a’i lofnodi.
(c) Lle mae’r plentyn yn cael ei remandio i lety awdurdod lleol
289. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n rhaid dilyn y trefniadau arferol ar gyfer cynllunio lleoliadau – h.y. mae’n rhaid paratoi cynllun lleoli a’i gynnwys yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol y plentyn. Mae’n rhaid paratoi’r cynllun lleoli o fewn pum diwrnod gwaith i remandio’r plentyn.
Seibiant byr
290. Weithiau bydd yn briodol gosod plentyn gyda gofalwr maeth neu mewn lleoliad preswyl ar gyfer cyfnod byr yn unig – er enghraifft, os yw’r plentyn yn anabl a bod angen lleoli’r plentyn oddi cartref dros dro tra bod y rhieni yn cael seibiant o ofalu amdano.
291. Ni fydd pob seibiant byr yn lleoliad o dan Ran 6 o’r Ddeddf. Bydd seibiannau byr yn cael eu darparu yn aml fel rhan o gynllun gofal a chymorth plentyn anabl o dan Ran 3 a 4 o’r Ddeddf (asesu a diwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn). Bydd hyn yn arbennig o berthnasol os mai diben y seibiant yw galluogi’r plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau diogel a diddorol y tu allan i gartref y teulu. Fodd bynnag, bydd pecynnau seibiannau byr rhai plant yn golygu mai’r ffordd orau o ddiogelu eu llesiant yw eu dynodi’n blant sy’n derbyn gofal ar gyfer y cyfnodau pan fyddant oddi cartref. Er enghraifft, gallant gael becynnau sylweddol o seibiannau byr, mewn mwy nag un lleoliad yn aml; neu fe allant berthyn i
deuluoedd sydd â phrinder adnoddau ac sy’n ei chael yn anodd darparu cymorth i’r plentyn pan ei fod oddi cartref, ac wrth fonitro ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir.
292. Mewn achosion o’r fath, ar ôl ymgynghori â’r rhieni, gall yr awdurdod lleol benderfynu darparu llety seibiant byr ar gyfer y plentyn o dan Ran 6 o’r Ddeddf. Bydd llety o’r fath yn cael ei ddarparu o dan adran 76(1)(c) o’r Ddeddf wedyn, lle gall awdurdod lleol ddarparu llety ar gyfer plentyn y mae ei riant ‘yn cael ei atal (p’un ai yn barhaol ai peidio, ac am ba reswm bynnag) rhag darparu llety neu ofal addas i’r plentyn’.
293. Os yw’r seibiant byr yn cael ei ddarparu o dan y pŵer hwn, mae’n rhaid gosod y plentyn gyda gofalwr maeth priodol, mewn cartref plant cofrestredig, neu mewn trefniadau priodol eraill. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n rhaid i’r lleoliad gydymffurfio â’r Rheoliadau CPPCR. Mae lleoliadau o dan adran 76 yn lleoliadau gwirfoddol – h.y. maent yn cael eu gwneud gyda chydsyniad rhieni’r plentyn ac mae’r rhieni yn parhau i fod â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn, gan gynnwys cyfrifoldeb cyffredinol ar gyfer iechyd ac addysg y plentyn (gyda chymorth, os oes angen).
294. Dylai’r penderfyniad ynglŷn ag a ddylid darparu seibiant byr o dan Ran 3 a 4 o’r Ddeddf, neu a ddylai’r seibiant fod yn lleoliad o dan Ran 6, gael ei lywio gan yr asesiad o anghenion y plentyn. Dylai’r penderfyniad hwn ystyried gallu’r rhieni i ofalu am y plentyn, cyd-destun y teulu ehangach, dymuniadau a theimladau’r plentyn a’i rieni, a natur y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu. Y cwestiwn allweddol yw sut i hyrwyddo a diogelu llesiant y plentyn yn fwyaf effeithiol. Mae’r ffactorau sydd angen eu hystyried yn cynnwys:
· pa mor agored i niwed yw’r plentyn
· gallu rhianta’r rhieni a chyd-destun y teulu ehangach
· am faint o amser y mae’r plentyn oddi cartref a pha mor aml y mae oddi
cartref – po leiaf o amser y mae’r plentyn oddi cartref, y mwyaf priodol
ydyw i ddarparu’r seibiant byr fel rhan o’r cynllun gofal a chymorth o dan
Ran 3 a 4
· os yw’r seibiannau byr yn cael eu darparu mewn mwy nag un lle – lle
mae’r plentyn yn cael seibiannau byr mewn lleoliadau gwahanol, mae’n
fwy tebygol o fod yn briodol i ddarparu’r llety o dan adran 76(1)(c)
· safbwyntiau’r plentyn a’r rhieni – er enghraifft, eu teimladau ynglŷn â
statws y plentyn fel plentyn sy’n derbyn gofal
· graddau’r cyswllt rhwng gofalwyr seibiant byr a’r teulu, a rhwng y plentyn
a’i deulu yn ystod y lleoliad
· y pellter o gartref y plentyn
· yr angen i Swyddog Adolygu Annibynnol fonitro achos y plentyn a
chadeirio adolygiadau.
Cynllunio, lleoli ac adolygu gofal mewn perthynas â chyfres o seibiannau byr sydd wedi’u cynllunio
295. Mae’n rhaid i leoliadau sy’n cael eu gwneud o dan adran 76(1)(c) o’r Ddeddf gydymffurfio â’r Rheoliadau CPPCR. Fodd bynnag, mae’r Rheoliadau yn cynnwys addasiadau i’r broses gynllunio, lleoli ac adolygu gofal, lle mae’r plentyn yn cael cyfres o seibiannau byr sy’n cael eu cynllunio ymlaen llaw yn yr un lleoliad. Mae’r addasiadau, a nodir yn rheoliad 62(3) o’r Rheoliadau CPPCR, yn berthnasol yn yr amgylchiadau canlynol:
· nid yw’r plentyn yn destun gorchymyn gofal o dan adran 31 o Ddeddf
Plant 1989
· mae’r awdurdod lleol wedi trefnu i osod y plentyn mewn cyfres o
leoliadau tymor byr gyda’r un person neu yn yr un llety
· mae’r trefniant yn pennu nad oes bwriad i unrhyw leoliad bara mwy na
phedair wythnos
· ar ddiwedd y lleoliad bydd y plentyn yn dychwelyd adref at ofal ei rieni
· nid yw’r seibiannau byr yn para mwy na 120 o ddiwrnodau mewn unrhyw
gyfnod 12 mis.
296. Nod yr addasiadau yw adlewyrchu cyfraniad parhaus hollbwysig rhieni’r plentyn at leoliadau fel hyn. Byddant yn helpu i leihau’r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol, a sicrhau bod y gofynion yn fwy cymesur ag anghenion plant sy’n cael eu lleoli gan awdurdodau lleol mewn amgylchiadau o’r fath. Nid yw’r addasiadau yn berthnasol os yw’r plentyn yn destun gorchymyn gofal, os yw’r plentyn yn cael seibiannau byr mewn mwy nag un lleoliad, neu os yw hyd y seibiannau (neu unrhyw un ohonynt) yn fwy nag unrhyw un o’r amserlenni a nodir yn rheoliad 62(2)(c) o’r Rheoliadau CPPCR.
Addasiadau i gynllunio gofal a lleoliadau
297. Os yw plentyn yn cael cyfres o seibiannau byr sy’n cael eu cynllunio ymlaen llaw yn yr un lleoliad, nid yw’r gofynion arferol mewn perthynas â chynllunio gofal a chymorth (gan gynnwys cynlluniau lleoli) yn berthnasol. Yn hytrach, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol baratoi cynllun wedi’i addasu sy’n canolbwyntio ar nodi’r materion a fydd yn sicrhau bod modd diwallu anghenion y plentyn yn llawn tra bod y plentyn oddi cartref. Mae’r addasiadau wedi’u nodi yn rheoliad 62(3) o’r Rheoliadau CPPCR. Yn yr achosion hyn, mae’n rhaid i’r cynllun gofal nodi’r trefniadau sydd wedi’u gwneud i ddiwallu anghenion y plentyn, gan ganolbwyntio’n benodol ar:
· iechyd y plentyn a’i ymddygiad a’i ddatblygiad emosiynol, yn enwedig
mewn perthynas ag unrhyw anabledd posibl
· hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a rhieni’r plentyn yn ystod unrhyw
gyfnod pan fydd y plentyn yn cael ei leoli
· diddordebau hamdden y plentyn
· hyrwyddo datblygiad addysgol y plentyn.
298. Hefyd, mae’n rhaid i’r cynllun gynnwys enw a chyfeiriad meddyg teulu cofrestredig y plentyn, a’r wybodaeth ganlynol i gefnogi’r lleoliad lle bo hynny’n briodol:
· y math o lety a fydd yn cael ei ddarparu, y cyfeiriad, ac enw’r person a fydd
yn gyfrifol am y plentyn yn y llety
· y trefniant o ddydd i ddydd i gadw’r plentyn yn ddiogel (os oes pryderon
amddiffyn plant neu os yw’r plentyn wedi mynd ar goll o leoliad yn y gorffennol)
· hanes personol y plentyn, ei argyhoeddiad crefyddol, ei gefndir diwylliannol
ac ieithyddol, ei rywioldeb a’i darddiad hiliol
· hyd disgwyliedig y trefniadau, a chamau i derfynu neu newid y trefniadau
· cyfrifoldebau’r awdurdod lleol a rhieni’r plentyn
· dirprwyo awdurdod i wneud penderfyniadau am ofal a magwraeth y plentyn i’r awdurdod lleol, gofalwr maeth neu berson priodol yn y cartref plant, mewn perthynas â thriniaeth feddygol a deintyddol, addysg, hamdden a bywyd cartref, ffydd a chrefydd, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, ac unrhyw faterion priodol eraill
· y trefniadau i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer y plentyn yn ystod y lleoliad
· pan fydd y plentyn yn cael ei leoli gyda gofalwr maeth cymeradwy, cadarnhad o gytundeb y gofalwr maeth.
299. Nid yw’r gofyniad i drefnu asesiad meddygol ar gyfer y plentyn yn berthnasol os yw cyfres o seibiannau byr wedi’u cynllunio (gweler rheoliad 62(3)(b) o’r Rheoliadau CPPCR). Nid yw’r trefniadau hysbysu arferol ar gyfer lleoliad yn berthnasol chwaith (gweler rheoliad 62(3)(b) o’r Rheoliadau CPPCR).
300. Mae’n rhaid i rieni gyfrannu’n llawn at bob agwedd ar gytuno’r cynllun gofal ar gyfer seibiannau byr, a dylai’r plentyn gymryd rhan yn y broses o gytuno’r cynllun i’r graddau y bo hynny’n ymarferol. Mae’n hanfodol bod cyfathrebu priodol a mathau eraill o gymorth ar waith er mwyn sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog i’r broses asesu, gynllunio ac adolygu, yn enwedig os oes gan y plentyn anabledd.
Addasiadau i’r trefniadau i gadw mewn cysylltiad a chynnal adolygiadau
301. Mae’r trefniadau i gynrychiolydd yr awdurdod lleol ymweld â phlentyn hefyd yn cael eu haddasu mewn perthynas â lleoliadau o’r fath (gweler rheoliad 62(3)(c) o’r Rheoliadau CPPCR). Yn yr achosion hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod cynrychiolydd yr awdurdod lleol yn ymweld â’r plentyn yn ystod cyfnodau ei seibiannau byr, ar adegau rheolaidd a fydd yn cael eu cytuno â’r swyddog adolygu annibynnol (SAA) a rhieni’r plentyn. Mae’n rhaid cofnodi amlder yr ymweliadau hyn yng nghynllun gofal y plentyn cyn dechrau’r seibiant byr cyntaf. Mae’n rhaid sicrhau bod yr ymweliad cyntaf yn mynd rhagddo o fewn saith diwrnod cyntaf i ddechrau’r lleoliad cyntaf, neu cyn gynted ag y bo modd ar ôl hynny, ac mae’n rhaid ymweld â’r plentyn o leiaf unwaith bob chwe mis tra bod y seibiannau byr yn parhau.
302. Mae’r cynlluniau ar gyfer plant sy’n cael seibiant byr yn cael eu hadolygu’n llai aml na chynlluniau ar gyfer plant eraill (yn unol â’r addasiadau a nodir yn rheoliad 62(3)(d) o’r Rheoliadau CPPCR). Mae hyn yn cydnabod bod y plentyn yn cael ei leoli am gyfnodau cymharol fyr ym mhob cyfnod o ofal seibiant byr. Mae’n rhaid cynnal yr adolygiad cyntaf o fewn tri mis i ddechrau’r lleoliad cyntaf. Mae’nrhaid cynnal adolygiad o leiaf unwaith bob chwe mis wedyn. Gall awdurdodau lleol benderfynu cynnal adolygiadau cynharach mewn amgylchiadau penodol – er enghraifft, ar gais y plentyn, rhiant neu ofalwr, neu mewn achosion lle mae’r plentyn yn arbennig o agored i niwed neu’n cael lefel uchel o seibiannau byr. Ni ddylid gwneud newidiadau i’r cynllun gofal oni bai bod y newid wedi’i ystyried mewn adolygiad ymlaen llaw.
303. Mae rôl y Swyddog Adolygu Annibynnol (SAA) ar gyfer plant sy’n derbyn gofal sy’n cael seibiant byr yn debygol o fod yn fwy cyfyngedig na’i rôl ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn fwy hirdymor. Wrth weithio gyda phlant sy’n cael seibiant byr, mae’n bwysig bod SAA yn sensitif i gyfraniad agos a gweithgar rhieni, a’i fod yn ceisio ennill eu hymddiriedaeth a’u hyder. Gall y SAA wneud cyfraniad llawn at ddatrys unrhyw anawsterau gyda’r lleoliad. Mae ganddo ddyletswydd i hysbysu’r awdurdod lleol os nad yw’r lleoliad yn diwallu anghenion y plentyn.
Ymweliadau â phlant sy’n derbyn gofal a phlant dan gadwad, a rôl ymwelwyr annibynnol
304. Mae’r bennod hon yn nodi gofynion awdurdodau lleol mewn perthynas ag ymweliadau, cyswllt a darparu cyngor a chymorth arall ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant sydd, ar ôl cael eu collfarnu o drosedd, yn cael eu cadw mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu blant y mae’n ofynnol iddynt breswylio mewn mangre a gymeradwywyd. Mae hefyd yn nodi rôl ymwelydd annibynnol a’r amgylchiadau pan fydd rhaid i awdurdod lleol ddarparu ymwelydd annibynnol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal.
305. Mae’r bennod hon yn ymwneud ag adrannau 97 a 98 o’r Ddeddf. Y rheoliadau perthnasol yw Rhan 5 o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (‘y Rheoliadau CPPCR’), a Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015 (‘y Rheoliadau VTCD’).
Ymweliadau â phlant sy’n derbyn gofal
306. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod un o’i gynrychiolwyr yn ymweld â phob plentyn y mae’n gofalu amdano, a threfnu bod cyngor a chymorth priodol ar gael i’r plentyn (adran 97). Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, gweithiwr cymdeithasol dynodedig y plentyn sy’n ymweld â’r plentyn fel arfer.
307. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y cynrychiolydd yn ymweld â’r plentyn lle bynnag y mae’r plentyn yn byw. Bydd hyn yn cynnwys plant sy’n cael eu lleoli mewn llety diogel, neu sy’n cael eu remandio mewn llety cadw ieuenctid.
308. Mae ymweliadau’n rhan o fframwaith ehangach ar gyfer goruchwylio lleoliad y plentyn, sicrhau bod llesiant y plentyn yn parhau i gael ei ddiogelu a’i hyrwyddo, a sicrhau’r canlyniadau a nodir yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn (ac, ar gyfer pobl ifanc dros 16 oed, yn y cynllun llwybr). Maent yn un elfen o oruchwylio’r lleoliad, a fydd hefyd yn cynnwys cyngor a chymorth ar gyfer y gofalwr maeth neu staff y cartref plant , ac adolygu achos y plentyn.
309. Mae ymweliadau’n ymwneud â mwy na chadarnhau bod plentyn yn ymgartrefu’n dda mewn lleoliad neu fod lleoliad yn datblygu’n foddhaol. Dylid eu hystyried yn gyfle i ymgysylltu’n rhagweithiol â’r plentyn ynglŷn â’i obeithion a’i ddyheadau, a sut bydd y lleoliad yn helpu’r plentyn i gyflawni ei nodau personol.
Canlyniadau
310. Bydd ymweliadau llwyddiannus yn sicrhau’r canlyniadau canlynol:
· mae’r gweithiwr cymdeithasol a’r plentyn yn datblygu perthynas
gadarnhaol, fel bod y plentyn yn teimlo’n gyfforddus yn rhannu ei brofiadau (cadarnhaol a negyddol) o’r lleoliad
· mae’r plentyn yn derbyn sicrwydd, yn enwedig os yw’n gweld eisiau ei
deulu a’i ffrindiau, ac mae unrhyw anawsterau yn cael eu nodi a’u datrys
· mae’r plentyn yn gallu siarad yn agored am ei obeithion a’i ddyheadau ar
gyfer y lleoliad, ac mae’n gallu mynegi unrhyw bryderon
· mae’r plentyn yn derbyn cyngor, gwybodaeth a chymorth sy’n ei helpu i
oresgyn unrhyw anawsterau o safbwynt ei leoliad, neu sy’n ei helpu i ymgartrefu yn ei gartref neu ysgol newydd
· mae’r gofalwr yn derbyn cyngor ar ymateb yn briodol i anghenion y
plentyn (gan gynnwys unrhyw faterion rheoli ymddygiad)
· mae unrhyw feysydd lle mae angen cymorth neu wasanaethau
ychwanegol yn cael eu nodi
· mae’r gweithiwr cymdeithasol yn fodlon bod y plentyn yn ddiogel a’i fod
yn derbyn y gofal, y cymorth a’r anogaeth ofynnol
· mae’r gweithiwr cymdeithasol yn gallu monitro a gwerthuso i ba raddau y
mae’r camau gweithredu a’r canlyniadau a nodwyd yn y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 (a, lle bo hynny’n berthnasol, yn y cynllun llwybr) yn cael eu cyflawni, ac mae’n gallu cyfrannu at adolygiadau o’r cynlluniau hyn
· mae’r gweithiwr cymdeithasol yn gallu monitro trefniadau cyswllt a sut
mae’r plentyn yn ymateb iddynt, a nodi unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen ar y gofalwyr i gefnogi trefniadau cyswllt cadarnhaol
311. Mae swyddogaethau cynrychiolwyr awdurdodau lleol wedi’u nodi yn yRheoliadau CPPCR, ac maent yn adlewyrchu’r canlyniadau hyn. Mae’n rhaid i amlder a hyd ymweliadau fod yn seiliedig ar amgylchiadau’r achos ac anghenion y plentyn bob amser.
Amlder ymweliadau
312. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn pennu’r gofynion sylfaenol ar gyfer ymweld â gwahanol fathau o leoliadau (gweler isod), ond mae’n bosibl y bydd angen ymweliadau amlach neu ychwanegol i sicrhau bod y canlyniadau a nodwyd uchod yn cael eu cyflawni.
313. Mae’n rhaid i awdurdod lleol drefnu ymweliad yn dilyn cais rhesymol gan blentyn, gofalwr y plentyn neu’r person sy’n gyfrifol am drefniadau byw’r plentyn (beth bynnag yw statws y lleoliad).
314. Mae’n bosibl y bydd angen ymweliadau ychwanegol ar adegau o newid neu her benodol – er enghraifft, os yw anghenion y plentyn wedi newid, neu os yw’r lleoliad o dan straen penodol. Mae’n bosibl y bydd angen ymweld â phlentyn yn amlach pan fydd yn dechrau derbyn gofal am y tro cyntaf, neu pan fydd ganddo weithiwr cymdeithasol newydd, er mwyn datblygu perthynas gref a sicrhau bod y newid yn cael ei reoli mewn ffordd ragweithiol ac er budd pennaf y plentyn.
315. Yr hyn sy’n dilyn yw’r gofynion statudol sylfaenol a nodir yn y Rheoliadau CPPCR:
Gofynion cyffredinol
316. Mae’n rhaid ymweld â phlentyn o fewn wythnos iddo ddechrau unrhyw leoliad. Ar ôl hynny, mae’n rhaid ymweld â’r plentyn o leiaf unwaith bob chwe wythnos yn ystod blwyddyn gyntaf unrhyw leoliad. Mae’n rhaid ymweld â’r plentyn o leiaf unwaith bob chwe wythnos yn y blynyddoedd sy’n dilyn hefyd, oni bai bod y lleoliad wedi’i gytuno’n ffurfiol yn lleoliad parhaol y bwriedir iddo bara nes bod y plentyn yn 18 oed. Mae’n rhaid ymweld â phlentyn sydd mewn lleoliad parhaol o leiaf unwaith bob tri mis yn yr ail flwyddyn a’r blynyddoedd sy’n dilyn.
Plentyn sy’n cael ei leoli gyda rhiant
317. Os yw gorchymyn gofal wedi’i wneud mewn perthynas â phlentyn o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989, ac mae’r plentyn yn cael ei leoli gartref gyda rhiant, mae’n rhaid ymweld â’r plentyn o fewn wythnos i wneud y gorchymyn gofal, ac o leiaf unwaith bob chwe wythnos ar ôl hynny. Mae’n rhaid ymweld â phlentyn sydd wedi’i leoli gartref gyda rhiant cyn cwblhau’r asesiad o leiaf unwaith bob wythnos nes y cynhelir yr adolygiad cyntaf, ac o leiaf unwaith bob chwe wythnos ar ôl hynny, neu nes bod yr asesiad wedi’i gwblhau.
Lleoliadau gyda gofalwr maeth sydd wedi’i gymeradwyo dros dro neu blentyn sy’n byw gyda rhiant o dan orchymyn gofal interim
318. Os yw plentyn wedi’i leoli gyda gofalwr maeth sydd wedi’i gymeradwyo dros dro (perthynas, ffrind neu berson cysylltiedig arall fel arfer), neu os yw gorchymyn gofal interim wedi’i wneud mewn perthynas â’r plentyn (o dan adran 38 o Ddeddf Plant 1989) ac mae’r plentyn yn parhau i fyw gyda’r rhiant, mae’n rhaid ymweld â’r plentyn o leiaf unwaith yr wythnos hyd at amser yr adolygiad cyntaf. Ar ôl hynny, mae’n rhaid ymweld â’r plentyn o leiaf unwaith bob pedair wythnos nes bod y gofalwr wedi’i gymeradwyo’n ofalwr maeth awdurdod lleol neu nes bod gwrandawiad terfynol yr achos gofal wedi’i gwblhau. Mae’r amlderau hyn yn adlewyrchu’r posibilrwydd y gall plentyn fod yn fwy agored i niwed os yw wedi’i leoli gyda gofalwr cyn cwblhau asesiad o addasrwydd yr unigolyn hwnnw i ofalu am y plentyn, neu os yw’r plentyn yn parhau i fyw gyda rhiant mewn amgylchiadau lle mae’r awdurdod lleol yn pryderu y gall y plentyn barhau i fod mewn perygl o ddioddef niwed arwyddocaol. Bydd yr ymweliadau hyn yn gyfle i’r gweithiwr cymdeithasol asesu sut mae’r berthynas rhwng y plentyn a’r rhiant neu’r gofalwr yn datblygu, a nodi o’r dechrau unrhyw bryderon posibl ynglŷn â llesiant plentyn.
Plentyn mewn gofal lle nad yw’r awdurdod lleol yn darparu’r llety
319. Os yw’r plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol, ond bod person neu asiantaeth arall yn gyfrifol am drefniadau byw’r plentyn ar hyn o bryd (fel plentyn sydd wedi’i ddedfrydu ac sy’n cael ei letya mewn cartref diogel i blant neu adain carchar ar gyfer pobl ifanc), mae’n rhaid ymweld â’r plentyn o fewn wythnos i ddechrau’r trefniadau byw ac o fewn wythnos i unrhyw newidiadau i’r trefniadau byw. Ar ôl hynny, mae’n rhaid ymweld â’r plentyn bob chwe wythnos yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac o leiaf unwaith bob tri mis y flwyddyn ganlynol.
Gofynion ychwanegol ar gyfer ymweliadau
320. Yn ogystal, mae’n rhaid ymweld â phlentyn o fewn wythnos i dderbyn hysbysiad o dan adran 30A o Ddeddf Safonau Gofal 2000 os yw’r hysbysiad yn cyfeirio at y cartref plant lle mae’r plentyn wedi’i leoli ar hyn o bryd. Hysbysiadau i awdurdodau lleol ynglŷn â gweithgaredd gorfodi yw’r rhain, ac maent yn ymwneud â phryderon ynglŷn â sut mae cartref plant yn cael ei reoli.
321. Mae’n rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol ymweld â’r lleoliad hefyd os oes unrhyw gynnig i symud y plentyn o’r lleoliad oherwydd pryderon am lesiant y plentyn.
Cynnal ymweliadau
322. Mae’n rhaid i’r cynrychiolydd weld a siarad â’r plentyn ar ei ben ei hun, ac eithrio:
· os yw’r plentyn yn gwrthod, a’i fod o oedran a dealltwriaeth ddigonol i
wrthod
· os yw’r gweithiwr cymdeithasol yn credu ei bod yn amhriodol gwneud
hynny ar sail oedran a dealltwriaeth y plentyn
· os yw’r gweithiwr cymdeithasol yn methu gwneud, er enghraifft os nad
yw’r plentyn yn bresennol.
323. Os oes gan blentyn anawsterau cyfathrebu penodol neu fod angen cymorth arbenigol arno i fynegi ei farn a’i deimladau (gan gynnwys a yw am ofyn am ymweliad neu wrthod ymweliad), mae’n rhaid nodi hyn yn ei gynllun gofal a chymorth.
324. Mae ymweliadau yn ystod wythnosau cyntaf lleoliad yn arbennig o bwysig er mwyn sicrhau bod y trefniadau ar gyfer addysg y plentyn a’i gyswllt â theulu a ffrindiau yn mynd rhagddynt yn hwylus, ac er mwyn darparu unrhyw gymorth sydd ei angen yn ystod y cyfnod ymgartrefu.
325. Mae diogelu yn rhan bwysig o’r ymweliad. Dylai’r gweithiwr cymdeithasol arsylwi ar safon y gofal, a gweld ystafell wely’r plentyn o dro i dro. Er mwyn cael darlun cytbwys o ansawdd bywyd y cartref lle mae’r plentyn yn byw, dylid ymweld â’r cartref yn ddirybudd weithiau. Dylai rhai ymweliadau ddigwydd pan fydd holl aelodau’r aelwyd yn bresennol, fel bod modd i’r gweithiwr cymdeithasol gael blas ar sefyllfa’r teulu a pherthynas y plentyn ag aelodau eraill yr aelwyd. Weithiau bydd yn fwy priodol i’r gweithiwr cymdeithasol drefnu gweithgaredd ar y cyd gyda’r plentyn y tu allan i’r cartref, os credir y byddai hyn yn ei gwneud yn haws i’r plentyn siarad yn rhwyddach am unrhyw bryderon.
Adrodd ar ymweliadau
326. Mae’n rhaid cofnodi cynnwys a chanlyniad pob ymweliad â phlentyn sy’n derbyn gofal yn y cofnod achos unigol mewn ffordd sy’n golygu bod modd asesu cynnydd y plentyn yn y lleoliad yn gyson, hyd yn oed os yw’r gweithiwr cymdeithasol yn newid. Dylai’r cofnod nodi’r prif faterion a godwyd yn ystod yr ymweliad, unrhyw bryderon a sut i’w datrys, a chasgliad cyffredinol. Dylid rhannu gwybodaeth sy’n deillio o’r ymweliad mewn ffordd briodol â rhieni a gofalwyr y plentyn, ac eraill sydd ei hangen. Mae’n rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol drafod â’r plentyn, yn amodol ar ei oedran a’i ddealltwriaeth, pa wybodaeth y dylid ei rhannu â phwy, a pham.
Os oes pryderon
327. Yn dilyn ymweliad, os oes gan y gweithiwr cymdeithasol bryderon ynglŷn ag a yw’r lleoliad yn hyrwyddo llesiant y plentyn yn ddigonol, mae’n rhaid hysbysu’r swyddog adolygu annibynnol. Os yw’r gweithiwr cymdeithasol yn dod i’r casgliad nad yw’r lleoliad yn hyrwyddo llesiant y plentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol adolygu achos y plentyn. Bydd hyn yn cynnwys adolygu cynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn, nodi camau y mae’n rhaid eu rhoi ar waith i sicrhau bod y lleoliad yn gallu diwallu anghenion y plentyn yn briodol, neu os nad oes modd gwneud hynny, ystyried dewisiadau eraill.
Cyngor, cymorth a chynhorthwy ar gyfer y plentyn
328. Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd hefyd i drefnu bod cyngor priodol a chymorth arall ar gael i’r plentyn (adran 97(3)(b) o’r Ddeddf), ac i sicrhau bod y plentyn yn gwybod sut i ofyn am hyn. Yn ystod ei ymweliadau, bydd cynrychiolydd
yr awdurdod lleol hefyd yn gallu asesu a yw’r plentyn angen neu eisiau unrhyw gyngor, cymorth neu gynhorthwy ychwanegol. Wrth drefnu i ddarparu cyngor a
chymorth, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y ddarpariaeth yn gweddu i oedran a dealltwriaeth y plentyn. Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod roi ystyriaeth briodol i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol, rhywioldeb ac unrhyw anabledd sydd gan y plentyn. Ymweliadau â phlant nad ydynt yn derbyn gofal ond sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd neu addysg neu sydd mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol
Ymweliadau â phlant nad ydynt yn derbyn gofal ond sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd neu addysg neu mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol
329. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd hefyd i ymweld â phlant nad ydynt yn derbyn gofal gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban (neu gan Fwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) ac sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd neu addysg, neu sydd mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol, yng Nghymru. Bydd hyn yn dilyn hysbysiad gan yr awdurdod lletya neu’r person sy’n gyfrifol am y cartref gofal neu’r ysbyty, yn unol ag adran 120 neu 121 o’r Ddeddf. Bydd amlder a natur yr ymweliadau yn debyg i’r rhai a nodir uchod. Mae rhagor o wybodaeth am y plant hyn ar gael ym mhennod 8 o’r cod hwn.
Ymwelwyr annibynnol
330. Mae gan awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn ddyletswydd i benodi person annibynnol i fod yn ymwelydd y plentyn os yw’r awdurdod yn credu bod hynny er budd pennaf y plentyn. Adran 98(1) o’r Ddeddf.
331. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi bod yn rhaid i awdurdod lleol ystyried a fyddai’n briodol penodi ymwelydd annibynnol ar gyfer plentyn y mae’n gofalu amdano o dan yr amgylchiadau canlynol:
· nid yw’r plentyn wedi byw gyda rhiant (neu berson sydd â chyfrifoldeb
rhiant am y plentyn) yn ystod y 12 mis blaenorol
· nid oes cyswllt wedi bod rhwng y plentyn a’r rhiant (neu’r person sydd â
chyfrifoldeb rhiant), neu mae’r cyswllt wedi bod yn anghyson.
332. Dylid ystyried a oes angen ymwelydd annibynnol ar y plentyn fel rhan o gynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn, neu pan gaiff achos plentyn ei adolygu.
333. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi’r ffactorau canlynol y dylai’r awdurdod eu hystyried wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â phenodi ymwelydd:
· a fyddai penodi ymwelydd annibynnol yn gwneud cyfraniad cadarnhaol
at lesiant y plentyn
· os yw’r plentyn wedi’i leoli ymhell o’i gartref neu y tu allan i ardal yr
wdurdod lleol, a yw’r lleoliad yn ei gwneud yn anodd cynnal trefniadau cyswllt digonol (er enghraifft, gyda theulu a ffrindiau)
· a yw’r plentyn yn methu mynd allan yn annibynnol neu a yw’n anodd iddo
gyfathrebu neu ddatblygu perthynas gadarnhaol ag eraill
· a yw’r plentyn yn debygol o ymddwyn mewn ffordd a all roi’r plentyn
mewn perygl o ffurfio perthynas anaddas
· os yw’r plentyn wedi’i leoli mewn cartref plant, a fyddai cyfle i sefydlu
perthynas gydag ymwelydd annibynnol yn hyrwyddo llesiant y plentyn
334. Rôl ymwelydd annibynnol yw ymweld â phlentyn, ymgyfeillio ag ef, a’i gynghori. Adran 98(2) o’r Ddeddf.
335. Os yw awdurdod lleol yn penderfynu ei bod yn briodol penodi ymwelydd annibynnol ar gyfer plentyn, mae’n rhaid iddo egluro rôl ymwelydd annibynnol i’r plentyn, mewn ffordd sy’n addas i oedran a dealltwriaeth y plentyn. Dylai’r awdurdod lleol ganfod dymuniadau a theimladau’r plentyn hefyd. Ni ddylai’r awdurdod lleol benodi ymwelydd annibynnol os yw’r plentyn yn gwrthwynebu hynny ac os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad gwybodus.
336. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn gosod rhai cyfyngiadau ar bwy y gellir penodi’n ymwelydd annibynnol, er mwyn sicrhau bod ymwelydd yn annibynnol ar yr awdurdod lleol. Ni ellir penodi’r unigolion canlynol:
· aelod etholedig neu gyfetholedig o’r awdurdod lleol neu unrhyw un o’i
bwyllgorau
· swyddog o’r awdurdod lleol a gyflogir i arfer swyddogaethau penodol,gan
gynnwys swyddogaethau addysg neu wasanaethau cymdeithasol
· priod, partner sifil neu berson arall (o wahanol ryw neu o’r un rhyw) sy’n byw ar yr un aelwyd â’r person sy’n aelod neu’n swyddog yr awdurdod lleol.
337. Dylai awdurdodau lleol ystyried ym mhob adolygiad a oes angen ymwelydd annibynnol ar y plentyn o hyd, ac a yw’n briodol parhau i benodi’r ymwelydd penodol. Bydd angen i’r awdurdod lleol ystyried y ffordd fwyaf priodol o ganfod dymuniad y plentyn ynglŷn â pharhad y berthynas. Mae’n rhaid i’r awdurdod derfynu’r berthynas os yw’r plentyn yn ei gwrthwynebu ac os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth. Os yw hyn yn digwydd, bydd angen i’r awdurdod lleol drafod â’r plentyn a fyddai’n briodol penodi ymwelydd annibynnol arall.
338. Mae penodiad fel ymwelydd annibynnol ar gyfer plentyn penodol yn dod i ben os daw gofal yr awdurdod lleol dros y plentyn i ben. Hefyd, gall y penodiad gael ei derfynu ar ffurf ysgrifenedig gan yr ymwelydd neu’r awdurdod lleol. Os yw ymwelydd annibynnol yn gweithredu mewn perthynas â nifer o blant, nid yw terfynu penodiad mewn perthynas ag un plentyn yn terfynu’r penodiad mewn perthynas â’r lleill yn awtomatig. Dylid ystyried pob achos ar wahân.
339. Mae gan yr ymwelydd annibynnol hawl i adennill unrhyw dreuliau rhesymol gan yr awdurdod lleol. Dylai’r cyfryw dreuliau gynnwys taliadau teithio neu fân dreuliau, ond nid yw’n cynnwys taliad neu gyflog rheolaidd am ymgymryd â’r rôl.
Ymweliadau â phlant sydd dan gadwad
340. Yn ogystal â phlant sy’n derbyn gofal, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymweld â, a sicrhau bod cyngor a chymorth priodol ar gael ar gyfer, plant a fu’n derbyn gofal ond nad ydynt bellach yn derbyn gofal o ganlyniad i amgylchiadau a nodir yn y Rheoliadau, a phlant eraill sy’n perthyn i gategori a nodir yn y Rheoliadau. Mae’r ddarpariaeth hon wedi’i nodi yn Adran 97(1)(b) a (c) o’r Ddeddf.
341. Mae Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015 yn nodi’r amgylchiadau sydd wedi arwain at blentyn yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal, a’r categori o blant y mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ymweld â nhw a chadw mewn cysylltiad â nhw.
342. Bydd plentyn sy’n cael ei gollfarnu o drosedd gan lys, ac sydd dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu blentyn y mae’n ofynnol iddo breswylio
mewn mangre a gymeradwywyd, yn colli ei statws fel plentyn sy’n ‘derbyn gofal’ o dan yr amgylchiadau canlynol:
· mae’r plentyn, yn union cyn iddo gael ei gollfarnu a’i gadw, yn derbyn gofal yn rhinwedd cael llety wedi’i ddarparu iddo gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 76 o’r Ddeddf, neu
· mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yng Nghymru, ac roedd yn cael ei drin fel plentyn sy’n derbyn gofal yn unol ag adran 104 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 – h.y. oherwydd iddo gael ei remandio i lety awdurdod lleol neu lety cadw ieuenctid yn unol ag adran 92 o’r Ddeddf.
343. Os yw plentyn yn colli statws plentyn sy’n derbyn gofal, ni fydd yn ofynnol i’r awdurdod lleol ymweld a chadw mewn cysylltiad â’r plentyn o dan Ran 5 o’r Rheoliadau CPPCR. Nod y darpariaethau a nodir yn y Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad yw sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd o hyd i ymweld â phlant o’r fath. Ochr yn ochr â Rheoliadau Plant dan Gadwad sy’n Derbyn Gofal (Lloegr) 2010, mae’r rheoliadau hefyd yn egluro pa awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ymweld â’r plant a fu’n derbyn gofal.
344. Bydd plant sydd yng ngofal awdurdod lleol yng Nghymru yn rhinwedd gorchymyn gofal o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989 yn cadw eu statws fel plant sy’n derbyn gofal nes bod y llys yn gollwng y gorchymyn gofal, waeth a ydynt wedi’u collfarnu neu eu bod dan gadwad. Bydd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd o hyd i ymweld a chysylltu â’r plant hyn a threfnu cyngor priodol a chymorth arall ar eu cyfer, o dan y Rheoliadau CPPCR – gweler yr adran ar ‘Ymweliadau â phlant sy’n derbyn gofal’ uchod.
345. Ni fydd rhai plant wedi bod â statws fel plant sy’n derbyn gofal cyn cael eu collfarnu a’u cadw – er enghraifft, plant a oedd yn byw gartref ar fechnïaeth gyda’u rhieni neu gyda gofalwyr sy’n aelodau o’r teulu neu’n ffrindiau. Mae’r Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymweld â’r plant hyn, yn ogystal â phlant a fu’n derbyn gofal (ond a gollodd eu statws fel plant sy’n derbyn gofal ar ôl cael eu collfarnu o drosedd).
346. Mae’r Rheoliadau VTCD yn berthnasol i blant sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, waeth a ydynt yn cael eu cadw mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar, neu i blant y mae’n ofynnol iddynt breswylio mewn mangre a gymeradwywyd, yng Nghymru neu yn Lloegr. Maent hefyd yn berthnasol i rai plant sy’n preswylio yn Lloegr fel arfer sy’n cael eu cadw mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar yng Nghymru; nid ydynt yn berthnasol i blant sydd yng ngofal awdurdod lleol yn Lloegr, neu i blant a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr yn union cyn iddynt gael eu cadw, neu i unrhyw blentyn sy’n ‘blentyn perthnasol’ o dan Ddeddf Plant 1989.
Yr awdurdod lleol cyfrifol
347. Mae’r Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad yn nodi pa awdurdod lleol a ddylai ymweld â phlentyn dan gadwad a threfnu cyngor a chymorth ar ei gyfer.
(a) Os oedd plentyn yn derbyn gofal yn union cyn iddo gael ei gadw, yr awdurdod lleol cyfrifol yw’r awdurdod lleol a oedd yn gofalu am y plentyn.
(b) Os nad oedd plentyn yn derbyn gofal yn union cyn iddo gael ei gadw, ond ei fod yn preswylio yng Nghymru fel arfer, yr awdurdod cyfrifol yw’r awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn preswylio fel arfer. Mae canllawiau ar sefydlu preswylfa arferol wedi’u cynnwys yn y Cod Ymarfer yn ymwneud â Rhan 11 o’r Ddeddf, pennod 2.
348. Yn y ddau achos, mae dyletswydd yr awdurdod cyfrifol yn berthnasol waeth ble y lleolir y llety cadw ieuenctid, y carchar neu’r fangre a gymeradwywyd. Mae hyn yn cynnwys llety yn yr ystâd ddiogeled yn Lloegr.
349. O safbwynt plentyn ym mharagraff (b), mae dyletswydd hefyd (o dan Ddeddf Plant 1989) ar yr awdurdod lleol yn Lloegr lle mae’r plentyn yn cael ei gadw neu le mae’n ofynnol iddo breswylio, ar y sail y gellid ystyried y plentyn yn blentyn mewn angen sy’n bresennol yn gorfforol yn ardal yr awdurdod hwnnw.
350. Mae’n bosibl y bydd cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yng Nghymru lle mae’r plentyn yn preswylio fel arfer a’r awdurdod lleol yn Lloegr lle mae’r plentyn yn bresennol yn gorfforol yn gorgyffwrdd, a bydd rhaid i awdurdodau lleol gydweithio i reoli sefyllfaoedd o’r fath er mwyn osgoi dyblygu neu’r posibilrwydd y bydd y plentyn yn diflannu o’r golwg.
(c) Os yw plentyn nad yw’n preswylio fel arfer yng Nghymru ond sydd wedi’i gadw (ar ôl ei gollfarnu o drosedd) mewn llety cadw ieuenctid neu garchar yng Nghymru, neu os yw’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd yng Nghymru, yr awdurdod cyfrifol yw’r awdurdod lleol ble y lleolir y llety cadw ieuenctid, y carchar neu’r fangre a gymeradwywyd. Nid yw hyn yn berthnasol i blant sydd yng ngofal awdurdod lleol yn Lloegr, neu a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr yn union cyn cael eu collfarnu a’u cadw (gan gynnwys y rhai sydd ar remánd). Mae nifer y plant o Loegr sy’n cael eu cadw yng Nghymru y bydd angen i awdurdod lleol yng Nghymru ymweld â nhw yn debygol o fod yn fach.
351. Mae’r tabl ar ddiwedd y bennod yn crynhoi pa awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddisgrifiadau gwahanol o blant sydd dan gadwad.
Amlder ymweliadau
352. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod cynrychiolydd awdurdod lleol yn ymweld â’r plentyn:
· fewn 10 diwrnod gwaith i’r plentyn gael ei gadw am y tro cyntaf, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol
· ar ôl hynny, yn dilyn unrhyw gais rhesymol gan y plentyn, aelod o staff lle mae’r plentyn yn cael ei gadw neu yn y fangre a gymeradwywyd lle mae’r plentyn yn preswylio, unrhyw riant neu berson â chyfrifoldeb rhiant, neu reolwr achos perthnasol y tîm troseddwyr ifanc.
353. Dylai’r cyfnod 10 diwrnod gwaith ar gyfer yr ymweliad cyntaf sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o amser i drefnu ymweliad os yw plentyn yn cael ei gadw yn bell o’i awdurdod lleol cartref, os oes unrhyw oedi i’r awdurdod lleol yn cael gwybod am union leoliad y plentyn, a’r angen i wneud y trefniadau gweinyddol gofynnol i gael mynediad i’r lleoliad diogel.
354. Gall yr awdurdod lleol cyfrifol drefnu ymweliadau ychwanegol, gan ystyried argymhellion cynrychiolydd yr awdurdod lleol ynglŷn ag amseriad ac amlder ymweliadau pellach.
Cynnal ymweliadau
355. Yn ystod pob ymweliad, mae’n rhaid i gynrychiolydd yr awdurdod lleol siarad yn breifat â’r plentyn oni bai bod y plentyn, ac yntau o oedran a dealltwriaeth ddigonol, yn gwrthod; bod y cynrychiolydd yn credu ei bod yn amhriodol gwneud hynny ar sail oedran a dealltwriaeth y plentyn; neu nad oes modd gwneud hynny.
Adrodd ar ymweliadau
356. Mae’n rhaid i gynrychiolydd yr awdurdod lleol ysgrifennu adroddiad ar ôl pob ymweliad. Mae’n rhaid i’r adroddiad gynnwys:
· ei asesiad ynglŷn ag a yw llesiant y plentyn yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo yn ddigonol, gan ystyried safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn
· argymhellion ynglŷn ag amseriad ac amlder unrhyw ymweliadau eraill â’r plentyn
· unrhyw drefniadau eraill y dylid eu rhoi ar waith ym marn y cynrychiolydd er mwyn hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a’i deulu neu er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn
· asesiad y cynrychiolydd o sut y dylai llesiant y plentyn gael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol ar ôl iddo gael ei ryddhau o fod dan gadwad (neu ar ôl dileu’r gofyniad iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd), yn enwedig os bydd angen i’r plentyn gael ei letya gan yr awdurdod lleol cyfrifol, awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr, ac a ddylai’r awdurdod lleol cyfrifol neu awdurdod lleol arall ddarparu unrhyw wasanaethau eraill o dan y Ddeddf neu o dan Ddeddf Plant 1989.
357. Wrth gwblhau ei asesiad, mae’n rhaid i’r cynrychiolydd ystyried safbwyntiau unrhyw riant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant, ac aelodau staff priodol y sefydliad neu’r fangre lle mae’r plentyn yn cael ei gadw neu’n preswylio (oni bai nad yw hyn yn ymarferol rhesymol neu ei bod yn anghyson â llesiant y plentyn).
358. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o’r adroddiad i’r canlynol:
· y plentyn (oni bai y byddai’n amhriodol gwneud hynny)
· rhiant ac aelodau staff priodol yn y sefydliad neu’r fangre ac y cafodd eu safbwyntiau eu hystyried (oni bai y byddai’n amhriodol gwneud hynny)
· llywodraethwr, cyfarwyddwr neu reolwr cofrestredig y sefydliad neu’r fangre lle mae’r plentyn yn cael ei gadw neu’n preswylio
· rheolwr achos y tîm troseddwyr ifanc perthnasol
· awdurdod lleol yr ardal lle mae’r plentyn yn cael ei gadw, os yw’n wahanol i’r awdurdod lleol cyfrifol
· unrhyw berson arall a ddylai gael copi o’r adroddiad ym marn yr awdurdod lleol cyfrifol, gan ystyried asesiad y cynrychiolydd.
Cyngor a chymorth arall
359. Wrth wneud trefniadau i sicrhau bod cyngor priodol a chymorth arall ar gael i blentyn o dan y darpariaethau hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y trefniadau yn briodol ar sail oedran a dealltwriaeth y plentyn, a bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol, ac unrhyw anabledd y plentyn. Mae’n rhaid i’r awdurdod sicrhau
hefyd bod y plentyn yn gwybod sut i ddod o hyd i gyngor a chymorth priodol gan yr awdurdod.
Crynodeb
360. Mae’r tabl canlynol yn crynhoi pwy sy’n gyfrifol am ymweld â phlant sydd dan gadwad, a’u cefnogi. Mae hefyd yn nodi’r rheoliadau perthnasol. Mae’n berthnasol i blant o Gymru a Lloegr sy’n cael eu cadw yng Nghymru, a phlant o Gymru sy’n cael eu cadw yn Lloegr.
361. At ddibenion y tabl, ystyr ‘dan gadwad’ yw plentyn sydd wedi’i gollfarnu gan lys a’i ddedfrydu i gael ei gadw mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu blentyn y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd.
Disgrifiad o’r plentyn
|
Awdurdod cyfrifol a deddfwriaeth berthnasol |
Plentyn sydd yng ngofal awdurdod lleol yng Nghymru, ac sydd dan gadwad yng Nghymru. |
Yr awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gofalu am y plentyn. Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 |
Plentyn sydd yng ngofal awdurdod lleol yng Nghymru, ac sydd dan gadwad yn Lloegr. |
Yr awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gofalu am y plentyn. Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 |
Plentyn sydd yng ngofal awdurdod lleol yn Lloegr, ac sydd dan gadwad yng Nghymru. |
Yr awdurdod lleol yn Lloegr sy’n gofalu am y plentyn. Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 |
Plentyn a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 76 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), yn union cyn cael ei gollfarnu a’i gadw, ac sydd dan gadwad yng Nghymru.
|
Yr awdurdod lleol yng Nghymru a oedd yn gofalu am y plentyn. Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015 |
Plentyn a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 76 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), yn union cyn cael ei gollfarnu a’i gadw, ac sydd dan gadwad yn Lloegr.
|
Yr awdurdod lleol yng Nghymru a oedd yn gofalu am y plentyn. Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015 |
Plentyn a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 20 o Ddeddf Plant 1989, yn union cyn cael ei gollfarnu a’i gadw, ac sydd dan gadwad yng Nghymru. |
Yr awdurdod lleol yn Lloegr a oedd yn gofalu am y plentyn. Rheoliadau Plant dan Gadwad sy’n Derbyn Gofal (Lloegr) 2010 |
Plentyn sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac a gafodd ei drin fel plentyn sy’n derbyn gofal yn unol ag adran 104 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, ac sydd dan gadwad yng Nghymru. |
Yr awdurdod lleol yng Nghymru a oedd yn gofalu am y plentyn. Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015 |
Plentyn sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac a gafodd ei drin fel plentyn sy’n derbyn gofal yn unol ag adran 104 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, ac sydd dan gadwad yn Lloegr. |
Yr awdurdod lleol yng Nghymru a oedd yn gofalu am y plentyn. Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015 |
Plentyn sy’n preswylio fel arfer yn Lloegr ac a gafodd ei drin fel plentyn sy’n derbyn gofal yn unol ag adran 104 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, ac sydd dan gadwad yng Nghymru. |
Yr awdurdod lleol yn Lloegr a oedd yn gofalu am y plentyn. Rheoliadau Plant dan Gadwad sy’n Derbyn Gofal (Lloegr) 2010 |
Person ifanc ‘categori 2’ – h.y. person ifanc 16 neu 17 oed sy’n gadael gofal (gweler tudalen 81 am ddiffiniad llawn), sydd dan gadwad yng Nghymru neu yn Lloegr. |
Yr awdurdod lleol yng Nghymru a fu’n gofalu am y person ifanc olaf. Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015 |
‘Plentyn perthnasol’ at ddibenion adran 23A o Ddeddf Plant 1989 [yn berthnasol i Loegr yn unig], sydd dan gadwad yng Nghymru. |
Yr awdurdod lleol yn Lloegr a fu’n gofalu am y person ifanc olaf. Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Lloegr) 2010 |
Plentyn nad yw’n preswylio yng Nghymru fel arfer, nad yw’n perthyn i unrhyw un o’r disgrifiadau uchod |
Yr awdurdod lleol yng Nghymru ble y lleolir y llety cadw ieuenctid, y carchar neu’r fangre a gymeradwywyd. |
Plant sydd ar remánd neu dan gadwad
362. Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau CPPCR yn addasu’r gofynion i gadw mewn cysylltiad â phlant sy’n derbyn gofal sy’n cael eu remandio mewn llety awdurdod lleol neu lety cadw ieuenctid, ac sy’n cael eu cadw ar ôl eu collfarnu o drosedd.
363. Yn gyffredinol, mae’r ddyletswydd i gadw mewn cysylltiad ac ymweld â phlentyn sy’n derbyn gofal yr un mor berthnasol i blant sy’n derbyn gofal sy’n cael eu remandio mewn llety cadw ieuenctid a phlant sy’n cael eu cadw ar ôl cael eu collfarnu o drosedd. Yn ogystal â’r gofynion hyn, mae’n rhaid i gynrychiolydd yr awdurdod lleol ymweld â’r plentyn yn dilyn cais rhesymol gan y cyfarwyddwr, y llywodraethwr neu reolwr cofrestredig y carchar, y llety cadw ieuenctid neu’r fangre y mae’n ofynnol i’r plentyn breswylio ynddi.
Rôl a swyddogaethau’r Swyddog Adolygu Annibynnol
364. Mae’r bennod hon yn ymdrin â gweithdrefnau ar gyfer adolygu cynllun gofal a chymorth Rhan 6 plentyn, gan ganolbwyntio ar rôl a swyddogaethau’r Swyddog Adolygu Annibynnol (SAA). Mae’n rhoi sylw i’r canlynol:
· penodi swyddogion adolygu annibynnol (adran 99)
· swyddogaethau’r swyddog adolygu annibynnol (adran 100)
· cynnal adolygiadau (adran 102).
365. Mae adran 100 o’r Ddeddf yn nodi swyddogaethau SAA mewn perthynas â chynllunio gofal a chymorth a sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Mae SAA yn gyfrifol am fonitro perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â chynllun gofal a chymorth Rhan 6 plentyn, yn ogystal â dyletswyddau penodol mewn perthynas ag adolygiadau.
366. Dyma swyddogaethau’r SAA:
· monitro perfformiad yr awdurdod lleol mewn perthynas ag achos y plentyn
· cymryd rhan yn adolygiad y plentyn yn unol â’r Rheoliadau
· sicrhau bod dymuniadau a theimladau’r plentyn yn cael eu hystyried
· cyflawni unrhyw swyddogaeth arall a nodir yn y Rheoliadau.
367. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno newidiadau a fydd yn galluogi’r SAA i oruchwylio achos y plentyn mewn ffordd fwy effeithiol ac annibynnol, fel bod cynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn yn ymateb yn effeithiol i anghenion asesedig y plentyn ac yn parchu integriti ac urddas y plentyn.
368. Mae adran 99 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benodi SAA. Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau CPPCR”) yn nodi o dan ba amgylchiadau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r SAA.
369. Dylai’r SAA ddod ag elfen o wrthrychedd ac arolygiaeth i arferion a phenderfyniadau wrth fonitro’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 a gwella cyfleoedd bywyd pob plentyn. Mae gan y SAA rôl bwysig yn sicrhau bod awdurdod lleol yn gweithredu’n gyson wrth ofalu am blant y mae ganddo gyfrifoldeb corfforaethol amdanynt.
370. Dylai’r SAA geisio sicrhau nad oes unrhyw ‘oedi’ yn y broses o gynllunio gofal ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, a sicrhau bod ymdrechion yr awdurdod lleol wrth adolygu achosion plant yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion pob plentyn. Dylai’r SAA sicrhau bod y cynlluniau gofal a chymorth Rhan 6 yn amserol, yn effeithiol ac yn sensitif i anghenion unigol y plant sy’n derbyn gofal. Dylai natur annibynnol y SAA hefyd hwyluso’r cyfle ar gyfer monitro gweithgareddau’r awdurdod lleol fel rhiant corfforaethol, asesu ansawdd y gwasanaethau a herio gweithgareddau lle bo angen.
371. Mae cyfrifoldebau’r SAA yn cynnwys:
· sicrhau bod cynlluniau gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn seiliedig ar asesiad manwl ar sail gwybodaeth, yn gyfoes ac yn
effeithiol, a’u bod yn ymateb mewn ffordd wirioneddol a diffuant i anghenion pob plentyn
· nodi unrhyw fylchau yn y broses asesu neu wrth ddarparu’r gwasanaeth
· cynnig mesurau diogelu i osgoi unrhyw ‘oedi’ wrth gynllunio gofal a chymorth a darparu gwasanaethau
· monitro gweithgarwch yr awdurdod lleol yn rhinwedd ei swydd fel rhiant corfforaethol da
· sicrhau bod popeth wedi’i wneud i ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn ar hyn o bryd, gan roi ystyriaeth briodol iddynt
· sicrhau bod y plentyn yn deall yn llawn goblygiadau unrhyw newidiadau i’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6
· sicrhau bod y plentyn yn ymwybodol o’i hawl i eiriolwr a beth mae eiriolwr yn ei wneud
· sicrhau (ar gyfer plentyn sy’n cael ei letya) bod adolygiad yn cael ei gynnal cyn ei ryddhau o ofal.
Y Broses Adolygu
372. Mae adolygu cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn elfen allweddol o’r broses gynllunio gofal. Diben y cyfarfod adolygu yw ystyried y cynllun ar gyfer llesiant y plentyn, monitro cynnydd a gwneud penderfyniadau i ddiwygio’r cynllun neu gadarnhau penderfyniadau blaenorol fel sy’n ofynnol yn sgil newidiadau i wybodaeth ac amgylchiadau. Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng adolygu fel proses fonitro ac ailasesu barhaus, ac adolygiad ffurfiol o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6, sef y digwyddiad pan gaiff cynllun plentyn ei ystyried, ei gadarnhau neu ei newid, a lle mae penderfyniadau o’r fath yn cael eu cytuno a’u cofnodi ar ôl ymgynghori â phawb sydd â diddordeb allweddol ym mywyd y plentyn, gan gynnwys y plentyn.
373. Bydd y broses adolygu yn ystyried y materion allweddol canlynol:
· cyfranogiad y plentyn, gan gynnwys egluro’r rheswm am unrhyw newidiadau yn glir i’r plentyn
· cyfranogiad priodol asiantaethau eraill
· gwaith goruchwylio ac arolygu gan reolwyr cyfrifol
· i ba raddau y mae cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r canlyniadau a nodwyd.
Amseru Adolygiadau
374. Mae’n rhaid i awdurdod lleol gynnal adolygiad cyntaf o achos plentyn o fewn 20 diwrnod gwaith i’r dyddiad pan fydd plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal (Rheoliad 39 o’r Rheoliadau CPPCR).
375. Mae’n rhaid cynnal yr ail adolygiad o fewn tri mis i’r adolygiad cyntaf. Mae’n rhaid cynnal adolygiad o leiaf unwaith bob chwe mis wedyn.
376. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi’r safon ofynnol ar gyfer amlder adolygu achos plentyn. Os oes angen newidiadau sylweddol i’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6, dylid dod â dyddiad yr adolygiad nesaf ymlaen. Er enghraifft, byddai datblygiad annisgwyl fel lleoliad yn methu yn ddirybudd yn ei gwneud yn anodd cyflawni’r amcanion a nodir yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni. Dylai dyddiad yr adolygiad nesaf gael ei symud ymlaen i ystyried y newid i’r amgylchiadau a sut mae hyn yn effeithio ar yr amcanion blaenorol y cytunwyd arnynt. Dylid cynnal adolygiad o achos y plentyn mor aml â’r hyn sydd ei angen yn unol ag amgylchiadau’r achos unigol.
377. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod cofnod ysgrifenedig o’r adolygiad yn cael ei baratoi (Rheoliad 44 o’r Rheoliadau CPPCR). Dylai cofnod yr adolygiad gynnwys cofnod cywir a chynhwysfawr o’r cyfarfod, gan gynnwys y penderfyniadau a wnaed ynglŷn â’r cynllun gofal a safbwyntiau pawb a fynychodd yr ymgynghorwyd â nhw yn ystod y cyfarfod.
Cadeirio’r Cyfarfod Adolygu
378. Dylai SAA gadeirio cyfarfodydd adolygu pob plentyn sy’n derbyn gofal. Mae cadeirio’r cyfarfod yn galluogi’r SAA i fonitro priodoldeb y cynllun gofal, goruchwylio’r gwaith o’i weithredu a nodi a yw’r cerrig milltir a nodir yn y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn cael eu cyflawni yn unol â’r amserlen. Dylai’r SAA sicrhau bod pawb sy’n mynychu’r cyfarfod yn cyfrannu mewn ffordd ystyrlon at y drafodaeth. Bydd hyn yn hwyluso trafodaethau ar sail gwybodaeth ynglŷn â’r camau gweithredu tymor byr a hirdymor sydd eu hangen i fwrw ymlaen â chynllun gofal a chymorth y plentyn.
379. Mae angen i’r SAA siarad yn breifat â’r plentyn cyn yr adolygiad, oni bai bod y plentyn yn gwrthod gwneud hynny neu fod y SAA yn credu ei bod yn amhriodol gwneud hynny oherwydd oedran neu ddealltwriaeth y plentyn (Rheoliad 42 o’r Rheoliadau CPPCR). Mae’n bwysig bod y SAA yn gweithio gyda’r plentyn i ganfod ei safbwyntiau, nodi unrhyw broblemau a nodi sut y byddai’r plentyn yn hoffi gwneud y cyfraniad mwyaf ystyrlon at yr adolygiad. Dylai’r SAA hefyd sicrhau bod safbwyntiau rhieni, neu’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant, yn cael eu hystyried hefyd, lle bo hynny’n ymarferol.
380. Fel cadeirydd annibynnol y cyfarfod, bydd y SAA mewn sefyllfa dda i nodi unrhyw bryderon ynglŷn â sut mae gofal y plentyn yn cael ei reoli ac a yw lleoliad neu amgylchiadau presennol y plentyn yn diwallu ei anghenion ac yn cyflawni’r amcanion hirdymor y cytunwyd arnynt drwy’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6. Os yw’r SAA o’r farn nad yw’r awdurdod lleol yn gweithredu’r camau priodol neu’r penderfyniadau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod adolygu, dylid hysbysu uwch aelod o’r awdurdod lleol am y pryderon hyn.
Ymdrin â Newid Sylweddol
381. Mae swyddogaethau’r SAA yn cynnwys cyfrifoldeb i ymgynghori â’r plentyn sy’n derbyn gofal ynglŷn â’i gynllun gofal a chymorth Rhan 6 ym mhob adolygiad, ac ar unrhyw adeg pan fydd newid arwyddocaol i’r cynllun gofal a chymorth. Dim ond yn ystod adolygiad y plentyn sy’n derbyn gofal y gellir gwneud neu gynnig newidiadau sylweddol i gynlluniau gofal a chymorth, ac mae gan y SAA awdurdod i benderfynu pryd y dylid cynnal adolygiad oherwydd newid mewn amgylchiadau. Fodd bynnag, dylid cynnal adolygiadau yn rheolaidd yn unol â’r Rheoliadau CPPCR. Hefyd, mae’n rhaid i’r SAA weithredu os yw’r awdurdod lleol yn methu cydymffurfio â’r Rheoliadau CPPCR neu’n methu cyflawni unrhyw un o’i ddyletswyddau yn ymwneud â’r plentyn mewn unrhyw ffordd berthnasol, gan gynnwys atgyfeirio plentyn i Wasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru (CAFCASS Cymru) (yn unol ag adran 100(3) o’r Ddeddf).
382. Mae’n rhaid i staff yr awdurdod lleol hysbysu’r SAA am unrhyw newidiadau sylweddol i gynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn neu unrhyw fethiant sylweddol i roi penderfyniadau ar waith sy’n deillio o adolygiad (Rheoliad 43 o’r Rheoliadau CPPCR). Byddai newid sylweddol yn cynnwys newidiadau i gynllun sefydlogrwydd plentyn, fel lleoliad yn methu neu symudiad nas cynlluniwyd. Os yw trefniadau sydd wedi’u hen sefydlu ar gyfer plentyn yn methu yn sydyn, dylai’r SAA drefnu adolygiad newydd gyda phob parti perthnasol er mwyn ystyried cynllun tymor byr newydd a’r dewisiadau sydd i’w hystyried ar gyfer amcanion mwy hirdymor.
Monitro’r Awdurdod Lleol
383. Mae SAA mewn sefyllfa dda i asesu ansawdd ac effeithiolrwydd cynlluniau a chymorth awdurdodau lleol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, ac mae ganddynt gyfraniad allweddol i’w wneud at sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei gyfrifoldebau fel ‘rhiant corfforaethol’ ar gyfer pob person ifanc sy’n derbyn gofal.
384. Prif dasg y SAA yw sicrhau bod cynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn yn adlewyrchu ei anghenion, a bod y camau a’r canlyniadau a nodir yn y cynllun yn gyson â chyfrifoldebau cyfreithiol yr awdurdod lleol ar gyfer y plentyn. Fel rhieni corfforaethol, mae’n rhaid i bob awdurdod lleol weithredu ar gyfer y plentyn y mae’n gofalu amdano fel y byddai unrhyw riant cyfrifol a chydwybodol yn ei wneud.
385. Mae gan y SAA ddyletswydd hefyd i fonitro perfformiad swyddogaeth yr awdurdod lleol fel rhiant corfforaethol ac i nodi unrhyw arferion gwael. Dylai hyn gynnwys nodi patrymau pryder sy’n dod i’r amlwg, nid yn unig mewn perthynas â phlentyn unigol, ond yn fwy cyffredinol o safbwynt profiad cyfunol plant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Ar ôl nodi pryderon mwy cyffredinol ynglŷn â darparu gwasanaethau, dylai’r SAA hysbysu uwch swyddogion amdanynt ar unwaith.
Annibyniaeth y SAA
386. Mae annibyniaeth y SAA yn hanfodol i’w alluogi i herio ymarfer gwael yn effeithiol. Nid yw’r Rheoliadau CPPCR yn pennu swyddogaeth SAA yn yr awdurdod cyfrifol, ond maent yn pennu’r lefelau annibyniaeth gofynnol.
387. Mae rhai categorïau penodol o bersonau na all yr awdurdod lleol eu penodi i fod yn SAA (Rheoliad 54(3) o’r Rheoliadau CPPCR), sef:
· person sy’n helpu i baratoi cynllun gofal a chymorth y plentyn neu i reoli achos y plentyn
· gweithiwr cymdeithasol neu gynghorydd personol y plentyn
· cynrychiolydd yr awdurdod lleol a benodwyd i ymweld â’r plentyn
· person â chyfrifoldebau rheoli ar gyfer unrhyw un o’r uchod
· person â rheolaeth dros yr adnoddau a ddyrannwyd i’r achos.
Achosion Cyfreithiol
388. Mae gan y SAA ddyletswydd i sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal wedi’u hysbysu am eu hawl i wneud cais, gyda chaniatâd, am orchymyn adran 8 (o dan Ddeddf Plant 1989); os yw’r plentyn mewn gofal, i wneud cais am ryddhad o’r gorchymyn gofal; a’r hawl i gwyno (Rheoliad 53 o’r Rheoliadau CPPCR). Mae’n rhaid i’r SAA sicrhau hefyd bod plant sy’n derbyn gofal yn ymwybodol o argaeledd gwasanaethau eirioli, y mae ganddynt hawl i’w cyrchu mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar eu hachos.
389. Os yw’r plentyn yn dymuno dwyn achos cyfreithiol o dan y Ddeddf (neu Ddeddf Plant 1989), mae’n rhaid i’r SAA ganfod a oes oedolyn priodol sy’n alluog a bodlon i gynorthwyo’r plentyn i gael cyngor cyfreithiol neu ddwyn achos ar ran y plentyn, neu, os nad oes person o’r fath, cynorthwyo’r plentyn i gael cyngor o’r fath.
390. Gan ystyried oedran a dealltwriaeth y plentyn, dylai’r SAA ystyried yn ofalus sut i egluro ei hawl i:
· gwyno, a sut i fynd ati i gwyno
· cael eiriolwr, gan gynnwys rôl yr eiriolwr
· gwneud cais am orchymyn neu geisio rhyddhau gorchymyn
391. Mae’r materion hyn yn gymhleth i’w hegluro i blentyn, ac mae’n rhaid i’r SAA a rheolwyr y SAA fod yn fodlon bod y plentyn yn ymwybodol o’i hawliau ac yn deall ei hawliau.
Cymwysterau’r SAA
392. Mae’n rhaid i SAA fod â chymwysterau a phrofiad penodol er mwyn cyflawni ei swyddogaethau statudol (Rheoliad 54 o’r Rheoliadau CPPCR). Dylai’r SAA:
· fod wedi’i gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol gan Gyngor Gofal Cymru, Rhan 16 o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan Erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001[15], neu mewn cofrestr gyfatebol a gynhelir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon
· gallu dangos tystiolaeth o brofiad digonol o waith cymdeithasol perthnasol ym maes gofal cymdeithasol plant i allu cyflawni swyddogaethau’r SAA
· gallu i gyfathrebu â phlant a phobl ifanc, hyder a gallu i herio uwch swyddogion, a dealltwriaeth drylwyr o’r fframwaith cyfreithiol yn ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal, gan gynnwys gwybodaeth am reoliadau perthnasol
· dealltwriaeth weithredol drylwyr o’r broses gyfreithiol a’r materion perthnasol pan fydd awdurdod lleol yn gwneud cais am orchymyn gofal
· profiad o oruchwylio a chynorthwyo gwaith cymdeithasol, a gwybodaeth am y dystiolaeth yn ymwneud ag arferion da wrth weithio gyda phlant a’u teuluoedd.
Plant sydd ar remánd neu dan gadwad
393. Mae rhan 9 o’r Rheoliadau CPPCR yn addasu’r gofynion adolygu mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal ac sy’n cael eu remandio i lety awdurdod llety neu lety cadw ieuenctid, neu sy’n cael eu cadw ar ôl eu collfarnu o drosedd.
394. Wrth adolygu achos plentyn sy’n derbyn gofal sydd ar remánd neu o dan gadwad, mae’r hyn y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei ystyried yn cael ei addasu. Bydd y rhan fwyaf o’r ystyriaethau a nodir yn Atodlen 8 i’r Rheoliadau CPPCR yn berthnasol o hyd, ond wrth reswm, ni fydd angen ystyried a ddylai statws cyfreithiol y plentyn newid, a oes cynllun sefydlogrwydd ar gyfer y plentyn, neu a yw’r lleoliad yn parhau i fod yr un mwyaf priodol, gan y bydd pob un o’r rhain eisoes wedi’u penderfynu gan y ffaith fod y plentyn yn cael ei remandio neu ei gadw o dan ddeddfwriaeth cyfiawnder ieuenctid.
Trefniadau ar gyfer gadael gofal, cynghorwyr personol, cynlluniau ac asesiadau llwybrau, llety addas a chymorth ar gyfer addysg uwch
395. Mae’r bennod hon yn ymwneud â chymorth ar gyfer pobl ifanc nad ydynt bellach yn derbyn gofal. Mae’r bobl ifanc hyn yn cynnwys y rhai sy’n gadael gofal o dan 18 oed (mae’r Ddeddf yn cyfeirio atynt fel ‘person ifanc categori 2’), y rhai sy’n gadael gofal sy’n 18 oed a throsodd (‘person ifanc categori 3’), a’r rhai sy’n gadael gofal sy’n ailgysylltu â gofal yn 21 oed ar gyfer addysg a hyfforddiant (‘person ifanc categori 4’).
396. Mae hefyd yn ymwneud â phobl ifanc a adawodd ofal o dan Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig (‘person ifanc categori 5’), a phlant eraill a oedd yn derbyn gofal neu’n cael eu lletya gynt sydd â hawl i gyngor a chymorth o bosibl (‘person ifanc categori 6’). Mae categorïau amrywiol person ifanc, yn unol â diffiniad adran 104 o’r Ddeddf, wedi’u hegluro’n fanylach isod.
397. Mae cymorth ar gyfer pobl ifanc 16-17 oed sy’n parhau i dderbyn gofal (‘person ifanc categori 1’) wedi’i gynnwys ym mhennod 1. Mae hyn yn disgrifio fframwaith cynhwysfawr o asesu, cynllunio gofal a chymorth, ymyrraeth ac adolygu achosion gan awdurdodau lleol i baratoi pobl ifanc 16 a 17 oed ar gyfer amser pan na fyddant yn derbyn gofal.
398. Dylid darllen y bennod hon ochr yn ochr â’r cod ymarfer yn ymwneud â Rhan 11 o’r Ddeddf, sy’n cynnwys plant a phobl ifanc yn y sefydliad diogel. Mae rhai darpariaethau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal yn cael eu datgymhwyso pan fydd person ifanc yn cael ei gollfarnu a’i ddedfrydu i lety cadw ieuenctid neu gartref plant diogel, ond mae modd eu hadfer ar ôl i’r unigolyn gael ei ryddhau, gan ddibynnu ar ei oedran.
Diffiniadau
399. Mae Adran 104 o’r Ddeddf yn diffinio chwe chategori o bobl ifanc, mewn perthynas â gadael gofal.
Diffiniad
|
Prif Oblygiadau Statudol |
Person ifanc categori 1
Mae adran104 (2) o’r Ddeddf yn diffinio plentyn categori 1 fel plentyn:
(a) sy’n 16 neu’n 17 oed (b) sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (c) sydd wedi bod yn derbyn gofal awdurdod lleol am gyfnod o 13 wythnos, neu gyfnodau yr oedd eu cyfanswm yn 13 wythnos,
a ddechreuodd ar ôl i’r plentyn gyrraedd 14 oed ac a ddaeth i ben ar ôl iddo gyrraedd 16 oed[16].
(Mae’r cod hwn yn cyfeirio at berson ifanc o’r fath fel person ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal.) |
Mae gan awdurdodau lleol yr un rhwymedigaethau statudol mewn perthynas â phobl ifanc categori 1 â’r hyn sydd ganddynt ar gyfer plant eraill sy’n derbyn gofal ganddynt, gan gynnwys dyletswydd i gynnal eu cynllun gofal a chymorth Rhan 6, cynnal adolygiadau rheolaidd o achosion a phenodi swyddog adolygu annibynnol ar gyfer y plentyn. Hefyd, mae’n rhaid iddynt:
· baratoi asesiad o anghenion y plentyn er mwyn penderfynu pa gyngor, cymorth a chefnogaeth y byddai’n briodol eu darparu ar ei gyfer (tra bod y plentyn yn derbyn gofal a phan nad yw bellach yn derbyn gofal) - gweler adran 107 o’r Ddeddf. · paratoi cynllun llwybr (sy’n cynnwys cynllun gofal a chymorth a chynllun addysg personol y plentyn) cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau’r asesiad o anghenion · cynnal adolygiadau rheolaidd o’r cynllun llwybr · penodi cynghorydd personol ar gyfer y plentyn – gweler adran 106 o’r Ddeddf.
|
Person ifanc categori 2
Mae adran104 (2) o’r Ddeddf yn diffinio plentyn categori 2 fel plentyn:
(a) sy’n 16 neu’n 17 oed (b) nad yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, ac (c) a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1.
Mae’r cod hwn yn cyfeirio at berson ifanc o’r fath fel rhywun 18 oed sy’n gadael gofal. |
Mae’r dyletswyddau llawn wedi’u nodi yn adran 109 o’r Ddeddf. Hefyd, mae gan yr awdurdod lleol rwymedigaethau o dan adrannau 105, 106 a 107 mewn perthynas â phersonau ifanc o’r fath.
Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol a fu’n gofalu am y plentyn olaf:
· ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn drwy ei gynnal, darparu llety addas iddo neu ei gynnal mewn llety o’r fath, a darparu cymorth i ddiwallu ei anghenion mewn perthynas ag addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth yn unol â’r cynllun llwybr · paratoi cynllun llwybr cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau unrhyw asesiad o anghenion · cynnal adolygiadau rheolaidd o’r cynllun llwybr · penodi cynghorydd personol ar gyfer y plentyn (oni bai bod hynny eisoes wedi digwydd pan oedd y plentyn yn blentyn categori 1).
|
Person ifanc categori 3
Mae adran104 (2) o’r Ddeddf yn diffinio person ifanc categori 3 fel person ifanc 18 oed neu drosodd:
(a) sydd wedi bod yn berson ifanc categori 2 (ac a fyddai’n parhau i fod felly pe bai o dan 18 oed), neu (b) a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol pan gyrhaeddodd 18 oed ac a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn blentyn categori 1.
Mae’r cod hwn yn cyfeirio at berson ifanc o’r fath fel rhywun 18 oed neu drosodd sy’n gadael gofal. |
Mae’r dyletswyddau llawn wedi’u nodi yn adrannau 105, 106, 107 a 110 o’r Ddeddf.
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 roi cymorth i’r person ifanc hwnnw drwy:
· gyfrannu, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant y person ifanc, at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu yn chwilio am waith cyflogedig · cyfrannu, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant ac anghenion addysg neu hyfforddiant y person ifanc, at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant · gwneud grant i’r person ifanc, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant ac anghenion addysg neu hyfforddiant y person ifanc, i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant · gwneud unrhyw beth arall sy’n briodol yn ei farn ef, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant y person ifanc · os oes gan y person ifanc drefniant byw ôl-18, monitro a chynnal y trefniant drwy ddarparu cyngor a chymorth i’r person ifanc a’r cyn-riant maeth – gweler adran 108 o’r Ddeddf · cymryd camau rhesymol i gadw mewn cysylltiad â’r person ifanc, ac ailsefydlu’r cyswllt os yw’n colli cyswllt · parhau i gynnal adolygiadau rheolaidd o’r cynllun llwybr · parhau i benodi cynghorydd personol ar gyfer y person ifanc · os yw’r person ifanc yn dilyn addysg uwch yn unol â’i gynllun llwybr, talu bwrsariaeth addysg uwch · darparu llety gwyliau addas ar gyfer y person ifanc sy’n dilyn addysg uwch, neu dalu digon o arian i’r person ifanc gael llety.
Mae’r dyletswyddau hyn yn parhau nes bod y person ifanc categori 3 yn cyrraedd 21 oed; neu, os yw’r rhaglen yn ymestyn y tu hwnt i 21 oed, nes bod y rhaglen addysg neu hyfforddiant yn dod i ben. Os yw’r person ifanc yn peidio â dilyn rhaglen addysg neu hyfforddiant yn unol â’i gynllun llwybr, gall yr awdurdod lleol ddiystyru unrhyw amhariad os yw wedi’i fodloni y bydd person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
|
Ystyr person ifanc categori 4 yw person:
(a) sy’n berson ifanc categori 3 y mae’r dyletswyddau o dan adrannau 105, 106, 107(3) a (10) a 110 o’r Ddeddf wedi peidio â bod yn gymwys iddo (gweler adran 111 o’r Ddeddf) (b) sydd wedi hysbysu’r awdurdod lleol ei fod yn dilyn, neu ei fod yn dymuno dilyn, rhaglen addysg neu hyfforddiant, ac (c) sydd heb gyrraedd 25 oed neu unrhyw oedran is a bennir.
(Mae’r cod hwn yn cyfeirio at berson ifanc o’r fath fel person ifanc sy’n ailgysylltu â gofal at ddibenion addysg neu hyfforddiant.) |
Mae’r dyletswyddau llawn wedi’u nodi yn adrannau 106, 107 a 112 o’r Ddeddf.
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 roi cymorth i’r person ifanc hwnnw, i’r graddau y bo’n ofynnol i’w anghenion addysg neu hyfforddiant, drwy:
· os yw’r person ifanc yn dilyn addysg uwch yn unol â’i gynllun llwybr, talu bwrsariaeth addysg uwch
Mae’r dyletswyddau yn parhau nes bod y person ifanc categori 4 yn cyrraedd 25 oed; neu, os yw’r rhaglen yn ymestyn y tu hwnt i 25 oed, nes bod y rhaglen addysg neu hyfforddiant yn dod i ben. Os yw’r person ifanc yn peidio â dilyn rhaglen addysg neu hyfforddiant yn unol â’i gynllun llwybr, gall yr awdurdod lleol ddiystyru unrhyw amhariad os yw wedi’i fodloni y bydd person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
|
Ystyr person ifanc categori 5 yw person:
(a) sydd wedi cyrraedd 16 oed ond heb gyrraedd 21 oed eto (b) y mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn cysylltiad ag ef (neu a oedd mewn grym pan gyrhaeddodd 18 oed), ac (c) a oedd, yn union cyn gwneud y gorchymyn hwnnw, yn derbyn gofal gan awdurdod lleol.
(Mae’r cod hwn yn cyfeirio at berson ifanc o’r fath fel person ifanc sydd wedi gadael gofal o dan Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig.) |
Mae’r dyletswyddau llawn wedi’u nodi yn adran 114 o’r Ddeddf.
Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a oes angen cymorth o’r math y mae’n gallu ei ddarparu o dan adran 114 ar y person ifanc. Os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y person a oedd yn gofalu am y person ifanc y cyfleusterau angenrheidiol i’w gynghori neu ymgyfeillio ag ef, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynghori ac ymgyfeillio â’r person ifanc, a’i gynorthwyo:
· ar ffurf da · drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw’n agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu’n chwilio am waith · drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw’n agos i’r lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant · drwy roi grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant · drwy ddarparu llety, os na chaniateir i gymorth gael ei roi o dan y 3 phwynt bwled blaenorol · mewn arian parod.
Gall yr awdurdod lleol hefyd roi cymorth Dan rai amgylchiadau os yw’r person ifanc o dan 25 oed ac y byddai’n berson ifanc categori 5 pe bai o dan 21 oed.
Dan rai amgylchiadau, gall yr awdurdod lleol ddiystyru unrhyw amhariad i hyfforddiant neu addysg os yw wedi’i fodloni y bydd person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Yn yr amgylchiadau hyn, gall yr awdurdod lleol ddarparu llety gwyliau addas i’r person ifanc neu dalu digon i sicrhau llety ar ei gyfer.
|
Person ifanc categori 6
Ystyr person ifanc categori 6 yw person, ac eithrio person ifanc categori 5:
(a) a oedd, ar unrhyw adeg ar ôl cyrraedd 16 oed ond tra oedd yn dal yn blentyn, yn derbyn gofal neu wedi ei letya neu ei faethu ond nad yw’n derbyn gofal nac yn cael ei letya na’i faethu mwyach (b) os oedd wedi’i letya neu ei faethu felly, sydd bellach o fewn Cymru, ac (c) nad yw wedi cyrraedd 21 oed eto.
(Mae’r cod hwn yn cyfeirio at berson ifanc o’r fath fel person ifanc nad oedd yn cael ei ystyried yn berson sy’n gadael gofal.) |
Mae’r dyletswyddau llawn wedi’u nodi yn adrannau 105 a 115 o’r Ddeddf. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a yw’r amodau isod wedi’u bodloni mewn perthynas â’r person ifanc: Mae angen cymorth ar y person ifanc o fath y gall yr awdurdod lleol ei roi, a bod yr awdurdod lleol wedi’i fodloni nad oes gan y person a oedd yn gofalu am, yn lletya neu’n maethu’r person ifanc y cyfleusterau angenrheidiol i’w gynghori neu ymgyfeillio ag ef. Os yw’r ddau amod wedi’u bodloni, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynghori ac ymgyfeillio â’r person ifanc.
Pan fydd gan awdurdod lleol, o dan adran 115(5), ddyletswydd i gynghori ac ymgyfeillio â’r person ifanc, neu os yw wedi’i rymuso i wneud hynny, gall roi cymorth:
· ar ffurf da · drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu yn chwilio am waith cyflogedig (mae’r pwynt bwled hwn a’r ddau bwynt bwled canlynol ond yn berthnasol os yw’r person ifanc yn perthyn i’r categori hwn oherwydd bod adran 104(3)(a) o’r Ddeddf yn berthnasol iddo) · drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant · drwy roi grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant · drwy ddarparu llety os na chaniateir i gymorth gael ei roi mewn cysylltiad â’r llety a nodwyd uchod · mewn arian parod.
Gall yr awdurdod lleol hefyd roi cymorth Dan rai amgylchiadau os yw’r person ifanc o dan 25 oed ac y byddai’n berson ifanc categori 6 pe bai o dan 21 oed.
Dan rai amgylchiadau, gall yr awdurdod lleol ddiystyru unrhyw amhariad i hyfforddiant neu addysg os yw wedi’i fodloni y bydd person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Yn yr amgylchiadau hyn, gall yr awdurdod lleol ddarparu llety gwyliau addas i’r person ifanc neu dalu digon i sicrhau llety ar ei gyfer. |
Pontio
400. Un o’r canlyniadau allweddol ar gyfer pob person ifanc sy’n gadael gofal yw ei fod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arno i bontio’n llwyddiannus i fyd oedolion a symud tuag at fywyd mwy annibynnol.
401. Dylai’r rhai sy’n gadael gofal ddisgwyl yr un lefel o ofal a chymorth ag y byddai eraill yn ei ddisgwyl gan riant rhesymol. Dylai’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am eu gofal a’u cymorth sicrhau eu bod yn derbyn y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ymdopi ag ysgwyddo cyfrifoldebau bod yn oedolyn.
402. Nid y gwasanaethau cymdeithasol yn unig sy’n effeithio ar fywydau’r bobl ifanc hyn. Pan fydd plentyn yn dechrau derbyn gofal, mae ei lesiant o ddiddordeb i holl aelodau etholedig a swyddogion yr awdurdod lleol, fel rhieni corfforaethol, a rhaid iddynt ystyried yr egwyddorion canlynol wrth ymgysylltu â’r plentyn a gwneud unrhyw benderfyniadau yn ymwneud ag ef:
· a yw hyn yn ddigon da i’m mhlentyn fy hun?
· a yw hyn yn cynnig ail gyfle os nad yw pethau’n mynd yn ôl y disgwyl?
· a yw hyn yn diwallu anghenion unigol y plentyn, yn enwedig os yw’n fwy agored i niwed na phlant eraill?
403. Dylai’r diddordeb hwn gynnwys addysg, iechyd a llesiant y plentyn; beth y mae’n ei wneud yn ei amser hamdden a’i wyliau; sut mae’n dathlu ei ddiwylliant; a sut mae’n derbyn canmoliaeth ac anogaeth ar gyfer ei lwyddiannau. Mae’r diddordeb hwn yn parhau wrth i’r plentyn droi’n berson ifanc ac yn dechrau paratoi ar gyfer yr amser pan fydd yn gadael gofal.
404. Mae Swyddog Adolygu Annibynnol y person ifanc yn gwneud gwaith hanfodol yn sicrhau bod safbwyntiau person ifanc yn cael eu hystyried yn y broses o gynllunio i adael gofal. Cyn symud person ifanc, mae’n rhaid cynnal cyfarfod adolygu statudol o dan gadeiryddiaeth y Swyddog Adolygu Annibynnol er mwyn gwerthuso parodrwydd person ifanc i symud, a’r paratoadau ar gyfer hynny. Ni ddylai unrhyw berson ifanc deimlo rheidrwydd i ‘adael gofal’ cyn ei fod yn barod i wneud hynny.
405. Dylai’r person ifanc, y gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am gyfrannu at gynllun gofal a chymorth a chynllun llwybr y person ifanc, a’r adolygiad gytuno bod Rhan 6 y person ifanc wedi datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i reoli unrhyw bontio i fywyd mwy annibynnol, lle bydd llai o gymorth ar gael. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod pawb sy’n gadael gofal yn derbyn cymorth gadael gofal priodol, a bod anghenion gofal a chymorth y person ifanc yn cael eu hasesu a’u hadolygu yn gyson.
406. Mae’n rhaid i gynlluniau ar gyfer pontio i fyd oedolion fod ar waith ar gyfer pob person ifanc 16 a 17 oed sydd wedi bod yn derbyn gofal am o leiaf 13 wythnos ar ôl cyrraedd 14 oed. Gall y 13 wythnos fod yn ddi-dor neu gynnwys cyfnodau gofal ar wahân. Nid ydynt yn cynnwys lleoliadau tymor byr sy’n deillio o ofal seibiant, ond rhaid iddynt gynnwys cyfnod o amser (o leiaf 24 awr) ar ôl cyrraedd 16 oed.
407. Mae’n rhaid cynllunio pontio i fyd oedolion ar gyfer pob person sy’n derbyn gofal, waeth pa statws arall sydd ganddo. Mae Rheoliad 3 o Reoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau CL”)[17] yn diffinio grŵp ychwanegol o bobl ifanc a fyddai’n gallu derbyn cymorth o dan y Ddeddf oni bai am y ffaith eu bod yn cael eu cadw wrth gyrraedd 16 oed mewn canolfan remánd, sefydliad troseddwyr ifanc neu ganolfan hyfforddi ddiogel, neu mewn unrhyw sefydliad arall o dan orchymyn llys, neu mewn ysbyty.
408. Bydd pobl ifanc 16 neu 17 oed, a oedd gynt yn derbyn gofal ac sydd wedi dychwelyd adref (h.y. wedi newid o fod yn berson ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal i fod yn berson ifanc dan 18 oed sy’n gadael gofal) yn newid eto i fod yn berson ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal os yw’r trefniant hwn yn methu cyn eu pen-blwydd yn 18 oed.
409. Mae’r cyfrifoldebau a nodir yn y Ddeddf a’r Rheoliadau CL ar gyfer cynllunio gofal a chymorth parhaus yn berthnasol i bawb sy’n gadael gofal nes eu bod yn cyrraedd 21 oed neu, os ydynt yn derbyn cymorth ar gyfer addysg neu hyfforddiant, hyd at ddiwedd y rhaglen addysg neu hyfforddiant y cytunwyd arni (sy’n gallu para y tu hwnt i’w pen-blwydd yn 25 oed). Os yw person ifanc a oedd gynt â’r hawl i wasanaethau gadael gofal yn dymuno dilyn addysg neu hyfforddiant ychwanegol ar ôl 21 oed, ond cyn 25 oed, mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i awdurdod cyfrifol y person ifanc sicrhau ei fod yn derbyn cymorth parhaus gan gynghorydd personol fel person ifanc sy’n ailgysylltu â gofal.
410. Os yw person ifanc yn ailgysylltu â gofal ar gyfer addysg neu hyfforddiant, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol (os yw’n asesu bod angen) ddarparu llety gwyliau (neu’r modd o sicrhau hynny) ar gyfer y person ifanc hyd at 25 oed.
411. Gall awdurdodau lleol roi cyngor, arweiniad a chymorth ar gyfer grwpiau penodol o bobl ifanc sy’n gymwys i dderbyn cymorth gadael gofal. Gall rhai pobl ifanc a adawodd ofal o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig (person ifanc ‘categori 5’), neu na wnaethant gymhwyso fel person ifanc yn gadael gofal (‘categori 6’), fod yr un mor agored i niwed, a bod ag anghenion tebyg iawn, i bobl ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal (‘categori 1’), y rhai sy’n gadael gofal o dan 18 oed (‘categori 2’) neu’r rhai 18 oed a throsodd sy’n gadael gofal (‘categori 3’), a bydd angen i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn ymateb yn ddigonol i anghenion unigol y bobl ifanc hyn.
412. Mae Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig 2005 yn nodi pa awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer person ifanc categori 5 a adawodd ofal o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig. Mae adran 104(5) o’r Ddeddf yn nodi pa awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer person ifanc categori 6 nad oedd yn gymwys i fod yn berson ifanc sy’n gadael gofal. O safbwynt person ifanc a oedd gynt yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, yr awdurdod perthnasol yw’r un a oedd yn gofalu amdano olaf. O safbwynt rhywun sy’n gymwys i dderbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth o dan unrhyw un o’r darpariaethau eraill, yr awdurdod perthnasol yw’r awdurdod lleol yn yr ardal lle mae’r person wedi gofyn am gymorth.
413. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol asesu anghenion person ifanc cymwys a oedd gynt yn derbyn gofal er mwyn penderfynu a oes angen gwybodaeth, cyngor a chymorth arno. Ar ôl yr asesiad, os yw’r awdurdod yn penderfynu y bydd angen gofal a chymorth dros gyfnod o amser, dylai greu cynllun gyda’r person ifanc yn amlinellu’r gofal a chymorth a ddarperir. Gall y cynllun sy’n cael ei greu ddilyn yr un fformat â chynllun llwybr ar gyfer unigolyn categori 2 o dan 18 oed neu unigolyn categori 3 18 a throsodd sy’n gadael gofal. Bydd y cynllun yn amlinellu’r gofal a’r cymorth sydd i’w darparu i’r person ifanc, gan gynnwys, os oes angen, unrhyw gymorth ariannol. Dylai’r cynllun gael ei lunio gan berson cymwys.
414. Mae’n bosibl y bydd angen gwybodaeth, cyngor a chymorth ar berson ifanc na dderbyniodd ofal am 13 wythnos. Os yw’r person ifanc yn dychwelyd adref, o bosibl yn dilyn penderfyniad a wnaed yn ei adolygiad statudol cyntaf fel plentyn sy’n derbyn gofal, ni ddylid ystyried y person ifanc hwnnw yn berson ifanc categori 6 nad oedd yn gymwys i fod yn rhywun sy’n gadael gofal o dan Ran 6 o’r Ddeddf – yn hytrach, dylid darparu cymorth ar gyfer y person ifanc a’i deulu o dan Ran 4 o’r Ddeddf (‘diwallu anghenion’).
415. Dylai’r awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig a gwybodaeth ar y we ar gyfer pobl ifanc categori 5 a adawodd ofal o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig neu bobl ifanc categori 6 nad oeddent yn gymwys i fod yn rhywun sy’n gadael gofal, yn rhoi gwybod iddynt am eu hawl i gael asesiad a’r gwasanaethau amrywiol sydd ar gael yn dilyn asesiad. Mae’n rhaid i hyn gynnwys gwybodaeth glir am sut i ddefnyddio gweithdrefnau cwynion a sylwadau’r awdurdod lleol o dan Ran 10 o’r Ddeddf.
Gwarcheidiaeth arbennig
416. Gall plant a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn union cyn i orchymyn gwarcheidiaeth arbennig gael ei wneud fod yn gymwys i dderbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth o dan y Ddeddf fel person ifanc categori 5 a adawodd ofal o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig. Mae adran 104(2) yn diffinio person ifanc o’r fath fel person:
· sydd wedi cyrraedd 16 oed, ond heb gyrraedd 21 oed eto
· y mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn cysylltiad ag ef (neu, os yw’r person ifanc wedi cyrraedd 18 oed, yr oedd mewn grym pan gyrhaeddodd yr oedran hwnnw)
· a oedd, yn union cyn gwneud y gorchymyn hwnnw, yn derbyn gofal gan awdurdod lleol.
417. Dylai’r awdurdod lleol perthnasol wneud trefniadau i sicrhau bod pobl ifanc sy’n bodloni’r meini prawf hyn yn derbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth.
Gwasanaethau eirioli
418. Fel y nodwyd ar dudalen 11, mae Rhan 10 o’r Ddeddf yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol mewn perthynas â gwasanaethau eiriolaeth statudol. Mae’n rhaid i bob plentyn sy’n derbyn gofal fod yn ymwybodol o’i hawl i gymorth eiriolaeth annibynnol a sut i ddod o hyd iddo. Mae’r hawl hon yn berthnasol i fwy nag achosion lle mae plentyn sy’n derbyn gofal neu rywun sy’n gadael gofal yn dymuno cwyno, ac mae’n cynnwys sefyllfaoedd lle mae angen i blant neu bobl ifanc gyflwyno sylwadau ynglŷn ag ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarparodd yr awdurdod lleol.
419. Bydd mynediad i eiriolaeth yn arbennig o bwysig lle mae proses yr awdurdod lleol o wneud penderfyniadau yn effeithio ar y plentyn neu’r person ifanc, er enghraifft pa mor barod yw e i symud o’i leoliad gofal. Mae’n bosibl y bydd angen cymorth annibynnol arno yn aml er mwyn lleisio ei farn a mynegi ei ddymuniadau a’i deimladau ynglŷn â’r cymorth y bydd ei angen arno ar gyfer y dyfodol. Mae’n rhaid i bawb sy’n gweithio gyda’r plentyn sicrhau bod y plentyn yn deall rôl eiriolaeth a’i fod yn ymwybodol o sut i gael gafael ar eiriolaeth. Mae hyn yn cynnwys rolau ffurfiol fel y gweithiwr cymdeithasol, y cynghorydd personol, y swyddog adolygu annibynnol a’r swyddog cwynion, yn ogystal â rolau llai ffurfiol eraill, fel bod y plentyn yn gallu mynegi ei safbwyntiau a’i deimladau ynglŷn â’r cymorth y bydd ei angen arno yn y dyfodol.
Cynllunio gofal a chymorth a chynlluniau llwybr
420. Ni ddylai pontio i fyd oedolion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ddechrau ar eu pen-blwydd yn 16 oed. Dylai’r broses o baratoi ar gyfer yr amser pan na fyddant yn derbyn gofal fod yn rhan hanfodol o’r broses o gynllunio gofal a chymorth gydol eu hamser mewn gofal. Yn ogystal â materion ymarferol, dylai hyn hefyd gynnwys paratoadau emosiynol ar gyfer gadael gofal. Gall y cyfnod pontio pan fydd y rhai sy’n gadael gofal yn paratoi i fyw’n annibynnol a’r amser yn union ar ôl iddynt adael gofal arwain at heriau sylweddol i’w llesiant emosiynol. Dylai gwaith paratoi ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal gynnwys helpu’r rhai sy’n gadael gofal i gynnal perthynas â’r bobl a fydd yn gallu parhau i’w cefnogi ar ôl iddynt adael gofal.
421. Mae adran 107 o’r Ddeddf yn nodi bod angen paratoi cynllun llwybr ar gyfer pob person ifanc 16 neu 17 oed categori 1 sy’n derbyn gofal, pobl ifanc dan 18 oed categori 2 sy’n gadael gofal neu bobl ifanc 18 oed a throsodd categori 3 sy’n gadael gofal, a phobl ifanc categori 4 sy’n gadael gofal sydd wedi ailgysylltu â gofal at ddibenion addysg neu hyfforddiant. Bydd cynllun llwybr pob person ifanc yn seiliedig ar, ac yn cynnwys, ei gynllun gofal a chymorth Rhan 6, a bydd yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol, y person ifanc, rhieni a gofalwyr, a phob asiantaeth sy’n gysylltiedig â’r person ifanc eu rhoi ar waith, er mwyn sicrhau bod y person ifanc yn derbyn y gwasanaethau sydd eu hangen arno i wireddu ei ddyheadau a phontio’n llwyddiannus i fyd oedolion. Mae’n rhaid i’r cynllun hwn fod yn ‘ddogfen fyw’ sy’n nodi sut y caiff y gwasanaethau eu darparu i helpu’r person ifanc i sicrhau’r canlyniadau a nodwyd yn y cynllun llwybr.
422. Mae’n rhaid i bob person ifanc categori 2 a 3 sy’n gadael gofal, o dan 18 oed a thros 18 oed, a phob person ifanc categori 4 sy’n gadael gofal fod â chynllun llwybr sy’n seiliedig ar asesiad cyfredol a thrylwyr o’u hanghenion.
423. Mae’n rhaid i’r cynllun llwybr ystyried:
· iechyd a datblygiad y person ifanc
Bydd hyn yn datblygu’r wybodaeth yng nghynllun iechyd y person ifanc, a oedd yn rhan o’i gynllun gofal a chymorth Rhan 6 pan oedd yn derbyn gofal. Dylai gynnwys iechyd corfforol, iechyd emosiynol ac iechyd meddwl.
· addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
Dylai’r cynllun addysg personol barhau i gael ei gynnal tra bod y person ifanc yn parhau i dderbyn addysg llawnamser neu ran-amser. Bydd y wybodaeth yn y cynllun yn llywio’r cynllun llwybr yn uniongyrchol. Mae’n rhaid i gynlluniau llwybr ganolbwyntio’n benodol ar gynllunio gyrfaoedd, gan ystyried dyheadau, sgiliau a photensial addysgol y person ifanc.
· cyswllt â rhieni, teulu ehangach a ffrindiau’r person ifanc
Mae hyn yn cynnwys gallu’r rhwydwaith hwn i annog y person ifanc a’i alluogi i bontio’n llwyddiannus i fyd oedolion.
· galluoedd ariannol a rheoli arian
Bydd hyn yn canolbwyntio ar allu’r person ifanc i reoli ei arian ei hun, ac ar amlinellu strategaethau i ddatblygu sgiliau’r person ifanc yn y maes hwn.
424. Mae’n rhaid i’r broses asesu a chynllunio llwybr ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal gynnwys dadansoddiad gofalus ar sail tystiolaeth o angen parhaus y person ifanc ar gyfer llety a gofal a chymorth, gan gynnwys a ddylai barhau i dderbyn gofal. Os yw’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer y person ifanc wedi’i gynnal a’i ddiweddaru, dylai datblygiad y cynllun llwybr adeiladu ar wybodaeth a gwasanaethau a nodwyd yn y cynllun gofal a chymorth Rhan 6, gan ymgorffori’r gwasanaethau a ddarperir i’r person ifanc er mwyn datblygu ei gadernid a’i alluogi i bontio’n llwyddiannus i fyd oedolion, fel y gallai reoli’r heriau sy’n deillio o fyw yn fwy annibynnol.
425. Os oes unrhyw gynnig y dylai’r person ifanc symud i lety gwahanol fel rhan o’i daith i fyd oedolion, mae’n rhaid i’r cynllun llwybr gynnwys asesiad penodol o’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen arno i ddatblygu’r sgiliau i fod yn barod am y newid sylweddol hwn a’i effaith ar ei lesiant emosiynol. Mae’n rhaid i’r cynllun gynnwys asesiad trylwyr o addasrwydd y llety posibl ar gyfer y person ifanc.
426. Mae angen gwybodaeth ddigonol, berthnasol a chywir ar bobl ifanc ynglŷn â ble y gallent fyw ar ôl gadael gofal. Bydd rôl gofalwyr maeth, gweithwyr preswyl a chynghorwyr personol yn hollbwysig wrth baratoi pobl ifanc ar gyfer byw yn fwy annibynnol a’u gwneud yn ymwybodol o’r dewisiadau tai sydd fwyaf tebygol o fod ar gael pan eu bod yn gadael gofal. Dylai’r paratoadau a’r camau nesaf arfaethedig gael eu cynnwys yn y cynllun llwybr.
427. Mae’n bwysig iawn bod gwybodaeth am allu ariannol y person ifanc yn gyfoes a’i bod wedi’i hasesu’n drylwyr cyn ei fod yn cymryd unrhyw gam tuag at fyw yn fwy annibynnol.
Cynlluniau llwybr ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed categori 2 sy’n gadael gofal
428. Mae’n rhaid paratoi cynllun llwybr ar gyfer pob person ifanc o dan 18 oed sy’n gadael gofal. Dylid paratoi’r cynllun llwybr cyn bod y person ifanc yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal (h.y. pan ei fod yn berson ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal), a’i ystyried mewn adolygiad statudol sy’n cael ei gadeirio gan swyddog adolygu annibynnol y person ifanc.
429. Mae’n rhaid i’r gweithiwr proffesiynol sy’n paratoi’r cynllun llwybr ar ran yr awdurdod lleol (gweithiwr dynodedig y person ifanc fel arfer) ganfod ac ystyried safbwyntiau’r person ifanc categori 2 cyn diffinio blaenoriaethau a ffocws y cynllun, oni bai nad yw’n ymarferol rhesymol gwneud hynny. Hefyd, mae’n rhaid iddo roi pob cam rhesymol ar waith i alluogi’r person ifanc i fynychu a chymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod sy’n trafod ei achos. Hefyd, dylai’r gweithiwr dynodedig ymgynghori â’r canlynol:
· rhieni’r person ifanc, oedolion eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant ac aelodau perthnasol o rwydwaith ehangach y teulu lle y bo’n briodol ac yn ddiogel gwneud hynny
· gofalwr presennol y person ifanc ac unrhyw un a all ddarparu cymorth tai a llety yn y dyfodol
· person dynodedig y person ifanc yn yr ysgol, ei diwtor coleg neu weithiwr addysg proffesiynol arall sy’n gyfarwydd ag anghenion dysgu ac amcanion addysgol y person ifanc
· yr awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr ar gyfer yr ardal lle mae’r person ifanc yn byw os yw’n wahanol i’r awdurdod cyfrifol
· unrhyw ymwelydd annibynnol a benodir ar gyfer y person ifanc
· y nyrs arbenigol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal neu unrhyw weithiwr meddygol proffesiynol arall a enwir yn y cynllun iechyd sy’n darparu gofal neu driniaeth iechyd
· os yw’r person ifanc yn cael ei gadw, cyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig y carchar neu’r llety cadw ieuenctid
· unrhyw gynghorydd personol sydd eisoes wedi’i benodi i gefnogi’r person ifanc
· swyddog adolygu annibynnol y person ifanc
· unrhyw eiriolwr sy’n gweithredu ar ran y person ifanc.
430. Mae’n hanfodol cynnal sgwrs â’r person ifanc ynglŷn â’r rhai y dylid cysylltu â hwy i gyfrannu at ei gynllun llwybr. Ni fydd yn briodol bob amser i bob un o’r rhai a restrir uchod gyfrannu at y broses o gynllunio’r llwybr – er y byddai angen cyfiawnhad hynod gryf dros gwblhau cynllun llwybr heb gyfeirio at ofalwr y person ifanc neu at gyngor proffesiynol yn ymwneud â llwybr addysg, hyfforddiant a chyflogaeth y person ifanc.
431. Mae’n rhaid i safbwyntiau’r person ifanc gael eu cofnodi a’u cynnwys yn y cynllun llwybr. Os oes modd, dylid ysgrifennu’r cynllun mewn iaith sy’n hawdd i’r person ifanc ei deall. Hefyd, mae’n rhaid i’r cynllun ddangos sut mae trefniadau i gynorthwyo’r person ifanc wedi ystyried safbwyntiau’r bobl eraill a restrwyd uchod. Dylid nodi unrhyw anghytuno rhwng y person ifanc a’r gweithwyr proffesiynol yn ofalus.
432. Mae’n rhaid rhoi copi o’r cynllun i’r person ifanc. Os yw asiantaethau yn cyfrannu at y cynllun llwybr, bydd yn arfer da sicrhau bod ganddynt gopi o ddarn perthnasol y cynllun sy’n cyfeirio at eu cyfraniad. Dylai’r copi hwn gael ei lofnodi gan gynrychiolydd yr asiantaeth, y person ifanc a’i gynghorydd personol fel tystiolaeth o’u hymrwymiad i gyflawni amcanion y cynllun.
Cynghorwyr personol
433. Pan na fydd person ifanc yn derbyn gofal ac yn dod yn berson ifanc sy’n gadael gofal (p’un ai a yw hyn yn digwydd cyn ei fod yn 18 oed, neu pan ei fod yn troi’n oedolyn yn gyfreithlon wrth gyrraedd 18 oed), ni fydd yn ofynnol i’r awdurdod lleol ddarparu gweithiwr cymdeithasol i gynllunio a chydgysylltu ei ofal a’i gymorth.
434. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol benodi cynghorydd personol (CP) i’w gynorthwyo. Bydd y CP yn gweithredu fel canolbwynt i sicrhau bod y rhai sy’n gadael gofal yn derbyn y cymorth personol priodol. Dylai pawb sy’n gadael gofal wybod pwy eu CP a sut i gysylltu ag ef, fel bod modd iddynt ddibynnu ar gymorth cyson gan eu gweithiwr proffesiynol allweddol unigol gydol y cyfnod pontio i fyd oedolion.
435. Os oes modd, mae’n arfer da sicrhau bod gan berson ifanc 18 oed yr un CP ag a ddyrannwyd iddo pan oedd yn derbyn gofal yn 16 neu’n 17 oed neu’n gadael gofal o dan 18 oed. Fodd bynnag, os yw gweithiwr cymdeithasol cymwysedig wedi parhau i fod yn CP y person ifanc, gall y ffaith ei fod yn troi’n oedolyn yn gyfreithlon fod yn gyfle i drosglwyddo cyfrifoldeb i CP sydd â gallu penodol i weithio gydag oedolion ifanc. Dylid cynllunio a rheoli unrhyw broses drosglwyddo cymorth o’r fath. Er enghraifft, gellid amseru’r broses o drosglwyddo cymorth i gyd-fynd ag adolygiad arfaethedig o gynllun llwybr y person ifanc, neu adeg pan fydd y person ifanc yn fwy sefydlog yn dilyn newid mewn addysg, hyfforddiant neu lety.
Cymwysterau a sgiliau
436. Ni phennir unrhyw gymhwyster proffesiynol neu alwedigaethol i benderfynu pa weithiwr proffesiynol a ddylai gyflawni swyddogaeth CP ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n gadael gofal.
437. Dylai unrhyw un a benodir fel CP:
· feddu ar ddealltwriaeth gadarn y gellir ei dangos o anghenion datblygiadol ac emosiynol person ifanc
· deall yr ansicrwydd sy’n wynebu plant sy’n derbyn gofal wrth iddynt bontio i fyd oedolion
· meddu ar wybodaeth ymarferol am y materion amrywiol y gall y rhai sy’n gadael gofal eu hwynebu wrth iddynt bontio i fyd oedolion
· deall y fframwaith cyfreithiol sy’n effeithio ar y rhai sy’n gadael gofal
· gallu deall deddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â thai a digartrefedd, gan weithredu yn unol â hi.
438. Dylai awdurdodau lleol recriwtio cronfa eang o gynghorwyr personol, fel bod gan bobl ifanc ddewis gwirioneddol, gan ystyried materion fel rhywedd ac ethnigrwydd. Bydd gan bobl ifanc farn ar y mathau o briodweddau y byddant yn eu disgwyl gan eu CP, a dylid ystyried y rhain wrth baru gofalwr unigol â CP. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bob amser bod gan y CP a benodir y sgiliau gofynnol, a’i fod ar gael ar yr adegau priodol. Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am benderfynu pwy fydd yn addas i weithredu fel CP ar gyfer person ifanc penodol sy’n gadael gofal.
439. Os yw person ifanc wedi datblygu perthynas o ymddiriedaeth gyda gofalwr, dylai bod yn bosibl i’r awdurdod lleol ddirprwyo elfennau o swyddogaeth y CP iddo, gan y bydd er budd y person ifanc i ddatblygu’r cysylltiadau cadarnhaol sydd eisoes wedi’u sefydlu. Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau hyn mae’n rhaid i’r awdurdod lleol fod yn glir ynglŷn â’r gofal a’r cymorth y bydd y gofalwr yn eu darparu, a sut i reoli unrhyw wrthdaro buddiannau posibl – er enghraifft, pan fydd person ifanc yn byw fel aelod o deulu’r gofalwr, mewn trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’.
Swyddogaethau
440. Mae Rheoliadau CL yn pennu swyddogaethau CP ar gyfer person ifanc o dan 18 oed categori 2 sy’n gadael gofal a pherson ifanc 18 oed a throsodd categori 3 sy’n gadael gofal.
(a) Darparu cyngor (gan gynnwys cyngor ymarferol) a chymorth
Dylai’r cynllun llwybr gynnwys manylion y math o gymorth y gall y person ifanc ei ddisgwyl gan y CP. Gall y CP roi cyngor cychwynnol i’r rhai sy’n gadael gofal ar faterion fel y canlynol:
· gwybodaeth a chymorth sylfaenol i ddatblygu’r sgiliau ymarferol y bydd eu hangen arnynt i reoli’r disgwyliadau sy’n deillio o dderbyn cyfrifoldeb graddol am ragor o annibyniaeth
· gwybodaeth am allu ariannol – sut i reoli cyllid o ddydd i ddydd a sut i fanteisio ar unrhyw hawliau i fudd-daliadau
· gwybodaeth am y dewisiadau tai sydd ar gael i’r person ifanc, a sut i ddod o hyd i lety a chyngor
· cymorth i helpu’r person ifanc i ddatblygu ei hyder a’i allu i wneud penderfyniadau
· gwybodaeth am gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
· cymorth i ddod o hyd i swydd a’i chadw
· gwybodaeth gyffredinol am iechyd a llesiant cadarnhaol, gan gynnwys sut i ddod o hyd i wasanaethau iechyd arbenigol a dargedir (er enghraifft, gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud ag iechyd meddwl neu iechyd rhywiol)
· gwybodaeth am gyfleoedd hamdden, chwaraeon a diwylliant fel bod y rhai sy’n gadael gofal yn gallu mwynhau a chymryd rhan ym mywyd y gymuned.
Hefyd, bydd angen i’r cynllun llwybr gynnwys darpariaethau ar gyfer digwyddiadau posibl wrth i’r berthynas newid tros amser.
(b) Cyfrannu at asesiadau a pharatoi cynlluniau llwybr
Y CP yw’r gweithiwr proffesiynol allweddol â chyfrifoldeb am gydgysylltu cymorth y person ifanc sy’n gadael gofal. Oherwydd hyn, os yw amgylchiadau’r person ifanc yn newid a bod angen diwygio ei gynllun llwybr, mae’n bosibl mai’r CP fydd y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol i ailasesu ei anghenion ac awgrymu newidiadau i’r cynllun i’r awdurdod lleol, gan nodi sut bydd y person ifanc yn derbyn cymorth yn y dyfodol.
Bydd cyfathrebu â phobl ifanc wrth wraidd y broses asesu. Fodd bynnag, o safbwynt person ifanc dan 18 oed sy’n gadael gofal ac nad yw wedi troi’n oedolyn, mae’n bwysig nodi nad yw parchu dymuniadau a theimladau person ifanc yn golygu cytuno â’i holl safbwyntiau yn awtomatig. Mae’n rhaid i’r CP ddatblygu barn broffesiynol ynglŷn â buddiannau pennaf y person ifanc. Os yw’n ymddangos bod dymuniadau a theimladau pobl ifanc sy’n gadael gofal yn gwrthdaro â barn broffesiynol ar sail gwybodaeth y CP ar eu buddiannau pennaf, bydd cyfrifoldeb ar y CP i drafod ffordd resymol ymlaen â’r person ifanc.
(c) Cyfrannu at adolygu’r cynllun llwybr
Mae’n rhaid i’r CP sicrhau bod y cynllun llwybr yn cael ei adolygu ar adegau penodedig, a bydd yn gyfrifol hefyd am gynnal adolygiadau ychwanegol i ddatrys argyfyngau posibl a wynebir gan y rhai sy’n gadael gofal ac yn derbyn cymorth gan y CP.
Os oes angen gweithredu ar fyrder i ymateb i broblem a wynebir gan berson ifanc sy’n gadael gofal, ni ddylai’r broses o gynnal adolygiad i gydgysylltu trefniadau i’w gynorthwyo rwystro camau gweithredu uniongyrchol ac angenrheidiol gan y CP – a all gynnwys cysylltu ar unwaith â’r asiantaethau perthnasol.
(d) Cydweithio â’r awdurdod lleol i roi’r cynllun llwybr ar waith
Mae angen i bob CP ddeall y trefniadau ar gyfer cydweithio â’r awdurdod lleol perthnasol er mwyn rhoi’r cynllun llwybr ar waith. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol a’r CP (neu’r asiantaeth os nad yw’r cynghorydd yn gweithio i’r awdurdod) gytuno ar drefniadau ar gyfer goruchwylio a chynorthwyo’r person ifanc.
(e) Cydgysylltu darpariaeth gwasanaethau a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod y rhai sy’n gadael gofal yn defnyddio gwasanaethau
Wrth gyflwyno neu helpu i lunio’r cynllun llwybr, bydd angen i’r CP nodi’r gwasanaethau amrywiol sydd eu hangen i ymateb i bob un o anghenion y person ifanc. Bydd angen i’r CP gydgysylltu’r dull o ddarparu gwasanaethau ar gyfer y person ifanc ac ysbrydoli’r person ifanc, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fel bod gwasanaethau yn cael eu derbyn a’u defnyddio yn effeithiol. I’r diben hwn, bydd yn bwysig, i’r graddau posibl, bod gan y rhai sy’n gadael gofal rywfaint o ddewis ynglŷn â’r gwasanaethau sy’n eu cynorthwyo, a’u bod yn teimlo bod eu llais yn dylanwadu ar ansawdd a chyfeiriad y cymorth a gânt.
(f) Gwybod am gynnydd a llesiant pobl ifanc sy’n gadael gofal
Mae’n rhaid i CP fod mewn cysylltiad wyneb yn wyneb rheolaidd â phob person sy’n gadael gofal sy’n derbyn cymorth ganddo. Mae’n rhaid i’r cynllun llwybr bennu disgwyliadau ar gyfer cyswllt, ac, os yn berthnasol, trefniadau ar gyfer cadw mewn cysylltiad mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys negeseuon testun, negeseuon e-bost a galwadau ffôn rheolaidd rhwng y CP a’r person ifanc.
O dan y Rheoliadau CL, pan fydd person ifanc sy’n gadael gofal yn symud i lety newydd, mae’n rhaid i’r CP ei weld yn y llety hwnnw o fewn saith diwrnod iddo symud. Wedyn, mae’n rhaid iddo ymweld â’r person ifanc sy’n gadael gofal ar ôl adolygiad cyntaf y cynllun llwybr (ar ôl 28 diwrnod), ac o leiaf unwaith bob deufis ar ôl hynny. Mae’n bwysig deall mai gofynion sylfaenol yw’r rhain. Os yw’r rhai sy’n gadael gofal yn wynebu problemau, gallant ddisgwyl cael cyswllt personol amlach o lawer â’u CP.
(g) Cadw cofnodion llawn, cywir a chyfoes o gyswllt â’r person ifanc sy’n gadael gofal a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu
Bydd y CP yn gyfrifol am gadw cofnod cyfoes o’i gysylltiad â phob person ifanc sy’n gadael gofal (ac felly cysylltiad yr awdurdod lleol â’r person ifanc). Dylid cofnodi pob ymweliad a phob cyswllt arall â’r person ifanc. Mae’n rhaid cofnodi cyswllt ag asiantaethau eraill hefyd.
Dylai’r cynllun llwybr fod yn ddogfen fyw. Dylai’r rhai sy’n gadael gofal dderbyn copi o’u cynllun ynghyd â gwybodaeth reolaidd am y cofnodion sy’n cael eu cadw ar eu rhan a ble maent yn cael eu cadw. Dylid cynorthwyo pobl ifanc i ddod o hyd i’w ffeiliau achos yn hawdd.
Deiliaid cyllidebau
441. Mae’r CP yn gyfrifol am gydgysylltu’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolion sy’n gadael gofal. Bydd y rhain yn cynnwys galluogi’r rhai sy’n gadael gofal i ddatblygu gallu ariannol a defnyddio gwasanaethau cynnal incwm. Mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am letya a chynnal y rhai sy’n gadael gofal hefyd. Bydd dulliau pobl ifanc o ddefnyddio a rheoli eu cyllid personol yn un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu a fyddant yn gallu pontio’n llwyddiannus i fyd oedolion.
Hyfforddi a goruchwylio
442. Bydd y broses o oruchwylio CP yn cyflawni nifer o swyddogaethau:
· sicrhau bod y CP yn cynnig y gofal a’r cymorth gofynnol i bob person ifanc sy’n rhan o’i lwyth achosion, yn unol â’u cynlluniau llwybr
· datblygu sgiliau a galluoedd y CP a’i alluogi i fyfyrio ar ei ymarfer, fel ei fod yn gwella ac yn datblygu ei sgiliau ac yn cyflawni ei dasgau yn fwy effeithiol
· nodi ei anghenion hyfforddi a datblygu.
443. Dylai goruchwylwyr sicrhau bod cofnodion achosion yn y drefn gywir ac yn gyfoes, a bod gwaith cofnodi’r CP yn cydymffurfio â safonau asiantaethau. Yn ogystal â chynnal cyfarfodydd goruchwylio rheolaidd â’r CP, dylai goruchwylwyr arfarnu perfformiad pob CP drwy ofyn am adborth rheolaidd gan asiantaethau eraill a gan y bobl ifanc eu hunain.
Cymorth cynghorydd personol hyd at 25 oed
444. Yn ôl Adran 104(2) o’r Ddeddf, mae gan bobl ifanc o dan 18 oed categori 2 a oedd yn ymadawyr gofal neu bobl ifanc 18 oed a throsodd categori 3 sydd wedi gadael gofal, sy’n gymwys i dderbyn gwasanaethau gadael gofal, ac sy’n ailddechrau rhaglenni addysg neu hyfforddiant ar ôl 21 oed, hawl i gymorth cyson gan CP a ddyrannwyd gan yr awdurdod lleol perthnasol.
445. Yn y cyd-destun hwn, mae’n rhaid dehongli’r diffiniad o raglen addysg neu hyfforddiant yn eang. Gallai gynnwys, er enghraifft:
· cwblhau cwrs sgiliau sylfaenol er mwyn sicrhau bod gan y person ifanc y sgiliau rhifedd a llythrennedd sydd eu hangen i gystadlu yn y farchnad swyddi
· dilyn cwrs addysg bellach
· dilyn cwrs prifysgol
· cymorth i alluogi’r person ifanc i gwblhau cymhwyster ôl-radd cydnabyddedig
· cymryd rhan mewn hyfforddiant galwedigaethol a phrentisiaethau.
446. Dylai pob awdurdod lleol ddatblygu ei bolisi penodol ei hun sy’n nodi’r gofal a’r cymorth y mae’n barod i’w cynnig i’r grŵp hwn o bobl ifanc sy’n gadael gofal. Dylai’r polisi gael ei lunio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, a dylai fod ar gael i bobl ifanc mewn fformat hygyrch, gan gynnwys drwy iaith eu hanghenion a’r dull cyfathrebu o’u dewis.
447. Dylai’r polisïau gynnwys y wybodaeth ganlynol:
· trefniadau ynglŷn â sut y gall pobl ifanc ailgysylltu’n hwylus â’r awdurdod lleol er mwyn manteisio ar y gofal a’r cymorth
· sut bydd yr awdurdod lleol yn gweithio gyda’r person ifanc i ddatblygu cynllun llwybr newydd sy’n canolbwyntio ar addysg a hyfforddiant
· gwybodaeth am unrhyw gymorth ariannol.
448. Ym mhob achos lle mae person ifanc sy’n gadael gofal yn gofyn am y gofal a’r cymorth hwn, bydd angen i awdurdodau lleol asesu pa mor briodol yw’r cwrs addysg neu hyfforddiant a sut mae’n gallu helpu’r person ifanc i wireddu ei uchelgeisiau. Gall yr asesiad hwn fanteisio ar y wybodaeth am sgiliau a galluoedd y person ifanc a oedd yn rhan o’r cynlluniau llwybr hyd at 21 oed. Bydd faint o gymorth ymarferol ac ariannol sy’n cael ei ddarparu yn dibynnu ar asesiad yr awdurdod o anghenion y person ifanc, a bydd yn adlewyrchu natur y cwrs, a yw’n gwrs llawn-amser neu ran-amser, ac incwm presennol y person ifanc.
449. Mae’n rhaid i’r cynllun llwybr sydd wedi’i adfer ganolbwyntio’n benodol ar y gofal a’r cymorth y bydd eu hangen ar yr unigolyn sy’n gadael gofal er mwyn cyflawni’r nodau addysg neu hyfforddiant y cytunwyd arnynt â’r awdurdod lleol.
450. Mae’n bosibl y bydd pobl ifanc yn gofyn am ofal a chymorth i gwblhau cyfres o gyfleoedd addysg neu hyfforddiant, a bydd angen i awdurdodau lleol asesu eu hanghenion am gymorth cyson yn y cyswllt hwn.
451. Mae dyletswyddau’r awdurdod lleol yn parhau gydol yr amser y mae’r person ifanc yn dilyn y rhaglen addysg neu hyfforddiant y cytunwyd arni. Mae dyletswyddau’r awdurdod lleol wedi’u nodi yn y cynllun llwybr sydd wedi’i adfer.
Pobl ifanc 18-24 oed sy’n gadael gofal
452. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol barhau i ddarparu gwahanol fathau o Wybodaeth, Cyngor a Chymorth ac arweiniad i bobl ifanc dros 18 oed sy’n pontio o’r byd gofal i drefniadau byw mwy annibynnol. Mae’r gofynion hyn yn berthnasol i bobl ifanc a oedd gynt yn derbyn gofal ar ôl 16 neu 17 oed (‘categori 1’) neu bobl ifanc o dan 18 oed categori 2 sy’n gadael gofal, neu pobl ifanc 18 oed a throsodd categori 3 sy’n gadael gofal (a gallant fod yn berthnasol i bobl ifanc categori 5 sydd wedi gadael gofal o dan Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig neu bobl ifanc categori 6 nad oeddent yn gymwys i fod yn berson ifanc sy’n gadael gofal, gan ddibynnu ar asesiad yr awdurdod lleol o’u hanghenion).
453. Mae’r dyletswyddau hyn yn para yn y lle cyntaf nes bod y person ifanc yn cyrraedd 21 oed. Fodd bynnag, mae’r dyletswyddau’n para ar ôl pen-blwydd person ifanc yn 21 oed os yw’n parhau i ddilyn cwrs addysg neu hyfforddiant, ac yn para tan ddiwedd y rhaglen y cytunwyd arni, yn unol â’r hyn a nodwyd yn y cynllun llwybr.
454. Bydd y rhannau perthnasol o adrannau 109 i 115 o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol gyfrannu at y costau sy’n gysylltiedig ag addysg a hyfforddiant hyd at 21 oed. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn berthnasol i bobl ifanc categori 5 a adawodd ofal o dan Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig neu bobl ifanc categori 6 nad oeddent yn gymwys i fod yn berson ifanc sy’n gadael gofal.
Dyletswyddau
455. Mae gofynion yr awdurdod cyfrifol i ddarparu cymorth ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed sy’n gadael gofal wedi’u nodi yn adran 109 o’r Ddeddf. Byddant yn parhau i:
· ddarparu CP ar gyfer y person ifanc
· adolygu a diwygio’r cynllun llwybr yn rheolaidd
· cadw mewn cysylltiad.
Cynlluniau llwybr ar gyfer y rhai 18 oed a throsodd sy’n gadael gofal
456. Bydd y rhai 18 oed a throsodd sy’n gadael gofal yn parhau i fod â chynllun llwybr. Dylid paratoi’r cynllun yn yr un ffordd â’r cynllun llwybr ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed categori 2 sy’n gadael gofal a bydd yn cynnwys yr un pynciau ac yn cyflawni’r un swyddogaethau.
457. Fodd bynnag, ni fydd yr awdurdod lleol yn bennaf gyfrifol am gymorth ariannol a chynhaliaeth y person ifanc o hyn ymlaen. Bydd angen i’r cynllun nodi’r gwasanaethau prif ffrwd a chyffredinol (gan gynnwys llety) a fydd yn cael eu darparu i’r person ifanc, a sut maent yn cyfrannu at sicrhau canlyniadau cadarnhaol. Dylai’r cynllun adlewyrchu dyheadau uchel ar gyfer y person ifanc a rhoi mwy nag un cyfle iddo lwyddo.
458. Wrth iddynt aeddfedu a datblygu, dylai’r rhai sy’n gadael gofal allu derbyn mwy o gyfrifoldeb am reoli’r cynllun llwybr. Mae’n bosibl y bydd grymuso pobl ifanc yn golygu bod angen i CP adael i’r rhai sy’n gadael gofal gymryd risgiau, dysgu a thyfu, hyd yn oed os yw hynny’n golygu na fyddant yn llwyddo i gyflawni’r hyn y maent am ei gyflawni. Bydd angen gallu, crebwyll ac ymgysylltu proffesiynol sylweddol ar gyfer hyn, gan ganolbwyntio ar anghenion y person ifanc sy’n datblygu ac yn newid.
459. Bydd angen i CP sicrhau bod cydbwysedd rhwng peidio ag ymyrryd a mynd ati i ymyrryd er mwyn cynorthwyo person ifanc. Mae’n rhaid i CP fod yn barod i gamu i mewn a sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gofal a’r cymorth priodol i’w galluogi i lwyddo, gan gydnabod hefyd ei bod yn bosibl y bydd angen iddynt fethu weithiau a dysgu o’u camgymeriadau.
460. Os nad yw person ifanc 18 oed a throsodd sy’n gadael gofal yn bwriadu parhau i ddilyn rhaglen addysg neu hyfforddiant gymeradwy, dylid dod â’r broses gynllunio llwybr i ben os yw pawb yn cytuno, tua’r amser pan fydd y person ifanc yn cyrraedd 21 oed.
461. Gan ddibynnu a oes gan y person ifanc unrhyw anghenion sydd heb eu diwallu, dylai blwyddyn olaf y cynllun llwybr ganolbwyntio ar ddod o hyd i ffynonellau gofal a chymorth cymunedol y tu allan i wasanaethau pobl ifanc yr awdurdod lleol. O safbwynt y rhai sy’n gadael gofal nad yw eu hanghenion iechyd neu eu hanghenion gofal a chymorth parhaus yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cymorth gan wasanaethau oedolion, dylai’r CP sicrhau bod pob mathau o ofal a chymorth, gan gynnwys gofal a chymorth gan y sector gwirfoddol, yn cael eu nodi a’u hwyluso fel sy’n briodol.
Adolygu cynlluniau llwybr
462. Mae Rheoliad 6 o’r Rheoliadau CL yn nodi’r trefniadau ar gyfer paratoi cynllun llwybr pob person ifanc sy’n gadael gofal. Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol drefnu adolygiad mewn achosion lle mae’r awdurdod lleol neu’r CP yn credu bod hynny’n angenrheidiol, neu os yw’r person ifanc sy’n gadael gofal yn gofyn am adolygiad. Os yw person ifanc categori 2 o dan 18 oed sy’n gadael gofal yn symud i lety nas rheoleiddir (h.y. llety nad yw’n cael ei reoleiddio o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 na’i arolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru), mae’n rhaid cynnal yr adolygiad cyntaf o’r cynllun llwybr mor fuan ag sy’n ymarferol posibl ar ôl 28 diwrnod. Yn ogystal â sicrhau bod y cynllun llwybr yn parhau i ymateb i holl anghenion y person ifanc, un o swyddogaethau hanfodol yr adolygiad hwn fydd cadarnhau bod y person ifanc wedi ymgartrefu yn ei lety a’i fod, yn ymarferol, yn addas i’w anghenion.
463. Os yw pobl ifanc yn symud mewn ffordd sy’n cael ei chynllunio, bydd angen i’r adolygiad cyntaf benderfynu a fydd angen adolygu’r cynllun llwybr ymhen tri mis, neu a oes adolygiad ar ôl chwe mis yn fwy priodol. Bydd y penderfyniad i gynnal adolygiad yn gynharach yn dibynnu ar asesiad y CP o ba mor agored i niwed yw’r plentyn neu’r person ifanc perthnasol.
464. Mae’n ymarfer da cynnal adolygiadau yn fuan (28 diwrnod fel arfer) ar ôl i unrhyw newid yn llety’r person ifanc. Bydd hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer unrhyw
berson ifanc categori 2 o dan 18 oed sy’n gadael gofal, gan fod yr awdurdod lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am lety a chynhaliaeth y grŵp hwn o bobl ifanc, a all fod yn agored iawn i niwed. Mae’r adolygiad cyntaf yn gyfle i gadarnhau bod person ifanc wedi ymgartrefu’n dda mewn llety newydd, ac nid oes angen iddo fod yn rhy
ffurfiol. Fodd bynnag, os yw person ifanc yn gadael oherwydd bod ei amgylchiadau yn ansefydlog ac yn ansicr, mae cynnal adolygiad 28 diwrnod ar ôl iddo symud yn gyfle i ddwyn pob asiantaeth ynghyd i graffu ar y dewisiadau ar gyfer dod â sefydlogrwydd yn ôl i fywyd y person ifanc.
465. Mae’r gofynion uchod ar gyfer adolygiadau yn disgrifio’r cyfnodau hiraf sy’n cael eu caniatáu rhwng adolygiadau. Dylid cynnal adolygiad yn gynharach bob amser os oes risg asesedig y gall argyfwng ddatblygu ym mywyd person ifanc. Diben yr adolygiadau hyn yw sicrhau bod yr holl asiantaethau sy’n